Sefyllfa staff Ysgol Syr Hugh Owen yn 'sefydlog' erbyn hyn - cyngor
![YSHO](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/707/cpsprodpb/1a28/live/07ba6910-e832-11ee-8c07-1f20b2db4ef4.jpg)
Dywedodd ffynhonnell wrth BBC Cymru ddydd Llun fod y sefyllfa yn Ysgol Syr Hugh Owen yn "argyfwng"
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud fod y sefyllfa wedi "sefydlogi" yn un o ysgolion uwchradd y sir ar ôl lefel "anarferol o uchel" o salwch ymhlith staff.
Roedd Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn wynebu trafferthion oherwydd bod cymaint o staff wedi bod i ffwrdd o'r gwaith yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd ffynhonnell wrth BBC Cymru ddydd Llun fod y sefyllfa yn "argyfwng" ond nad oedd yn unigryw i Ysgol Syr Hugh Owen.
Mae lefelau "bregus" o staffio ym myd addysg yn gyffredinol yn cael eu gwaethygu gan brinder athrawon cyflenwi, meddai'r ffynhonnell, oedd am aros yn ddienw.
Ond dywedodd Cyngor Gwynedd fod y sefyllfa yn yr ysgol erbyn hyn "wedi sefydlogi yn dilyn cyfnod byr iawn o lefel anarferol o uchel o salwch staff".
"Rydym yn ddiolchgar i'r disgyblion a'u rhieni am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad dros y dyddiau diwethaf," meddai llefarydd.
Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 875 o ddisgyblion o Gaernarfon a'r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae yno 52 o athrawon a 34 o aelodau staff cynorthwyol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2024