Dau yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe fore Gwener.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar Heol Llangyfelach yn ardal Brynhyfryd.
Cafodd dyn 46 oed a llanc 17 oed eu cludo i'r ysbyty.
Roedd swyddogion wedi cau'r ffordd rhwng Sgwâr Brynhyfryd a Heol Freeman, ond mae bellach wedi ailagor.
Dywedodd yr heddlu nad ydy amgylchiadau'r digwyddiad yn amheus.