Strictly yn 'fwy heriol' na dysgu Cymraeg i Wynne Evans

Wynne Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Wynne Evans yn perfformio'r Samba nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae’r cyflwynydd radio, Wynne Evans, wedi dweud bod cymryd rhan yn rhaglen Strictly Come Dancing yn “fwy heriol” na dysgu Cymraeg.

Bydd Wynne yn dawnsio am y tro cyntaf nos Sadwrn, gyda’i bartner Katya Jones.

Dywedodd fod yr her yma yn “hollol wahanol” i unrhyw beth arall y mae erioed wedi ei wneud.

Enillodd Wynne gyfres Celebrity Masterchef y llynedd, ac fe gymrodd ran hefyd yng nghyfres cariad@iaith S4C yn 2011.

'Dwi'n gystadleuol iawn!'

Dywedodd: "Yn amlwg ro’dd dysgu Cymraeg out of my comfort zone pan nes i Cariad at Iaith.

“Achos fi'n gallu siarad Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg oherwydd yr opera, felly ar y pryd o’n i’n eitha embarrassed do’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg.

“Ond heb os, Strictly sy’n fwya' heriol.

“Ma’ hwn yn hollol wahanol i be’ dwi wedi ‘neud erioed o’r blaen.”

Ffynhonnell y llun, PA Media

Bydd Wynne a Katya yn perfformio’r ddawns Samba nos Sadwrn, i'r gân Help Yourself gan Tom Jones.

Ers dechrau’r paratoi, esboniodd Wynne fod ei ddiwrnod arferol wedi newid tipyn.

Yn parhau gyda’i sioe foreol ar BBC Radio Wales, mae Wynne yn treulio pob awr sbâr sydd ganddo yn ymarfer.

Dywedodd: “Fi’n cyflwyno fy sioe o naw y bore tan hanner dydd ac yna’n mynd syth i ymarfer tan 10 y nos.

“Dwi’n ymarfer bob dydd - mae mor full on.

“Mae fy mhen i’n troelli a dwi mor, mor nerfus am nos Sadwrn, ond rwy’n gystadleuol iawn."

Dysgu Cymraeg

Mae Wynne wedi bod yn awyddus i ddefnyddio’i Gymraeg yn ystod yr ymarferion.

Soniodd ei fod wedi rhoi “blas o Gymru” i’w bartner trwy ddysgu geirfa Gymraeg a phrynu cynnyrch Cymreig iddi hi.

“Wrth gwrs rwy’n dysgu geirfa Cymraeg i Katya – fel diolch, bore da, noswaith dda.

“Mae ganddi hi ffrind o Gymru hefyd sy’n danfon brawddegau ar text i fi gael trio cyfieithu.

“Pan o’n i ar MasterChef o’n i ond yn coginio gyda chynnyrch Cymreig, felly nes i greu hamper iddi hi yn llawn bwydydd Cymraeg – pice ar y maen, sioledi Cymraeg – i gadw ni fynd yn ystod yr ymarferion.

“Er mwyn iddi hi wir gael blas o Gymru.“

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Katya Jones fydd partner Wynne ar Strictly Come Dancing eleni

Nos Sadwrn fydd y sioe fyw gyntaf i'r enwogion fydd yn cystadlu ar Strictly eleni.

“Ni 'di bod yn Elstree - y stiwdios - o’r blaen ar gyfer y sioe agoriadol ond o'dd hwnna’n pre-rec.

“Ond ma’ nos Sadwrn yn sioe fyw – gall unrhyw beth fynd o’i le," meddai.

Ychwanegodd: “Os dwi’n darllen cerddoriaeth does dim problem ‘da fi’n cofio’r drefn, ond ma’ hwn [dawnsio] yn iaith newydd a dwi ddim yn siarad e ar hyn o bryd!

“Dwi’n gobeithio bydda i’n siarad yr iaith dawnsio erbyn dydd Sadwrn.

“Dywedodd Katya hyd yn oed – ‘dwi erioed wedi gweld rhywun yn canu mewn rhythm ond yn dawnsio allan o rhythm!’

“Alla i ddim esbonio i chi pa mor anodd yw dawnsio."

Pynciau cysylltiedig