Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn Llanelli

Sophie EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans mewn tŷ ar Ffordd Bigyn yn Llanelli ar 5 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Borth Tywyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio mam i ddau o blant o Lanelli.

Fe wnaeth Richard Jones, 49, o'r Rhodfa, Porth Tywyn, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans, 30, mewn tŷ ar Ffordd Bigyn yn Llanelli ar 5 Gorffennaf.

Cafodd Mr Jones ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys ar y un diwrnod.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei theulu: "Ry'n wedi torri'n calonnau wedi'n colled. Fe fydd yn cael ei cholli gennym i gyd.

"Mae'n merch a chwaer brydferth a rhyfeddol wedi'i chymryd oddi wrthym a bydd ein bywydau fyth yr un fath eto.

"Roedd hi'n fam gariadus i ddwy o ferched - rhai roedd hi'n eu caru â'i holl galon. Roedd hi'n chwaer ryfeddol a oedd yn graig i'n teulu.

"Roedd hi'n ddisglair ac yn ddoniol a wastad yn gwneud i ni chwerthin."

Cafodd Mr Jones ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.