Morgan 'heb lais' mewn trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei fod yn "gytundeb da" i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cael ei chyhuddo o fod "heb lais" yn nhrafodaethau Llywodraeth y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Ddydd Llun, croesawodd y cyn-Aelod o Senedd Ewrop y cytundeb newydd a wnaed rhwng y DU a'r UE, ond dywedodd y byddai wedi hoffi "mwy o drafodaeth" gyda Llywodraeth y DU ynghylch pysgota.

Yn Senedd Cymru, dywedodd Darren Millar o'r Ceidwadwyr nad oedd gan Ms Morgan "lais", tra dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru fod Syr Keir Starmer yn trin Cymru â "dirmyg".

Dywedodd Ms Morgan ei fod yn "gytundeb da i Gymru" a bod llawer o faterion a godwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael eu hadlewyrchu ynddo.

Mae'r cytundeb a wnaed gyda'r UE yn cwmpasu pysgota, gallu pobl ifanc i symud yn rhydd ar y cyfandir ac amddiffyn, ymhlith materion eraill.

Bydd y ddwy ochr yn gweithio ar gytundeb diogelwch bwyd ar y cyd a fyddai, os caiff ei weithredu, yn lleihau gwaith papur ac yn hwyluso gwiriadau.

'Erchyll'

Ddydd Llun, pan ofynnwyd iddi gan y BBC a fu ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr effaith ar bysgota, dywedodd Eluned Morgan fod trafodaethau wedi bod ond y byddai hi wedi "hoffi mwy o drafodaeth".

"Rydym wedi cael syniad o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd drwy'r amser ond ni chafodd y manylion eu cwblhau tan yr ychydig ddyddiau diwethaf," meddai.

Mae rheolaeth pysgota wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru.

Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd, dywedodd arweinydd Seneddol y Torïaid Cymreig, Darren Millar, fod y Prif Weinidog Keir Starmer wedi "ailagor yr hen frwydrau Brexit yr ydym eisoes wedi'u hymladd a'u hennill ac wedi gwneud rhai cyhoeddiadau erchyll".

"Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â beth mae'r cytundeb hwn yn ei olygu: symudiad rhydd yn ôl, taliadau i'r UE yn ôl, rheolau'r UE yn ôl, ein diwydiant pysgota yma yng Nghymru wedi'i fradychu, cynllun symudedd annerbyniol", meddai.

Dywedodd y byddai'r cytundeb "yn dinistrio diwydiant pysgota Cymru" a chyhuddodd Ms Morgan o werthu "ein diwydiant pysgota i lawr yr afon".

Mewn ymateb i Mr Millar, dywedodd Ms Morgan: "Dywedaf wrthych yr hyn rwy'n ei wybod yw bod y Torïaid wedi gwneud traed moch o Brexit.

"Yr hyn a welwn nawr yw cyfleoedd llawer gwell ar gyfer swyddi yn y wlad hon oherwydd bydd pobl yn gallu allforio i'r UE am y tro cyntaf heb y fiwrocratiaeth."

Yn ei gyfres o gwestiynau ef, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "falch bod rhywfaint o dderbyniad bellach am niwed Brexit".

Ond dywedodd nad oedd y cytundeb yn "ddigon beiddgar" a bod Llafur "hefyd yn methu wrth ymateb i ddifrod Brexit".

Meddai, "mewn arwydd arall eto nad yw llais Cymru o bwys mawr i Lafur y DU, mae'r prif weinidog wedi cyfaddef ... ei bod hi wedi cael ei rhoi o'r neilltu eto."

Dywedodd Eluned Morgan: "Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod bod hwn yn gytundeb da i Gymru."

Rhestrodd nifer o faterion, fel "dod â rhwystrau allforio i lawr", amddiffyn a materion yn ymwneud â dur a gallu pobl ifanc i symud yn rhydd ar y cyfandir "i gyd ar ein rhestr o bethau yr oeddem am eu gweld" a dywedodd eu bod wedi cyd-weithio "gydag adrannau perthnasol" Llywodraeth y DU.