Bywyd yn 'boenus' pan fo gwrthfiotegau ddim yn gweithio
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Fro Morgannwg yn dweud bod ymwrthedd gwrthfiotigau yn achosi “dioddefaint a stress” iddi.
I Sian Jones, 71, y gobaith ydy rhannu ei phrofiad er mwyn helpu eraill, gan ychwanegu bod y pwnc yn aml yn “dabŵ”.
Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd heintiau ymwrthedd i gyffuriau yn lladd mwy o bobl na chanser erbyn y flwyddyn 2050 oni bai bod camau'n cael eu cymryd.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu fel rhan o strategaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd erbyn 2040.
Ers yn fenyw ifanc 18 oed, mae Sian wedi dioddef gydag un haint dŵr (UTI) ar ôl y llall.
“Dwi’n teimlo’n dost gyda’r heintiau. Maen nhw’n boenus, anghyfforddus a mae’r holl beth yn achosi ysbryd isel," meddai wrth raglen BBC Wales Live.
Mae hi'n dweud bod y cyflwr yn effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ac yn golygu ei bod hi’n aml yn gorfod aros adref a newid ei chynlluniau.
“Pan o’n i’n gweithio, o’n i yn aml yn gorfod bod i ffwrdd o’r gwaith gyda’r salwch, oherwydd rhai diwrnodau o’n i’n rhy wan i fynd," meddai.
“Unwaith bod gen i UTI, dwi methu gwneud dim.”
Mae Sian yn ceisio bod yn iach, gan droi at sudd llugaeron a fitaminau wrth geisio mynd i’r afael â'i phoen.
Er hynny, meddyginiaeth yw’r unig opsiwn iddi yn aml.
Mae’n dweud ei bod hi wedi gorfod mynd yn ôl at y meddyg nifer o weithiau er mwyn gofyn am foddion newydd ar ôl i wrthfiotigau fethu.
“Mae’r holl beth yn rhoi cymaint o bwysau ar rywun," meddai.
"Ti’n gorfod mynd drwy’r broses o siarad â’r meddyg teulu a wedyn cael mwy o wrthfiotigau tan i’r haint leddfu.
"Mae hi’n drafferth i’r menywod sy’n dioddef.”
Mae Sian wedi bod yn rhan o ymchwil meddygol oherwydd ei bod hi “eisiau gwneud gwahaniaeth ac atal eraill rhag dioddef” yn yr un ffordd.
Mae hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig siarad yn agored er mwyn sicrhau bod y mater ddim yn troi yn bwnc "tabŵ" neu'n datblygu stigma.
Llawdriniaethau cyffredin yn 'rhy beryglus'
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun cenedlaethol i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd rhwng 2024 a 2029.
Yn 2019 roedd Llywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraethau eraill y DU, wedi ymrwymo i gynllunio i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd erbyn 2040.
Roedd y cynllun hwnnw yn rhybuddio y byddai dyfodol heb wrthfiotigau effeithiol, o bosib yn golygu y byddai llawdriniaethau cyffredin a rheolaidd yn “rhy beryglus” i'w gwneud, tra byddai risg triniaethau chemotherapi yn rhy uchel.
Mae’n dweud bod angen mynd i’r afael â’r broblem mewn ffordd sy’n ystyried pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd yn ehangach.
Yn ôl yr astudiaeth ddiweddaraf, mae dros 1.2 miliwn o bobl wedi marw ar draws y byd ers 2019 oherwydd eu bod nhw yn gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Mae’r Athro Angharad Davies yn arweinydd arbenigol ar heintiau ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
“Mae gwyddonwyr yn meddwl y bydd mwy o bobl yn marw yn sgil y broblem hon erbyn 2050 na chanser, felly mae e’n bwnc enfawr," meddai.
“Mae'n fater gweithredol byw go iawn, a dyna pam rydyn ni'n symud i ffwrdd o'r term ‘pandemig distaw’ oherwydd mae hynny'n awgrymu fel pe na bai'n cael effaith er bod e bendant yn.”
'Achosion yn gymhleth'
Mae’r Athro Davies yn rhan o dîm sy'n ceisio atal effaith negyddol gwrthsefyll moddion, gan gynnwys treialon i gydnabod sut mae lleihau nifer y gwrthfiotigau sy’n cael eu rhoi i gleifion yn ddiangen.
“Mae cael gwddf tost fel arfer o ganlyniad i haint feirol, nid bacteria, ond mae’n gallu bod yn anodd sylweddoli hynny," meddai.
O ganlyniad, roedd profion swab ar gyfer y gwddf wedi cael eu darparu ymhlith fferyllfeydd fel rhan o dreial er mwyn cydnabod beth sydd wedi achosi’r gwddf tost.
“Dangosodd yr astudiaeth ostyngiad sylweddol yn y presgripsiynau gwrthficrobaidd a gafodd eu rhoi i gleifion, a nawr mae hynny wedi’i gyflwyno ledled Cymru.”
Yn ôl yr Athro Davies, mae angen mwy o ymchwil yn y maes.
“Does dim modd fynd i’r afael â’r broblem hon mewn un sector, mae’r achosion yn gymhleth.
"Mae’r broblem yma yn bodoli i anifeiliaid a phlanhigion, nid ond yn y byd meddygol."
Mae Aileen Bryson yn fferyllydd, ac yn aelod o dîm sy'n cefnogi cleifion gyda'r elusen Antibiotic Research UK.
Cafodd yr elusen ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl, meddai, ond mae cefnogaeth i gleifion wedi esblygu dros y bedair blynedd ddiwethaf wrth i’r broblem dyfu.
“Gall ymwrthedd i wrthfiotigau gael effaith aruthrol ar fywydau pobl," meddai.
"Mae pobl yn aml yn siarad am eu bywyd yn crebachu ac yn lleihau, yn ogystal â sut mae’n effeithio ar eu teulu cyfan.”
Pobl yn anobeithio
Mae Ms Bryson yn dweud bod pobl yn aml yn anobeithio erbyn iddyn nhw gysylltu am gymorth.
"Rydyn ni wedi cael pobl yn dweud wrthon ni 'dyw bywyd ddim yn werth byw fel hyn'.
"Rydyn ni'n clywed y math yna o ddatganiad yn reit aml oherwydd eu bod nhw'n eithaf digalon.”
Dywedodd fod cael rhywun yno i drafod a deall eu sefyllfa yn "hollbwysig" er mwyn “helpu pobl i gael dealltwriaeth” o’r mater.
"Mae'n swnami sy’n symud yn agosach aton ni," meddai.
Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd4 Mai