Theatrau cymunedol yn dioddef yn sgil sefydliadau mawr

Jeremy Turner
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Turner

  • Cyhoeddwyd

Mae theatrau cymunedol wedi dioddef yn sgil y cynnydd mewn canolfannau celfyddydau a sefydliadau cenedlaethol.

Dyna farn un o gyfarwyddwyr theatr fwyaf profiadol Cymru sy’n dweud bod y pwyslais wedi newid ers datganoli.

Mae Jeremy Turner yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch a bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel cyfarwyddwr artistig y cwmni eleni.

Dywed Llywodraeth Cymru fod nifer o brosiectau llawr gwlad yn cael eu hariannu a bod posib i’r cyhoedd roi eu barn am flaenoriaethau’r sector i’w ymgynghoriad.

Canolfannau celfyddydol yn 'tynnu sylw'

Ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru, fe ddywedodd Jeremy Turner nad ydi theatr gymunedol yn bodoli fel ag yr oedd yn yr 1970au a’r 1980au.

Mae ganddo brofiad o weithio gyda Theatr Arad Goch ers 35 mlynedd a chyn hynny bu'n gweithio am gyfnod gyda Theatr Crwban yn gwneud gwaith mewn addysg ac yn y gymuned yn Nyfed.

Dywedodd: “Bydde ni’n gallu teithio a pherfformio cymunedol yn Nyfed yn unig am ryw chwech neu saith wythnos.

So bydde ni’n mynd i Dalybont ac o bosib Bow Street ac Aberystwyth a Llanilar ac Aberaeron a Felin Fach a Talgarreg - i’r pentrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Turner a'r cyflwynydd Ffion Dafis yng nghanolfan Cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth

Aeth ymlaen i ddweud: “Be’ sydd wedi digwydd erbyn hyn yw bod pobl yn brysurach, a’r ail beth yw bod pobl yn disgwyl i bobl eraill drefnu drostyn nhw a hefyd mae canolfannau celfyddydol - sydd yn wych - ond mae'r rheiny yn tynnu’r sylw.”

Mae dyfodol a chyfeiriad diwylliant yng Nghymru wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar gyda phryderon am effaith toriadau - gan gynnwys cwtogi cyllid Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

'Pethau wedi mynd yn fwy canolog yng Nghaerdydd'

Yn ei gyfweliad dywedodd Mr Turner bod sawl cwmni, fel Bara Caws, yn dal i wneud gwaith da yn y gymuned - ond bod angen mwy er mwyn trafod pynciau sy’n bwysig i’r bobl.

Dywed mai “un o wendidau datganoli yw bod pethe wedi mynd yn fwy canolog yng Nghaerdydd. Dwi’n cofio cyfnod pan sefydlwyd y Cynulliad i ddechre, roedd aelodau’r Cynulliad yn benderfynol bod angen y flagships a’r cwmnïau cenedlaethol mawr.

“Weithie mae rhoi cymaint o arian i mewn i sefydliadau mawrion wedi achosi lleihad ar bethe cymunedol achos bod eu costau mor, mor uchel.

"Dwi ddim yn dweud bod dim angen sefydliadau cenedlaethol ond mae angen iddyn nhw sylweddoli beth ddaeth gyntaf a beth all ddod 'nôl hefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogaeth i'r celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys y theatr, yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n gweithredu hyd braich o'r llywodraeth.

"Cefnogodd cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru 489 o ddigwyddiadau mewn canolfannau cymunedol ledled Cymru yn 2023, gyda 125 ohonynt yn y categori drama neu theatr.”

Ychwanegodd bod posib i unrhyw un fynegi barn i’w hymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, sy’n berthnasol i’r holl sector - o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad.

  • Bydd Jeremy Turner yn siarad ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru am 1400 dydd Sul, 9 Mehefin, ac yna ar BBC Sounds.

Pynciau Cysylltiedig