'Angen pympiau gwres yn y rhan fwyaf o dai erbyn 2035'

Pwmp gwres
Disgrifiad o’r llun,

Mae oddeutu 15,000 o bympiau gwres eisoes wedi eu gosod yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhaid gosod pwmp gwres yn y rhan fwyaf o dai yng Nghymru yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau newid hinsawdd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ond dyw strategaeth newydd ddim yn awgrymu os neu pryd fydd bwyleri nwy ac olew yn cael eu gwahardd – gan gydnabod bod newid system wresogi “dal i fod tu hwnt i gyrraedd nifer o bobl”.

Mae’r llywodraeth yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar ei gwneud hi’n haws i ddewis technoleg werdd gyda chymhelliad ariannol a newidiadau i reolau cynllunio, ymysg pethau eraill.

Mae’r cyhoeddiad yn cael ei ystyried yn un arwyddocaol am ei fod yn ymwneud â dewis llwybr penodol tuag at sicrhau gwresogi carbon isel.

Mae gweinidogion wedi penderfynu peidio a chefnogi defnyddio hydrogen fel tanwydd amgen i wresogi tai, ond maen nhw’n dweud y bydd gan y nwy rôl bwysig ym maes diwydiant.

Gwres sy’n gyfrifol am 50% o ddefnydd ynni yng Nghymru, gyda 75% o hwnnw yn dod o losgi olew a nwy gan ryddhau nwyon carbon sy’n codi gwres y ddaear.

Fel Prydain, mae Cymru’n gweithio tuag at darged cyfreithiol o allyriadau net sero erbyn 2050, i atal cyfrannu tuag at newid hinsawdd.

Mae pympiau gwres yn defnyddio trydan yn hytrach na nwy neu olew, gan wresogi adeiladau trwy amsugno gwres o’r awyr, y ddaear neu ddŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Ar safle adeiladu yng Ngwynedd, mae'r tai yn cyrraedd y safon uchaf o ran defnyddio ynni adnewyddadwy

Ar draws Cymru mae oddeutu 15,000 pwmp gwres wedi eu gosod yn barod, a nod y llywodraeth yw cynyddu’r nifer i 580,000 erbyn 2035.

Ymysg yr ymatebion i ymgynghoriad cyn lansio’r strategaeth wres newydd, roedd cwynion am ddiffyg ymwybyddiaeth o bympiau gwres yn ogystal â phryderon am y gost a’r ochr ymarferol.

Mae’r strategaeth yn cynnig adolygiad o reolau cynllunio i’w gwneud hi’n haws i osod pwmp gwres, ac hefyd ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.

Mae grantiau yn cynnig £7,500 oddi ar gost gosod pwmp gwres eisoes ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi pobl, yn enwedig aelwydydd tlotach.

Y gobaith yw y bydd ffocws clir ar bympiau gwres hefyd yn rhoi hyder i fusnesau, gan arwain at fuddsoddiad mewn gweithgynhyrchu, sgiliau a hyfforddi.

Ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd, mae 41 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu codi.

Mae rhain yn dai cymdeithasol sydd ond yn defnyddio ynni adnewyddadwy er mwyn cynhyrchu trydan a gwres.

Mae’r tai wedi eu hinsiwleiddio i’r lefel uchaf, mae paneli solar ar y toeon ac mae gan bob un bwmp gwres ffynhonnell aer.

Bydd pob tŷ newydd yn defnyddio’r un dechnoleg er mwyn sicrhau ôl-troed carbon isel yn y dyfodol yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mi fydd buddsoddiad mawr hefyd i’r ymdrech i ôl-ffitio y rhan fwyaf o gartrefi hŷn y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gosod technoleg newydd mewn cartrefi hŷn yn "her sylweddol", yn ôl Arwyn Evans

Dywedodd Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin: “Gall tŷ fel hwn arbed tenant hyd at 50% o gost biliau ynni o gymharu â pherson sy’n byw mewn tŷ hŷn, arferol.

"Ond mae faint gallen nhw arbed hefyd yn dibynnu ar ddealltwriaeth yr unigolyn o’r dechnoleg sydd ar waith.”

Yn ôl Grŵp Cynefin, mae tenantiaid yn cael hyfforddiant ar sut i gael y gorau o’r dechnoleg ynni adnewyddadwy yn eu tai er mwyn cadw costau mor isel â phosib.

Ychwanegodd Mr Evans y bydd yr ymdrech i gyflwyno’r dechnoleg ynni gwyrdd, fel pympiau gwres i gartrefi hŷn yn her sylweddol.

“Dyw pympiau gwres ddim wastad yn gweithio'r un mor dda mewn rhai cartrefi sy’n bodoli’n barod achos maen nhw fwyaf effeithiol pan maen nhw o dan y llawr.

"Mae am fod yn her anferthol i gyflawni’r gwaith. Fe allai gostio rhwng £30,000 a £50,000 ar gyfer pob tŷ i gyflawni gwaith tebyg a chyrraedd yr un lefel o effeithlonrwydd â chartrefi newydd,” meddai.

'Sicrhau swyddi'

Fe ychwanegodd Mr Evans: “Mae gennym ni ddigon o weithwyr a bydd y gwaith yma yn sicrhau swyddi i bobl mewn cymunedau ar draws y wlad os ydyn ni’n buddsoddi ar gyfer yr hir dymor, ond fe allai gostio biliynau o bunnoedd.

"Mae’n fater o roi hyfforddiant i bobl sydd â rhai o’r sgiliau angenrheidiol yn barod. Fe allai gymryd sawl blwyddyn i sicrhau bod yr holl weithlu o’r un safon. Rydyn ni’n gwella yn araf bach ond mae’n broses araf.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gweinidog Ynni Jeremy Miles yn siarad yn ystod lansiad y strategaeth fore Llun

Ochr yn ochr â’u strategaeth wres, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio cwmni gwladol swyddogol i ddatblygu ynni adnewyddadwy.

Bydd Trydan Gwyrdd Cymru ym Merthyr Tudful yn gyfrifol am sicrhau gwerth 1GW o bŵer gwyrdd ychwanegol yng Nghymru erbyn 2040.

Bydd hyn yn ddigon i gyrraedd anghenion dros 860,000 o gartrefi. Fe fydd y cwmni’n canolbwyntio’n bennaf ar ynni gwynt ar y tir.

Mae’r BBC yn deall fod pum safle ar draws Cymru dan ystyriaeth ar dir coediog sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

'Cyfleoedd anferthol'

Yn y lansiad ym Mryncynon, Rhondda Cynon Taf, dywedodd y Gweinidog Ynni Jeremy Miles y byddai’n arwain at brosiectau mawr “dan berchnogaeth Cymru”.

“Mae cyfleoedd anferthol yma,” meddai.

“Fe fydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddol ein hunain nid yn unig yn caniatáu i ni ddatblygu ynni adnewyddol sy’n gweddu i’r amgylchedd naturiol ond yn fwyaf pwysig yn rhoi i ni ac i bobl Cymru, y gallu i fod berchen yr elw o'r hyn fydd yn fuddsoddiad sylweddol.”

Dywedodd Richard Evans, prif weithredwr Trydan Gwyrdd y byddai’r cwmni’n “estyn allan i gymunedau lleol i drafod cynlluniau cynnar iawn gyda phrif brosiectau ar goetir Cymreig.”