Shw mae byt? Canllaw i dafodiaith bro'r Eisteddfod

Sion Tomos OwenFfynhonnell y llun, Astud
  • Cyhoeddwyd

Shw mae byt, come on myn, bopa a wmwlch... os ydych chi’n dod i Bontypridd i’r Eisteddfod eleni mae’n werth trio deall y dafodiaith leol.

Ac mae'r cyflwynydd ac awdur Siôn Tomos Owen yma i’ch helpu gyda’i wers fer am dafodiaith yr ardal ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.

Dyma ganllaw cyflym i’r geiriau a’r tafodiaith arbennig ym mro'r brifwyl eleni.

Shw mae byt neu shw mae byti?

Mae’n dibynnu faint chi’n 'nabod nhw – os chi’n 'nabod nhw’n well mae 'byti' yn fwy agos.

Mae’r gair byti yn dod o pan o’ch chi lawr yn y pyllau glo ac o’ch chi’n edrych ar ôl eich gilydd – ‘na’r sosialaidd o dan ddaear. O’ch chi wedi paru ‘da rhywun, oedd gyda chi byti so o’ch chi’n edrych ar ôl byti eich gilydd.

Myn

Mae 'myn' yn un arall - os chi’n mynd bach yn miffed ‘da rhywun a chi ishe 'neud pwynt, chi’n mynd 'come on myn'.

Yn rhai llyfrau fel un o’r llyfrau cynnar How Green was my Valley maen nhw’n rhoi e fel ‘man so mae’n swnio fel bod pob un o’r Cymoedd yn swnio fel rhyw fath o Californian surfer.

Bopa

Mae’n hen dafodiaith ond un o hoff eiriau fi yn yr ardal yw 'bopa'. Y gwir gair yw fel modryb ond modryb sy’ ddim yn aelod o’r teulu, ond sy’n agosach na rhai aelodau o’r teulu.

Felly oedd gan dad fi bopa Mary Jane oedd yn byw drws nesa'.

Mae meithrinfa yn y cylch meithrin yn y Cymoedd – mae’r pobl sy’n edrych ar ôl y plant yn bopas felly mae yna bopa Louise, bopa Lisa ac ati.

Mae’r plant yn dod i nabod y gair bopa fel rhywun sy’n edrych ar ôl chi, sy’n agos ond sy’ ddim yn aelod o’r teulu.

Mae sawl gwahanol ffordd o ddefnyddio’r un gair.

Dwi’n defnyddio’r gair yn fwy aml fel rhywun sy’ ddim ishe neud rhywbeth fel ‘o come on you bopa’ – rhywun sy’n aros mewn a ddim ishe neud lot. Felly bopa yw’r gair hynny hefyd.

Tyle

Bryn bach yw 'tyle'. Mae dau fynydd gyferbyn â ni, Tyle Du a Tyle Coch. Mae 'bryn' wedi cymryd drosodd nawr ond mae 'tila' dal yn yr enwau lleol.

Wmwlch

Mae hwnna streit mas o geg Mamgu – oedd hi wastad yn dweud pan oedd hi’n golchi gwyneb fi – 'wmwlch gwyneb'.

Y peth cynta’ oedd hi’n neud pan o’n i’n dod mewn oedd wmwlch gwyneb fi gyda clwtyn, sef golchi ond lot mwy violent!

Sha thre

Mynd sha thre – dwi dal i defnyddio hwnnw ac mae’r plant yn defnyddio hwnnw hefyd. Ishe mynd adre yw’r tarddiad gwreiddiol.

Y Wenhwyseg fyddai’r dafodiaith yn yr ardal yn wreiddiol

Chi ddim yn clywed y Wenhwyseg gymaint. Dwi’n ffrindiau ‘da tri neu bedwar person sy’ dal yn siarad y Wenhwyseg eitha’ cryf ond maen nhw yn eu 80au nawr.

Oedd Mamgu efo geiriau y Wenhwyseg oedd hi’n defnyddio lot. Mae Mam yn dod o Dinorwig a Mamgu o Pentre ac oedd acenion nhw mor gryf oedden nhw ffaelu siarad Cymraeg gyda’i gilydd - oedd y dwy ddim yn deall.

Oedd Mamgu wastad yn dweud bod hi'n watcho Pobol y Cwm gyda subtitles i'r gogs achos oedd hi ddim yn deall nhw!

Yn y Wenhwyseg mae’r 'a' yn mynd yn 'e'. Mae ychydig bach fel ardal Machynlleth, yr 'e' ‘na.

Mae fe’n sefyll mas - dyna pam mae mor amlwg pan ti’n clywed rhywun sy’ dal efo elfennau o'r Wenhwyseg.