Hanes coll: Cynllun i foddi'r canolbarth
- Cyhoeddwyd
Ar droad yr ugeinfed ganrif roedd cynlluniau ar y gweill i foddi’r rhan helaeth o ganolbarth Cymru er mwyn darparu dŵr i Lundain.
Dyna ddarganfyddiad Richard Rees o Lanwrda a ddaeth o hyd i gynlluniau i greu 10 cronfa ddŵr fawr ac 11 o gronfeydd llai gan foddi tua 30 o bentrefi yn ystod ei ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol.
O Lanwrtyd i Langurig, o gartref y merthyr Jon Penry i fan claddu tebygol Llywelyn Ein Llyw Olaf yn Abaty Cwm Hir, roedd cynlluniau yn Oes Fictoria i’r cyfan fod dan ddŵr.
Dylan Iorwerth sy'n olrhain yr hanes.
Darganfod y cynllun yn y Llyfrgell Genedlaethol
Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio ers i Richard, cyn-beiriannydd trenau, fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol am y diwrnod, er mwyn ymchwilio hanes Rheilffordd Canol Cymru.
Ond wrth edrych yn fanwl ar bapurau ystâd yn ardal Cilmeri a Llanwrtyd, fe sylwodd ar rywbeth rhyfedd.
“Daeth y papurau yn ôl a o’n nhw yn siarad am byti symud rheilffordd yn Cwm Irfon, a gofynnes i, beth uffach sy’n mynd ’mlaen achos ’so i ’di clywed am shwt beth.”
Doedd dim esboniad amlwg ac yn fwy od fyth, pwy oedd yn gofyn am symud rheilffordd fechan yn mherfeddion Cymru ond Cyngor Sir Llundain a’u prif beiriannydd, Syr Alexander Richardson Binnie.
Ar ôl sawl trip i astudio archifau yn Llundain ac oriau maith yn ymchwilio mewn llyfrgelloedd, fe ddatgelodd Richard Rees y stori.
Er mwyn datrys problemau cyflenwad dŵr Llundain ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd y cyngor sir yno eisiau meddiannu rhannau helaeth o ganolbarth Cymru a chreu cyfres o argaeau.
“Roedd 10 cronfa ddŵr; Llangors, Y Wysg, cronfa ddŵr yr Irfon, cronfa ddŵr y Tywi, cronfa ddŵr y Doethie, cronfa ddŵr Llanarfon, cronfa ddŵr y Gwy, cronfa ddŵr Clywedog, cronfa ddŵr yr Ithon, a chronfa ddŵr yr Edw - 10 argae mawr.
"Oedd hwn yn beth mawr. Bydde rhan fwya’ o Gymru wedi diflannu,” eglurodd.
Ond nid dim ond cronfeydd mawr oedd eu hangen, roedd eisiau 11 o rai llai hefyd. Ac ar ben hynny roedd angen tir heb bobl am filltiroedd o amgylch pob cronfa a dalgylch yr afonydd.
Os oedd rhai pentrefi am gael eu boddi, byddai rhagor yn cael eu clirio o bobl a'u chwalu.
“Yn ôl y cynlluniau byddai’r dŵr yn teithio drwy dwneli a pibau a thrwy gravity, yn trafeili i Tregoed i ddechrau lle bydde filter ac yna byddai’r dŵr yn trafeili bob cam i Lundain. 415 million gallons a day.”
O ochrau Llanidloes, Llanbadarn Fynydd, cyn ised â Llanwrtyd draw am Gwm Gors, draw am Y Mynydd Du uwchben Crughywel a’r Fenni; byddai'r ardaloedd yna i gyd wedi mynd yn eiddo i gyngor Llundain, y bobl oedd yn byw yno wedi gadael a chymunedau wedi diflannu.
Y golled i ardal Cwm Irfon
Yng nghartref Richard Rees yn Llanwrda, mae casgliad anferth o lyfrau a'i ymchwil. Tu mewn i'r cloriau mae gwybodaeth am gynllun dŵr Llundain, yr ardaloedd yn Llundain fyddai’n elwa o ddŵr Cymru a chynllun taliadau.
Nid cynllun tylwyth teg oedd hwn. Mae’r tomenni o ddogfennau ar lawr ei swyddfa yn dangos pa mor bell oedd pethau wedi mynd – cynllun manwl i arallgyfeirio Afon Tywi er enghraifft, rhestrau ffermydd, tai ac eiddo fyddai wedi mynd a’r ardal fyddai angen ei dalu.
Yn ardal Cilmeri mae rhestr yn dangos beth fyddai’r dinistr:
“Wel am bryniant gorfodol Cwm yr Irfon; 69 tŷ fferm, 212 tŷ, 20 bwthyn, dau blasdy, 37 siop, naw siop waith, tri gwesty, saith tŷ tafarn, tair siop gof, pum felin ddŵr, pedair gorsaf, tair ysgol, naw capel, pedair eglwys, un neuadd gyhoeddus. Dŵr i Lundain; 415 miliwn galwn y dydd.”
Un o 10 cwm yn unig oedd Cwm Irfon ond nid cynllun ar bapur oedd hwn chwaith. Adeiladwyd coredau bychain ar draws afonydd i fesur faint o ddŵr oedd ar gael.
Mae olion rhai o’r coredau i’w gweld hyd heddiw. Ac os ydy'r stori fawr wedi cael ei anghofio mae’r cof gwerin am y bobl o Lundain yn parhau.
“Gwrddais i ag un gŵr oedd gyda peth o’r hanes mewn tŷ ffarm yng Nghwm Irfon, wedes i beth o’ni yn ’neud a wedodd e wrtho i i fynd lawr i’r cae ac oedd e am ddangos i fi beth oedd ar ôl ers i weithwyr Llundain fynd yno.
“Oedd ei Dad-cu wedi gweud wrtho fe fod y dynion hyn wedi dod lawr o Lundain i adeiladu ar draws Afon Irfon felly oedd lot yn mynd ’mlaen ar y pryd.”
Y cynllun yn Llundain oedd boddi ardal Borehamwood er mwyn creu llyn i dderbyn y dŵr o ganolbarth Cymru. Ond yn y diwedd, Llundain a rwystrodd y cynllun.
Er bod yna rywfaint o bryder gan rai cynghorau sir yng Nghymru ac ambell aelod seneddol, prin oedd y gwrthwynebiad go iawn.
Ar y funud olaf cafodd y cynlluniau eu gadael; oherwydd y gost i Lundain a gwrthwynebiad gan gwmnïau dŵr preifat y ddinas.
Ond doedd dim pryder am gymunedau Cymru a cholli miloedd o gartrefi.
I glywed mwy, gwrandewch ar Hanes Cymru - Cerrig, Coed a Dŵr ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019