Canser y coluddyn: 'Y driniaeth ydy’ch ffrind chi'

Lindsey a'i phlentyn ieuengaf Doti yn canu'r gloch ar ddiwedd ei thriniaeth am ganserFfynhonnell y llun, Lindsey Ellis
  • Cyhoeddwyd

Cafodd Lindsey Ellis o’r Bala ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021 pan oedd hi’n 39 oed, yn fuan wedi genedigaeth ei phumed plentyn. Ar ôl anwybyddu ei symptomau am flynyddoedd, roedd y canser wedi lledu erbyn i Lindsey fynd am help meddygol.

Wedi sawl llawdriniaeth, radiotherapi a cemotherapi mae Lindsey wedi gwella ac yn awyddus i rannu ei stori er mwyn annog pobl i drafod symptomau canser y coluddyn yn fwy agored.

Oedi cyn mynd at y meddyg

Dechreuodd Lindsey brofi symptomau rai blynyddoedd cyn y diagnosis ond bu’n ceisio delio gyda’r peth ei hun, fel mae’n ei esbonio mewn sgwrs gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio ar Radio Cymru: “Pan o’n i’n bwyta rhai bwydydd fatha chips, tatws a pasta o’n i’n cael poen bol a teimlo’n bloated ond ddim yn gwneud dim byd am y peth, jest meddwl mod i’n gallu rheoli’r symptomau drwy beidio bwyta y bwydydd 'na.

“O'n i’n meddwl bod fi’n dioddef o syndrom coluddyn llidus (irritable bowel syndrome neu IBS) – o'n i wedi bod yn darllen i fyny am yr afiechyd hynny ac o’n i’n meddwl fod o’n ffitio.

“Dwi’n meddwl fod yr ofn o falle cael camera a colonoscopy, a jest yn teimlo’n embarrassed a ddim isho mynd a gorfod cael y math yna o driniaeth a ymchwilio yn bellach.

“Oedd genna’i griw agos o ffrindiau ac oeddan ni’n siarad lot – mae 'na lot o sôn am IBS ac mae lot o bobl yn trio gwneud pethau fatha cutio carbs. O'n i’n tueddu meddwl falla fod gen i bethau tebyg i’n ffrindiau ac mae rhywun yn siarad ei hun allan o fynd i’r doctor.”

Ffynhonnell y llun, Lindsey Ellis

Symptomau’n gwaethygu

Yn 2021 pan oedd Lindsey yn feichiog gyda Doti, ei phumed plentyn, dechreuodd ei hiechyd ddirywio: “O’n i’n teimlo fatha fod rhywbeth yn pwyso.

“A phan o’n i’n 30 wythnos gyda hi o’n i’n teimlo mod i ddim yn mynd i allu mynd i ddiwedd y beichiogrwydd ac mi ddoth hi’n gynnar.

“Ar ôl iddi gyrraedd gafon ni Covid yn y tŷ a jest teimlo bod fi heb wella o’r Covid yn iawn - y teimlad 'ma o flinder.

“Fel mam ifanc 'dan ni 'di blino o hyd ond oedd hwn yn flinder gwahanol, oedd o’n llorio fi. O’n i’n gorwedd lawr yn y prynhawn oedd ddim fel fi o gwbl ac mae rhywun yn dechrau meddwl fod rhywbeth mwy yn bod.”

Poen

Ac yna un nos Sul bu rhaid i Lindsey fynd am help ar frys i’r adran argyfwng yn yr ysbyty yn Wrecsam: “Yn y diwedd 'nes i gael blockage llwyr lle o'n i methu mynd i’r toilet.

“Oedd o’n waeth na geni’r plant felly dipyn o boen. O fan 'na 'nath y siwrne gychwyn.

“Ges i colonoscopy yn syth ar ôl mynd i’r adran argyfwng a dwi’n cofio gorwedd yna a gweld fod rhywbeth mawr o’i le yn wynebau y meddygon i gyd. Wedyn cael gwybod.

“’Nes i fynd am CT sgan a ddaethon nhw nôl a dweud fod 'na diwmor mawr yno. 'Nathon nhw ddweud wrtha'i ar y pryd i baratoi am y gwaethaf.

“Oherwydd lleoliad y tiwmor roedd y ffaith mod i methu pasio dim byd yn argyfwng. ‘Nes i orfod cael triniaeth yn syth bin i osod stoma – dyna oedd y cam cyntaf.

“Oedd o’n lwcus fod y llawfeddyg wedi dweud, 'dwi’n mynd i ganslo popeth prynhawn ma, mae'n rhaid i fi osod stoma i ti'. Lwcus achos mi oedd o bron â rupturo.”

Ar ôl y colonoscopy cafodd Lindsey ddiagnosis o ganser y coluddyn ar y bore Llun ac roedd sganiau yn dangos fod y canser wedi lledu i’r nodau lymff ac i’r groth.

Meddai: “Ar ôl y profion pellach o’n i’n gwybod fod o ddim wedi lledu i’r afu a’r ysgyfaint. Oedd rhywun yn dathlu ychydig bach am hynny ond oedd y sefyllfa dal wedi mynd yn bell.

“A dyna’r peth - mi ddylswn i wedi mynd at y doctor blynyddoedd yn gynt ac mi fyddwn wedi bod mewn lle lot gwell.”

Wedi sioc y diagnosis, ymateb cyntaf Lindsey oedd i fwrw mlaen gyda’r driniaeth: “Mae rhywun yn cael sioc ac ofn fod y canser yn mynd i gael y gorau a llorio rhywun ond mae rhywun hefyd yn mynd mewn i fight mode.

“O’n i jest ishe gwybod beth oedd y cynllun a cychwyn ar y siwrne i drio curo y canser.”

Triniaeth

Cafodd Lindsey 26 sesiwn o radiotherapi dros chwe wythnos ac wedyn tri mis o cemotherapi.

Meddai: “Oedd yn mynd â fi i mis Hydref. Ac o’n i'n digwydd bod yn dathlu 'mhen-blwydd yn 40 oed yn y mis Hydref yna a ges i’r newyddion fod y driniaeth wedi golygu mod i wedi cael complete response.

“Oedd y canser wedi mynd ac 'nes i ddewis cymryd y llawdriniaeth i dynnu y darn yna o’r bowel o 'na a chael hysterectomy llawn.

"Ges i’r newyddion yn dilyn hynny - oedd y canser dal yn y celloedd a nes i orfod gael tri mis arall o cemotherapi.

“Dwi nôl yn y gwaith ac yn byw bywyd rŵan.”

Ffynhonnell y llun, Lindsey Ellis

Neges Lindsey

Meddai: “O’n i’n gwneud esgusodion i beidio mynd at y doctor oherwydd bod gen i ofn mod i’n mynd i orfod gael camera a rhywun yn edrych yn fanylach ar y rhan yna o’r corff ond mae mor bwysig mynd yn gynnar achos mae’r canlyniadau o fynd yn gynnar at y doctor yn gymaint gwell.

“Ac maen nhw’n gallu edrych mewn i bethau ac mae’r triniaeth gymaint haws os ydy o wedi cael ei ddal yn gynnar.

“Y neges ydy i beidio bod ofn y driniaeth – y driniaeth ydy’ch ffrind chi a dydy o byth yn mynd i fod mor ddrwg â mae rhywun yn ei ddychmygu.

“Mae wedi 'neud i rywun edrych ar fywyd yn wahanol, mae'n gwneud i rywun feddwl mae bywyd yn fyr iawn ac mae’n rhywbeth precious iawn ac mae eisiau gwneud yn fawr o bob munud.

“Mynd at y doctor mor fuan â mae rhywun yn teimlo dydy pethau ddim yn iawn achos chi sy’n nabod corff eich hunain. Os fyddwn i wedi bod yn onest efo fi fy hun buaswn i wedi mynd at y doctor yn gynt ond oedd yr ofn bod 'na rywbeth mawr yn bod.”

Pynciau Cysylltiedig