Ynni gwyrdd: 'Angen i lywodraethau gyflymu'r broses'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar lywodraethau i "gyflymu’r broses" o ystyried cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau sero net.
Yn ôl cwmni RWE, sy’n gyfrifol am un o'r cynlluniau ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru, mae angen taro "cydbwysedd yn gynt" os am sicrhau amgylchedd gwyrddach.
Mae’r cwmni newydd dderbyn caniatâd cynllunio i godi rhwng 34 a 50 o dyrbinau gwynt 10km oddi ar arfordir y gogledd.
Bydd gan Awel y Môr y gallu i bweru dros hanner cartrefi Cymru, gan greu cannoedd o swyddi.
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu polisi cynllunio yn "hynod gefnogol" i brosiectau "sydd wedi eu cynllunio’n dda".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cymeradwyo cynllun Awel y Môr yn rhan o'u huchelgais i gynhyrchu 50GW o ynni drwy ffermydd gwynt ar y môr erbyn 2030.
Gyda’r cynllun wedi derbyn caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU, mae’r gwaith rŵan yn dechrau i dyllu i wely’r môr er mwyn asesu ansawdd y tir adeiladu.
Mae’n gam sylweddol i’r datblygiad, fydd yn cael ei leoli i’r gorllewin o fferm wynt bresennol Gwynt y Môr oddi ar arfordir Sir Conwy.
Fe ddechreuodd y gwaith ar y cynllun yn 2017, a does dim disgwyl iddo gynhyrchu ynni tan o leiaf 2030, gyda galw rŵan i gyflymu’r broses.
“Bydden ni yn annog llywodraethau i edrych ar ffyrdd i gyflymu’r broses," meddai Tamsyn Rowe, arweinydd prosiect Awel y Môr i RWE.
“Fel bob dim mae’n gydbwysedd i sicrhau fod y broses gynllunio yn drwyadl a bod ymgynghori digonol, ac yna cydbwyso hynny efo'r argyfwng hinsawdd."
Cafodd y cynllun ei leihau yn sylweddol o’r bwriad gwreiddiol i godi rhyw 100 o dyrbinau, a hynny oherwydd pryderon lleol.
Mae’r cwmni’n dweud y bydd y cynllun newydd yn creu cannoedd o swyddi i bobl leol, a mwy hefyd yn y gadwyn gyflenwi.
Mae hynny eisoes yn wir i Jordan Eade, sydd newydd ddechrau ar brentisiaeth gyda’r cwmni.
“Mae’n bwysig i mi fyw a gweithio’n lleol, a does dim cymaint o gyfle i gael swyddi fel hyn yn lleol," meddai.
“Mae’n grêt cael y cyfle i 'neud hwn efo RWE i weithio ar y tyrbinau."
Mae’n freuddwyd i Jordan ers eistedd yn ei wersi ffiseg yn yr ysgol, a bydd rŵan yn dysgu sgiliau i gynnal a chadw’r isadeiledd.
Mae’r cynllun, fydd yn darparu ynni i gannoedd o filoedd o gartrefi, yn rhan o uchelgais ehangach llywodraethau Cymru a Phrydain i sicrhau cyflenwadau ecogyfeillgar a chynaliadwy.
Ond mae’r galw am gyflymu’r broses o gymeradwyo neu ystyried ceisiadau o'r fath yn cael ei atseinio gan arbenigwr blaenllaw yn y sector.
“Bob amser mae ystyriaethau, ond mae’n rhaid cyflymu y gosodiadau yma," meddai Gerallt Llewelyn, cyfarwyddwr cynllun ynni Morlais ar Ynys Môn.
“Dwi’n meddwl fod angen amlhau y mathau o ynni adnewyddol da' ni angen hefyd.
“Mae cynllunio yn mynd i arafu y broses, a ffeindio’r balans yn bwysig iawn, ac mi fasa ffeindio’r balans yn gynt rhwng yr amgylchedd a’r angen ynni yn braf iawn i'w weld."
'Symleiddio a chyflymu'r broses'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod deddf newydd isadeiledd yn symleiddio a chyflymu’r broses o gymeradwyo cynlluniau o'r fath.
“Mae ein polisi cynllunio yn hynod gefnogol i brosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu cynllunio’n dda," meddai llefarydd.
“Mae deddf isadeiledd newydd yn cynnig proses gymeradwyo newydd sydd wedi'i symleiddio a'i chyflymu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau gweithredol i brosesau cymeradwyo'r Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, sy'n cynnwys argymhellion i gyflymu'r broses.
"Bydd ein hymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023