Morloi yn marw ar ôl mynd yn sownd mewn cylchoedd taflu
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod all beri gofid.
Mae grŵp bywyd gwyllt ym mhenrhyn Gŵyr yn annog pobl i roi’r gorau i brynu cylchoedd taflu plastig, gan fod morloi ifanc yn aml yn marw ar ôl mynd yn sownd ynddynt.
Dechreuodd Grŵp Morloi Gŵyr yr ymgyrch ar ôl gweld y cylchoedd taflu'n cael eu gadael ar draethau yn Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.
Yn ôl Gareth Richards, a ddechreuodd y grŵp, mae'r cylchoedd yn aml yn mynd yn sownd o amgylch gyddfau'r morloi llwyd.
"Maen nhw'n torri mewn i wddf y morlo, sy'n arwain at haint ac yn anffodus mae llawer yn marw," meddai.
Mae Cyngor Abertawe yn cefnogi'r ymgyrch ac yn gobeithio atal eu defnydd ar draethau yn yr ardal o fis nesaf.
Dywedodd yr RSPCA y gall gostio hyd at £15,000 i achub morlo sy'n mynd yn sownd.
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
Dywedodd Mr Richards mai nod yr ymgyrch yw annog cwsmeriaid i roi'r gorau i brynu'r cylchoedd taflu, ac annog siopau lleol i roi'r gorau i'w gwerthu.
“Yr hyn rydyn ni ei eisiau yw i bobl ddefnyddio’r ffrisbi disg traddodiadol yn lle'r rhai lle does dim cylch yn y canol," meddai.
“Mae’r cylchoedd yn cael eu gwerthu mor rhad, yn aml am £1 neu £2, felly maen nhw’n aml yn mynd ar goll neu’n cael eu gadael ar draethau ac yn cael eu cario i’r môr."
Ychwanegodd: “Rydych chi wedyn yn cael morloi, morloi iau yn benodol, sy'n gweld y rhain fel tegan.
“Ond beth sy’n digwydd yw bydd y cylch yn mynd dros eu pennau ac yn mynd yn sownd ar eu gyddfau, a dy'n nhw methu dod bant.”
'Pobl ddim yn sylweddoli'r niwed'
Mae'r morloi sy'n cael eu hachub o draethau yng Nghymru yn cael eu cludo i ganolfan yng Ngwlad yr Haf i gael triniaeth.
Mewn rhai achosion, gallai gymryd hyd at dri mis i’r morloi wella.
Ychwanegodd Mr Richards: “Dim ond heddiw dwi wedi gweld morlo yn y môr yma yn Rhosili gyda marciau o amgylch ei wddf a thag coch RSPCA ar ei flipper.
“Mae hynny'n dangos ei fod wedi mynd yn gaeth mewn cylch neu ryw eitem arall ac mae nawr wedi dychwelyd i’r gwyllt.
“Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud. Mewn gwirionedd fi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli’r niwed sy’n cael ei achosi gan y cylchoedd taflu.”
Mae Elin Carter, 20, yn gwirfoddoli gyda Grŵp Morloi Gŵyr ac yn astudio gwyddoniaeth yr amgylchedd yn y brifysgol.
Dywedodd iddi benderfynu gwirfoddoli ar ôl sylweddoli pa mor niweidiol y gallai eitemau plastig fod i fywyd morol.
“Ers dechrau gwirfoddoli, fi ‘di gweld nifer o forloi sy’n cael eu cludo i’r traethau, naill ai maen nhw wedi marw neu maen nhw gydag anafiadau difrifol iawn, sy’n eu hatal rhag gallu nofio a byw bywyd fel y dylen nhw, oherwydd y cylchoedd taflu yma," meddai.
'Hyd at £15,000 i achub morlo'
Dywedodd yr RSPCA ei fod yn fater difrifol ar draws y DU.
Yn ôl yr uwch swyddog bywyd gwyllt, Geoff Edmond, mae’n broses ddrud a hir i forlo wella ar ôl cael ei ddal.
“Ar ôl cael eu hachub, y peth cyntaf i’w wneud yw cael milfeddyg i dynnu’r cylch o wddf y morlo," meddai.
“Ond wedyn mae’n gyfnod hir, hir o reoli’r anafiadau a’r boen gyda chyffuriau, nes yn y pendraw mae gobaith y bydd yr anafiadau’n gwella ac y gellir dychwelyd yr anifail i’r gwyllt.
“Mae angen eu cadw mewn dŵr halen, ac mae ychwanegu halen at ddŵr yn ddrud iawn, felly gallwch chi fod yn edrych hyd at £15,000 pob tro mae angen i forlo gael ei achub.”
Mae Cyngor Abertawe, sy'n cefnogi'r ymgyrch, yn gobeithio gwahardd defnydd y cylchoedd taflu ar eu traethau.
Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart, bod y cylchoedd yn achosi “poen, dioddefant a marwolaeth" i'r morloi.
“Gallai cylchoedd plastig ladd morloi sy’n gwneud arfordir Gŵyr yn gartref," meddai.
“Mae’r eitemau’n cael eu gwerthu’n rhad iawn ac mae’r rhai sy’n cael eu taflu ar ein traethau'n dod yn berygl i forloi chwilfrydig.
“Rydym yn bwriadu trafod y mater yng nghyfarfod llawn y cyngor fis nesaf, ac rwy’n hyderus y bydd yn cael cefnogaeth.
“Y nod fydd codi ymwybyddiaeth o’r perygl ac annog pobl leol ac ymwelwyr â’n traethau i roi’r gorau i ddefnyddio'r cylchoedd taflu – a defnyddio ffrisbi disg cadarn yn lle – ac, wrth gwrs, mynd â nhw adref bob amser.”