Ymateb y llywodraeth i adroddiad canser yn 'siomedig'

Claire O'Shea
Disgrifiad o’r llun,

Mae canser Claire bellach wedi cyrraedd cam 4 ac wedi lledu i'w iau, ei hysgyfaint a'i hesgyrn

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw a gafodd ddiagnosis o ganser gynaecolegol ddwy flynedd ar ôl codi pryderon gyda'i meddyg teulu wedi dweud bod cannoedd o bobl wedi cysylltu â hi i ddweud eu bod hwythau'n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu.

Mae nifer o fenywod wedi mynegi "siom" am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan bwyllgor o aelodau'r Senedd sydd wedi galw am welliannau i wasanaethau.

Cafodd Claire O’Shea o Gaerdydd ddiagnosis yn Rhagfyr 2022 o Leiomyosarcoma y groth -  canser prin a ffyrnig - a hynny bron ddwy flynedd ar ôl iddi nodi ei symptomau gyntaf gyda'i meddyg teulu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "flin ganddyn nhw a'u bod yn siomedig i glywed nad yw pob menyw wedi derbyn y gofal gorau posib".

Ychwanegodd llefarydd fod rhaglen genedlaethol wedi'i lansio er mwyn gwella'r perfformiad ar gyfer canser gynaecolegol.

Menywod yn cael eu 'diystyru'

Mae canser Claire bellach wedi cyrraedd cam 4 ac wedi lledu i'w hiau, ei hysgyfaint a'i hesgyrn. Mae'n derbyn cemotherapi lliniarol.

Rhoddodd dystiolaeth i ymchwiliad diweddar gan bwyllgor y Senedd i ganser gynaecolegol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Claire O'Shea ddiagnosis o ganser gynaecolegol dwy flynedd ar ôl codi pryderon gyda'i meddyg teulu

Daeth yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr i'r casgliad bod pryderon rhai menywod yn cael eu "diystyru".

Ond wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod "mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd lefelau uchel o fodlonrwydd".

Mae'r sylwadau wedi peri syndod a siom i Claire, sy'n teimlo nad ydyn nhw'n cynrychioli ei phrofiad hithau a phrofiadau cannoedd o fenywod eraill.

"Fel claf, dydw i erioed wedi cael fy holi am fy moddhad o'r gwasanaethau a ges i," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn "siomedig â naws" ymateb Llywodraeth Cymru, "a'r diffyg ymrwymiadau pendant i wneud unrhyw newid trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r heriau".

Mae tua 1,200 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn. Mae tua 470 yn marw.

Ym mis Mawrth 2023 gofynnodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, i arweinwyr canser roi "gwell ffocws" i'r math yma o ganser.

Ar y pryd dim ond 34.6% o gleifion oedd yn dechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed - sef 62 o ddiwrnodau.

Er bod perfformiad wedi gwella i ddechrau, mae yna ddirywiad wedi bod ers hynny, gyda 32.2% yn dechrau eu triniaeth o fewn deufis yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Dewisodd Llywodraeth Cymru dderbyn y mwyafrif o'r 26 argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor iechyd, ond mynnodd y llywodraeth bod arolygon yn dangos bod y mwyafrif helaeth o gleifion yn adrodd "lefelau uchel o foddhad".

Mae'n sylw sydd wedi cythruddo rhai unigolion a gymerodd ran yn yr ymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Judith Rowlands dystiolaeth i'r pwyllgor a hithau'n ddifrifol wael

Bu farw Judith Rowlands o Ynys Môn yn fuan ar ôl rhoi tystiolaeth fideo i’r pwyllgor.

Dywedodd ei merch Sioned Cash fod yr ymateb "yn gosod y naws ar gyfer gweddill yr adroddiad, sef naws sy’n diystyru fod yna unrhyw broblemau o gwbl".

Yn ôl Lowri Griffiths, o elusen Tenovus, does dim byd wedi newid ers i'r llywodraeth ddweud eu bod yn blaenoriaethu canser gynaecolegol - "mae'r achosion aros yn waeth, mae'r system wedi torri ac mae angen mwy o arian", meddai.

Disgrifiad,

Yn ôl Lowri Griffiths o elusen Tenovus, does dim byd wedi newid o ran y gefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn sori ac yn siomedig i glywed nad yw pob menyw wedi derbyn y gofal gorau posib.

"Rydym yn disgwyl i'r GIG ddysgu o'r profiadau hyn a mynd i'r afael â'r materion dan sylw.

"Rydym hefyd yn derbyn nad yw perfformiad ar gyfer canser gynaecolegol lle y dylai fod, ac rydym wedi lansio rhaglen genedlaethol gwerth £2m i wella perfformiad ar gyfer canserau gynaecolegol, wrolegol, a chanserau gastroberfeddol is.”

Bydd adroddiad y pwyllgor yn cael ei drafod ar lawr y Senedd ddydd Mercher, a bydd gofyn i Eluned Morgan ymhelaethu ar ymatebion Llywodraeth Cymru ac ystyried safbwyntiau'r menywod.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd yn ystyried sylwadau'r menywod, a chynnig rhywfaint o sicrwydd i'r rhai fu'n ddewr yn rhannu eu profiadau gyda ni," medd Russell George, cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

“Mae sawl maes y mae angen edrych yn ofalus ac yn fanylach arnynt yn ystod y ddadl hon.

"Mae’r oedi i gyflwyno Cynllun Iechyd Menywod Cymru, y gwaith o adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig, a’r nifer annerbyniol o bobl sy’n cael diagnosis canser fel achosion brys, oll yn peri pryder."