Gorsaf bŵer hydro yn dathlu 60 mlynedd o greu ynni
- Cyhoeddwyd
Mae gorsaf bŵer yn y canolbarth yn dathlu 60 mlynedd ers agor yn swyddogol, gyda'i pherchnogion yn dweud y bydd yn cynhyrchu trydan glân yno am ddegawdau i ddod.
Fe agorodd cynllun ynni hydro Rheidol ger Aberystwyth ar 3 Gorffennaf 1964 – er iddo ddechrau cynhyrchu trydan yn 1962.
Mae’n gallu creu digon o drydan ar gyfer dros 35,000 o gartrefi trwy ddefnyddio ynni o ddŵr sy’n llifo o rwydwaith o gronfeydd.
Cafodd ei adeiladu gan y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog, a oedd yn gyfrifol am gyflenwi trydan yng Nghymru a Lloegr cyn preifateiddio. Bellach mae’n eiddo i Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop.
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2024
Mae’r cynllun yn cwmpasu ardal ag arwynebedd o 162 cilometr sgwâr, sy’n cynnwys cronfeydd dŵr Nant-y-Moch, Dinas a Chwm Rheidol.
Nant-y-Moch, sydd â dyfnder o 46 metr, yw'r fwyaf.
Cafodd ei chreu pan godwyd argae 35 metr o hyd ar draws afon Rheidol. Mae'r gronfa yn dal 26 biliwn litr o ddŵr.
Cynllun Rheidol yw’r pwerdy hydro mwyaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr.
Dennis Geyermann yw un o is-lywyddion Statkraft.
Pan fydd pobl yn ei holi am bwerdy Dinorwig yn Llanberis, sydd â chapasiti cynhyrchu mwy, ei ateb yw:
“Mae dŵr yn cael ei bwmpio i’r storfa f’yna, mae’n wahanol fan hyn. Unwaith y bydd y dŵr wedi’i dywys i’n tyrbinau ni, mae’n mynd i’r afon Rheidol ac yna i Fôr Iwerddon.
"Felly mae hynny'n gwneud [Rheidol] y mwyaf o'i fath yng Nghymru a Lloegr.
“Roedd yn garreg filltir i ganolbarth a gorllewin Cymru adeiladu gorsaf hydro mor fawr, sy’n darparu trydan i’r grid o fan hyn.
"Hefyd mae e' wedi creu llawer o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl y gwaith adeiladu.”
Mae tua 40 o bobl yn gweithio yng Nghwm Rheidol nawr.
O Nant-y-Moch – sydd dros 1,000 troedfedd uwchben lefel y môr – mae’r dŵr yn llifo i lawr i orsaf bŵer 13 megawat yn Ninas, lle mae’n gyrru tyrbin sydd wedi’i gysylltu â generadur i gynhyrchu trydan.
Mae'r dŵr yna'n llifo i’r orsaf bŵer fwyaf yng Nghwm Rheidol lle mae dau eneradur 20.5 megawat.
Yng Nghwm Rheidol, mae cronfa ddŵr arall wedi’i chreu i osgoi amrywiadau mawr yn llif y dŵr i lawr yr afon. Yno mae'r gronfa yn rhyddhau'r dŵr trwy eneradur un megawat.
Mae afon Rheidol yn fagwrfa ar gyfer eogiaid a sewin.
Mae’r cynllun ynni dŵr yn cynnwys ‘lifft’ ac ‘ysgol’ ar gyfer y pysgod i ganiatáu iddyn nhw basio’r argaeau a chyrraedd y mannau lle maen nhw’n claddu wyau i fyny’r afon.
'O flaen ei amser'
Yn ôl Sarah South, swyddog iechyd a diogelwch yn Rheidol, roedd sefydlu’r prosiect yn gam pwysig iawn.
“Roedd Cwm Rheidol o flaen ei amser, yn cynhyrchu trydan gwyrdd, glân yn 1964. Doedd renewables ddim yn rhywbeth roedd pobl yn meddwl oedd yn bwysig bryd hynny.”
Costiodd y cynllun £10m i’w adeiladu a dechreuodd y gwaith yn 1957, gyda rhyw 1,800 o bobl yn cael eu cyflogi ar anterth yr adeiladu.
John Elfed Jones – sydd bellach yn 91 oed – oedd dirprwy reolwr prosiect y gwaith adeiladu. Ac ar ôl agor yr orsaf bŵer, fe oedd y dirprwy reolwr.
Dywedodd fod y cynllun wedi cael ei adeiladu mewn cyfnod cyn i sylw gael ei roi ar gynhyrchu ‘ynni gwyrdd’.
“Doedd o ddim yn cael ei ystyried o reidrwydd yn ynni adnewyddadwy, [ond yn hytrach] ffordd cymharol rad i gynhyrchu trydan. Dyna oedd yr atyniad yn f’yno, nid poeni am ynni adnewyddadwy.”
Dywedodd Mr Jones ei fod e’n meddwl bod y cynllun yn "arloesol i raddau".
“Oherwydd nid unwaith roedd y dŵr oedd yn crynhoi yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni, ond tair gwaith.
"Ac yn fy marn i dydy o ddim wedi andwyo cefn gwlad Cymru, ond wedi creu ac yn dal i greu, swyddi cyfrifol, tâl dda i bobl leol.”
Er mwyn creu’r gronfa ddŵr fwyaf, cafodd cwm Nant-y-Moch, lle roedd capel a ffermdy, ei foddi.
Roedd y capel yn dal i gael ei ddefnyddio’n achlysurol ar ddiwedd y 1950au ac roedd dau frawd – John a James Jones – yn byw yn y ffermdy.
Cafodd tŷ newydd ei adeiladu iddyn nhw yn bellach i fyny’r cwm, ond yn hytrach na byw yno fe wnaethon nhw ei werthu a symud i dŷ yn agosach at Aberystwyth.
Dywedodd John Elfed Jones ei fod e’n meddwl y gellid fod wedi datblygu mwy o gynlluniau hydro yng Nghymru, ond roedd y penderfyniad dadleuol i foddi cwm arall yn y 1960au er mwyn darparu dŵr ar gyfer dinas Lerpwl yn gwneud prosiectau eraill bron yn amhosib.
“'Dw i ddim yn meddwl bod digon, ond mae effaith Tryweryn yn peri iddi fod yn anodd iawn, iawn i foddi unrhyw fath o gwm i gynhyrchu trydan yn y dyfodol.”
'60 mlynedd arall'
Yn ogystal â bod yn orsaf ynni dŵr gweithredol, mae Rheidol hefyd yn ganolfan reoli ar gyfer holl brosiectau adnewyddadwy Statkraft ar draws y DU ac Iwerddon.
Mae’r holl brosiectau gyda’i gilydd yn gallu cynhyrchu digon o ynni ar gyfer dinas o fwy na miliwn o bobl.
Dywed yr Athro Nigel Copner o adran beirianneg Prifysgol Aberystwyth fod Rheidol yn gynllun enfawr sydd wedi goroesi prawf amser.
“'Nôl yn 1964 roedd hwn yn un o'r prosiectau mwyaf yn yr ardal. Yn nhermau arian heddiw, fe gostiodd tua £200m - mae’n swm enfawr i’r ardal yma.
“O ran y mecanwaith, yr un dechnoleg yw hi â beth oedd o gwmpas ar ddiwedd y 19eg ganrif.
"Y cyfan sy'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw cynnal y bearings ac ati. Felly mae'r gwaith cynnal a chadw yn isel iawn, dros y 60 mlynedd. Mae'r dechnoleg hon yn para'n hir iawn.”
Wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 60 mae’r gwaith ynni dŵr hefyd yn edrych i’r dyfodol – mae’n parhau i fwydo i’r grid cenedlaethol ac mae gan Statkraft gynlluniau i ehangu.
Dywedodd Sarah South: “'Dw i’n mwynhau'r gwaith, mae pob dydd yn ddiddorol ac yn wahanol.
"A dim jyst y cronfeydd dŵr yma sy’n cael eu rheoli o fan hyn – mae gennym ni fferm wynt ger Caerfyrddin, a dwy yn yr Alban a phrosiectau eraill yn Lloegr a’r Alban – a’r cyfan yn cael eu rheoli o’r cwm yma yng nghanolbarth Cymru.
“'Dw i’n teimlo’n falch bod e dal yma – a gobeithio bydd e dal yma am 60 mlynedd arall, a falle mwy na hynny hefyd.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024