Dros 100 heb le i arddangos defaid yn y Sioe Frenhinol

Dafad yn y Sioe Fawr
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o ffermwyr Cymru yn rhwystredig wedi i'r ffenestr i wneud cais i arddangos anifeiliaid yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni gau dros ddeng niwrnod cyn y dyddiad cau swyddogol, sef 18 Mai.

Y rheswm, yn ôl y trefnwyr, yw bod nifer aruthrol - mwy nag erioed - wedi cofrestru, sy'n golygu bod dros 100 bellach ar restr aros.

Er iddi ennill sawl pencampwriaeth yn y gorffennol, dywedodd Olwen Roberts sy'n 15 oed na fydd hi'n mynd i'r Sioe o gwbl os na fydd modd iddi gystadlu gyda'i defaid.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sioe ei fod yn deall ac yn derbyn sylwadau'r ffermwyr, ond yn ôl Aled Rhys Jones: "Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynnal cydbwysedd ar draws y Sioe."

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod 'na ddigon o le i'r gwartheg, a'r moch a'r geifr, a'r adrannau eraill wrth gwrs, yn ogystal â'r holl stondinau sy'n dod i'r Sioe, felly mae'n anodd wrth gwrs i wneud y penderfyniadau yma."

Fe ddaeth dros 1,000 o geisiadau gan arddangoswyr defaid i law'r Sioe Amaethyddol Frenhinol o fewn y deuddydd cyntaf.

Mae 'na fwy o ddiddordeb nag erioed o'r blaen felly, a heb le am ragor o gystadlaewyr, penderfynodd y trefnwyr gau'r ffenestr yn gynnar.

Ond mae'r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan nifer o ffermwyr sydd wedi bod yn arddangos eu hanifeiliaid yn y Sioe Fawr ers degawdau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa wedi syfrdanu Myfanwy Roberts

Ar Fferm Penparc ger Sanclêr, cafodd Myfanwy Roberts ei syfrdanu wrth glywed na fyddai lle i ddefaid y teulu.

"'Na' yw'r ateb i gau ceisiadau a 'na' i ddweud i unrhyw ffarmwr bod ddim hawl gyda nhw i gystadlu. Mae e'n ofnadwy bo nhw'n gallu wneud shwt beth.

"Balchder yw bod cymaint ishe dangos yn y sioe 'ma.

"Ond yn anffodus, dyw'r sioe ar y funud ddim yn falch o gwbl bo ni yno, ishe cystadlu."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond wrth siarad ag amaethwyr yn y mart y daeth Aelwyn Evans i wybod bod yna restr aros yn dilyn newid i'r dyddiad cau

Fe ddaeth Aelwyn Evans i'r brig yn Llanelwedd y llynedd, ond mae yntau hefyd ar restr aros ar gyfer y Sioe eleni.

Y rhwystredigaeth i'w deulu yntau yw bod y dyddiad cau wedi newid heb yn wybod iddo, gyda chymdogion yn torri'r newyddion mewn marchnad leol.

"Fe ddaeth pedwar neu bump ata'i yn y farchnad yn Llanybydder ddydd Llun yn dweud eu bod nhw ar restr aros. Sioe Frenhinol Cymru yw hi, a fi'n credu bod angen i ni edrych ar ôl bridiau Cymru i neud yn siwr bo nhw'n cael lle yn y Sioe."

Ffynhonnell y llun, Aelwyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Aelwyn Evans a'i deulu yn dathlu llwyddiant yn y Sioe Fawr

Mae'n ymddangos fod sefyllfa debyg wedi codi mewn sawl sioe fawr arall ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y Great Highland Show yn Yr Alban, a'r Royal Yorkshire, maen nhw'n edrych ar opsiynau i ychwanegu at nifer y cystadleuwyr, ond bod rhestr aros ganddyn nhw hefyd ar gyfer y categorïau defaid.

Parhau i obeithio am ddatrysiad y mae Prif Weithredwr y Sioe Fawr yng Nghymru.

"Beth 'dan ni yn edrych arno ydy edrych mewn i bob opsiwn posib lle allwn ni weld os oes yna fwy o le," meddai Aled Rhys Jones.

"Falle fydd 'na ffordd o gael mwy o lociau i mewn dros yr ychydig o wythnosau nesa', a byddwn ni'n cysylltu gyda'r arddangoswyr hynny maes o law."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr yn edrych ar bob opsiwn posib i greu lle ar gyfer mwy o arddangoswyr, medd Aled Rhys Jones

Mae'r Sioe yn galw ar unrhyw un sydd ddim yn bwriadu cystadlu ond sydd wedi gwneud cais i gysylltu mor fuan â phosib, fel bod cymaint ag sy'n bosib yn cael cyfle eleni i arddangos yn y sioe sy'n cael ei chydnabod fel un o oreuon y byd.

Ar hyn o bryd serch hynny, mae degau lawer yn aros i glywed a fydd modd iddyn nhw gystadlu eleni - tra bod rhai, fel Olwen Roberts, yn galw ar drefnwyr i roi blaenoriaeth i anifeiliaid sy'n cael eu gweld fel yr elfen ganolog i bwrpas y sioe.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl opsiwn posib i ddatrys y sefyllfa, medd Olwen Roberts

Yn ôl Olwen, mi fyddai digon o ffyrdd i sicrhau rhagor o le ar gyfer mwy o ddefaid.

"Mae digon o opsiynau i gael," meddai.

"Allan nhw roi tent lan, rhywbeth lan.

"Dyma'r unig ffenest siop sydd i gael i'r ffermwyr i arddangos a gwerthu eu stoc i bobl eraill, a maen nhw'n cau'r gât ar y ffermwyr."

Pynciau cysylltiedig