Y fôr-forwyn o Brestatyn a’i brwydr dros yr amgylchedd

Tyler TurnerFfynhonnell y llun, Gaz Nixon
  • Cyhoeddwyd

Os ewch chi i’r traeth ym Mhrestatyn rhywbryd, mae’n bosib iawn y gwelwch chi fôr-forwyn...

Ers saith mlynedd bellach, mae Tyler Turner yn mwynhau gwisgo cynffon a nofio fel môr-forwyn, a dros y blynyddoedd, mae hi wedi sylweddoli fod hyn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â chadwraeth forol a’r amgylchedd o’i chwmpas.

Ail-fyw ffantasi plentyndod

Mae gan Tyler swydd ‘ddynol’ wrth gwrs, eglura, ond mae hi’n treulio pob munud o’i hamser sbâr yn gwneud dau beth sy’n agos iawn at ei chalon; treulio amser fel môr-forwyn, a gweithio gyda’i chymuned leol i ddiogelu’r amgylchedd.

Eisiau ail-fyw ffantasi ei phlentyndod o fod yn fôr-forwyn oedd hi yn wreiddiol, eglurodd Tyler, ar ôl ‘cael digon ar fod yn oedolyn’.

“O’n i’n arfer rheoli bwyty, ac mae’n ddiwydiant anodd iawn, ac roedd fy iechyd meddwl i’n dioddef.

“O’n i’n gweithio mewn pwll nofio, ac un diwrnod ges i fflach o ysbrydoliaeth. O’n i wastad eisiau bod yn fôr-forwyn pan o’n i’n ifanc… tybed oedd hynny’n bosib?

"O edrych ar y we, gwelais ei fod yn beth enfawr yn America, felly ‘nes i archebu cynffon ar-lein a chael caniatâd i ymarfer yn y pwll cyn ac ar ôl gwaith.

“Yn fuan wedyn, ges i wahoddiad i gymryd rhan mewn gala nofio, ac mi ’nes i godi arian i elusen, gyda fi fel môr-forwyn ar stondin. Dwi ddim wedi edrych nôl.”

Ffynhonnell y llun, Peter Braddock
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Tyler tua 13 cynffon wahanol o amryw ddeunyddiau a lliwiau bellach

Tyfu’r haid

Bywyd unig iawn yw un môr-forwyn, felly mae hi wedi tyfu ei ‘haid’ o fôr-forynion lleol, meddai, drwy annog eraill i ymuno â hi.

“Byddai ambell i ddynes yn dod aton ni yn dweud ‘swn i wrth fy modd yn gallu gwneud hynny... ond...’ – roedd yna wastad reswm pam eu bod nhw’n meddwl bod nhw methu.

“Wrth i ti fynd yn hŷn, ti’n gallu colli’r sbarc ‘na tuag at fywyd. Pan ti’n gweld pethau fel plentyn, mae popeth yn newydd a gwahanol, ac fel oedolyn, mae popeth wedi ei bylu braidd.

“Dwi’n meddwl y gall unrhyw un fod yn fôr-forwyn, dim ots pwy wyt ti neu sut wyt ti’n edrych. Ti’n teimlo’n anhygoel.”

Ffynhonnell y llun, Peter Braddock
Disgrifiad o’r llun,

Mae deunydd y cynffonau yn amrywio; o ffabrig, sydd yn hawdd i nofio ynddo, i silicon arbennig sydd yn edrych ac yn teimlo fel croen pysgodyn go iawn!

Ac wrth gwrs, mae hi wrth ei bodd yn gweld ymateb pobl sy’n ei gweld yn ei gwisg a’i chynffon.

“Dwi wrth fy modd â’r wên ‘na ti’n ei gael gan blant – ac oedolion – pan maen nhw’n dy weld di. Mae’n rhoi eiliad hudolus iddyn nhw; does gan bawb ddim cartref hapus, felly mae’n rhoi rhywbeth hapus iddyn nhw feddwl amdano. Mae o werth o ar gyfer hynny.”

Diogelwch

Mae gwneud digon o ymarfer a gwybod sut i nofio fel môr-forwyn yn ddiogel yn hanfodol, meddai, felly mae hi’n hyfforddi oedolion eraill ynghyd â gweithio gyda phlant mewn ysgolion nofio. Gall unrhyw un lewygu yn y dŵr os ydyn nhw’n dal eu gwynt rhy hir, rhybuddiai:

“Ella mod i’n gwneud iddo fo edrych yn hawdd, ond dwi wedi bod yn ei ’neud o ers blynyddoedd, felly mae o fel ail natur.

“Pan o’n i’n hyfforddi ddwy awr y dydd, cyn i mi gael Covid, o’n i’n gallu dal fy ngwynt, wrth aros yn llonydd, am dri munud yn y dŵr, neu nofio 38 metr ar un anadl.

Ffynhonnell y llun, Robert Mann
Disgrifiad o’r llun,

Asgell unigol (mono-fin) blastig o fewn y cynffon sydd yn rhoi'r gyriant i'r fôr-forwyn wrth iddi nofio drwy'r dŵr

"Pan ti’n gwbl llonydd, ti mewn cyflwr myfyriol. A dwi’n meddwl mai dyna pam ei fod mor dda i dy iechyd meddwl, achos mae o’n dysgu ymarferion anadlu ac ymlacio i ti.

"Mae gen i feddwl prysur iawn o hyd, felly mae hi’n braf i fynd i mewn i’r dŵr, achos unwaith ti yna, ti ddim yn meddwl am ddim byd arall na bod yn y foment.”

Codi arian a chodi llais

Ond nid rhywbeth iddi hi ei hun yn unig yw hyn i Tyler; mae hi’n defnyddio ei gwaith fel môr-forwyn i godi arian i elusennau yn ogystal ag addysgu’r gymuned am bwysigrwydd diogelu'r amgylchedd.

“Dwi’n gwirfoddoli i ymweld ag ysgolion i addysgu plant am gadwraeth forol a gwarchod yr amgylchedd, a ‘dan ni’n mynd i lanhau’r traethau fel fod plant yn gallu ein gweld ni.

“Mae jest yn ffordd dda i ddangos i bobl fod yna rywbeth gwerth poeni amdano fo, yn arbennig i blant. Gallwch chi roi pamffled i rywun am sut i fod yn eco-gyfeillgar, ond falle bod nhw ddim am wir boeni tan iddyn nhw ei weld o. Os welan nhw fôr-forwyn yn dweud ‘dwi angen dy helpu’, mae’n dod â’r peth yn real.

“Nhw ydi’r genhedlaeth nesa, mae’n rhaid i ni adael rhywbeth ar ôl iddyn nhw o’r blaned ‘ma.”

Ffynhonnell y llun, Peter Braddock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant môr-forwyn yn tyfu ym Mhrydain, yn enwedig busnesau creu cynffonau; mae cael cynffonau o dramor yn anoddach ers Brexit, yn ôl Tyler

Miss Ocean World

Mae ei gwaith cymunedol yn ymwneud â’r amgylchedd yn rhywbeth sydd yn agos iawn at galon Tyler, ac mae hi hyd yn oed wedi ennill lle mewn cystadleuaeth o’i herwydd.

Eleni, bydd hi'n cynrychioli Sir Ddinbych yng nghystadleuaeth Miss Ocean World UK, sydd yn basiant i unigolion sydd yn angerddol am fod yn eco-gyfeillgar, cadwraeth anifeiliaid ac addysgu eraill.

Dyma gystadleuaeth sydd ar yr wyneb yn debyg i basiantau harddwch eraill, eglurai Tyler, gan ei bod yn cynnwys elfennau cyfarwydd fel y rownd gwisg nofio. Ond yn Miss Ocean World UK, rhaid i’r cystadleuwyr sicrhau fod eu holl wisgoedd wedi eu hailgylchu neu eu creu o ddefnydd gwastraff; does yna ddim lle i ‘ffasiwn cyflym’ yn y pasiant yma.

“Mae o’n ffitio fy ethos i’r dim," meddai Tyler. “Mae gen i ficini o hen ddefnydd wast a dwi wedi creu gwisg yn gyfan gwbl allan o ddarnau o sbwriel sydd wedi eu casglu gan y gymuned leol.

“Dwi’n angerddol am gymunedau Cymreig a sut ‘da ni’n dod at ein gilydd; mae ‘na lawer o grwpiau casglu sbwriel yma ym Mhrestatyn, a ’dan ni wastad mewn cysylltiad yn trio meddwl sut allwn ni helpu’r amgylchedd.

“Ar ôl y gystadleuaeth, dwi’n gobeithio galla i arddangos y ffrog fel fydd y gymuned yn gallu gweld beth sydd wedi ei greu allan o’r sbwriel sydd wedi ei gasglu.”

Ffynhonnell y llun, Peter Braddock
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Tyler gystadleuaeth Miss Mermaid Wales yn 2019, gan ennill lle yn Miss Mermaid International yn Yr Aifft, ond bu'n rhaid ei ganslo oherwydd Covid

'Naeth o fy achub i'

Mae Tyler yn cael ambell i sylw negyddol am wisgo fel môr-forwyn ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai, fel negeseuon yn dweud wrthi am ‘dyfu i fyny’. Ond fel yr eglura, dydyn nhw ddim yn effeithio arni, oherwydd ei bod yn ei wneud er ei mwyn hi, a neb arall:

“’Naeth môr-forynio achub fy mywyd. Roedd fy iechyd meddwl mor isel, dwi wir yn meddwl os na fyddwn i wedi darganfod hyn, ’swn i ddim yna heddiw. Mae wedi rhoi rhywbeth i mi fyw er ei fwyn.

“’Naeth o fy achub i, a dwi eisiau ei ddefnyddio i helpu pobl eraill.”

Pynciau Cysylltiedig