Darganfod pryfyn ym Môn oedd 'wedi diflannu o'r DU yn 2016'

Limnephilus patiFfynhonnell y llun, Robin Sutton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rhywogaeth o bryfyn cadys - Limnephilus pati - ei ddarganfod yn ystod arolwg o rywogaethau ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae rhywogaeth o bryfaid yr oedd arbenigwyr yn credu oedd wedi diflannu ym Mhrydain yn 2016, wedi cael ei darganfod yn Ynys Môn.

Cafodd y math o bryfyn cadys ei ddarganfod yn ystod arolwg o rywogaethau yng Nghors Goch gan Natur am Byth - rhaglen i adfer rhywogaethau yng Nghymru.

Roedd yr arolwg mewn partneriaeth â'r RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, i gofnodi'r rhywogaethau o bryfaid cadys sy'n byw yn y gwlyptir.

Dywedodd Clare Sampson, rheolwr prosiect Natur am Byth ar gyfer yr RSPB, mai "Ynys Môn yw'r unig le y gwyddom amdano yng Nghymru lle gallwch ddod o hyd i'r pryf cadys unigryw hwn".

Steve Palin gyda thrapiau golauFfynhonnell y llun, Charles Aron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd trapiau golau eu defnyddio mewn corsydd gan arolygwyr

Defnyddiodd yr arolygwyr drapiau golau mewn corsydd yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst, gan chwilio am rywogaeth benodol o'r pryfyn, Limnephilus tauricus.

Ond roedden nhw wrth eu boddau i ganfod bod y trapiau wedi dal rhywogaeth o bryfaid cadys sydd hyd yn oed yn fwy prin - Limnephilus pati.

Cors Goch ydy un o dri lleoliad yn unig yn y DU lle mae'r rhywogaeth wedi'i chanfod ers 2016 - pan gymerwyd ei bod wedi diflannu'n llwyr o Brydain.

Y safleoedd eraill ydy Market Weston Fen yn Suffolk ac Eochar yn Ne Uist, yr Alban.

Er mwyn i'r rhywogaeth oroesi, mae angen amgylchedd lle mae dŵr glân iawn ac yn llawn calsiwm.

Mae'r cynefinoedd lle y cawn nhw eu canfod yn aml ymhlith y rhai mwyaf amrywiol, ond maent mewn perygl oherwydd sychder ac effeithiau dwysáu amaethyddol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig