Prosiect yn gobeithio cynyddu niferoedd llygod y dŵr yn y de

Mae niferoedd llygod y dŵr wedi gostwng yn sylweddol dros y degawdau
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n greaduriaid wnaeth ysbrydoli cymeriad Ratty yn 'The Wind in the Willows' ac ers talwm - pan ysgrifennwyd y llyfr dros ganrif yn ôl - ro'n nhw'n gyffredin mewn afonydd yng Nghymru a thu hwnt.
Erbyn heddiw, mae llygod y dŵr mewn perygl, a'u niferoedd wedi gostwng yn sylweddol dros y degawdau.
Ond er y cwymp enfawr yn eu niferoedd, mae gobaith ar gyfer y dyfodol o brosiect sy'n cyflwyno llygod y dŵr - sydd wedi'u bridio mewn caethiwed - i'r gwyllt yn ne Cymru.
Er mwyn gwneud symud i'r gwyllt yn haws, mae'r prosiect yn bwydo'r creaduriaid gyda'r hyn y byddan nhw'n bwyta ar ôl cael eu rhyddhau, ac yn monitro eu diet tra'u bod mewn caethiwed.

Llygoden y dŵr yn cael ei rhyddhau i Afon Ddawan ger y Bont-faen
Mae'r bwyd ar gyfer llygod y dŵr yn cael ei dyfu gan ddefnyddio system arloesol sy'n cynnwys baw pysgod a dŵr llawn maetholion.
Ddegawdau yn ôl, roedd llygod y dŵr yn llawer mwy cyffredin mewn afonydd a dyfrffyrdd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Fyddai hi ddim wedi bod yn anarferol eu gweld ym 1908 pan gyhoeddwyd 'The Wind in the Willows' gan Kenneth Grahame - llyfr o straeon i blant am Ratty a'i ffrindiau.
Ond heddiw, mae llygod y dŵr mewn perygl yng Nghymru oherwydd colli cynefinoedd a chael eu bwyta gan ysglyfaethwyr - gan gynnwys y minc Americanaidd, a gyflwynwyd i'r DU tua chanrif yn ôl oherwydd y galw am gotiau ffwr ar y pryd.
Yn ôl elusen sy'n gwneud arolygon o lygod y dŵr, mae eu nifer ledled y DU wedi gostwng bron i 90% ers y 1980au.

Mae llygod y dŵr yn bwyta dros 200 o wahanol fathau o blanhigion, yn ôl Richard Davies
Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a sefydliadau eraill yn gweithio ar brosiect i ddod â llygod y dŵr yn ôl i Afon Ddawan ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg.
Cyn eu rhyddhau, mae staff a gwirfoddolwyr yn neorfa Cynrig CNC ger Aberhonddu - lle mae'r llygod y dŵr yn cael eu bridio - yn monitro eu harferion bwyta ac yn tyfu'r bwyd y byddan nhw'n canfod yn y gwyllt.
Yn ôl Richard Davies - arweinydd y prosiect - y nod yw helpu'r llygod y dŵr hyn i ymdopi'n well gyda'r profiad o gael eu rhyddhau, sydd yn gallu "achosi tipyn o straen".
"Os y'ch chi'n cyflwyno diet newydd hefyd, gall hynny achosi hyd yn oed mwy o straen," meddai.
"Felly trwy eu paratoi gyda'r planhigion a'r diet cywir, rwy'n credu y byddan nhw'n fwy ffit ar gyfer y gwyllt."
Dywedodd Mr Davies fod llygod y dŵr yn bwyta dros 200 o wahanol fathau o blanhigion – sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn anodd rhoi iddyn nhw mewn caethiwed.
Felly mae'r prosiect wedi bod yn rhoi afalau a moron iddyn nhw yn lle.

Mae'r llygod y dŵr yma wedi'u bridio mewn caethiwed, cyn cael eu rhyddhau i'r gwyllt
Ond nawr mae rhai o'r glaswelltau sy'n well gan lygod y dŵr yn cael eu tyfu yng Nghyrnig mewn polytunnel gan ddefnyddio system acwaponeg, lle mae'r planhigion yn tyfu mewn dŵr sy'n llawn maetholion yn hytrach na phridd.
Mae'r dŵr yn cael ei gymryd o'r tanciau pysgod mawr yn y ganolfan fridio, sy'n cynnwys y maetholion o faw'r pysgod, sy'n helpu'r planhigion i dyfu'n gyflymach.
"Yn y gwyllt, bydd y [llygod y dŵr] yn dod ar draws glaswelltau a gwreiddiau caletach, a fydd afalau a moron ddim ar gael," meddai Mr Davies.
"Dwi'n credu bod cyflwyno eu bwydydd naturiol o'r polytunnel acwaponeg yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw yn y gwyllt ac yn well ar gyfer eu perfedd."
I ddysgu beth mae llygod y dŵr yn hoffi bwyta, rhoddodd staff y prosiect gamerâu bach yn eu cawellau i fonitro eu dewisiadau.
Ychwanegodd Richard Davies: "Hoff blanhigion y llygod y dŵr yw hesg, mintys dŵr a gellesg y gerddi, ac mae'r holl rywogaethau hyn yn tyfu'n dda iawn yn y polytunnel.
"A dyna beth maen nhw'n ei fwyta yn y lleoliad lle byddwn ni'n eu rhyddhau."

Y gred yw bod nifer y llygod y dŵr ledled y DU wedi gostwng bron i 90% ers yr 80au
Dywedodd Alice Chapman, swyddog cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru: "Mae llygod y dŵr yn gwella ecosystemau, gan greu strwythur llystyfiant mwy amrywiol ac amrywiaeth o rywogaethau ar lannau'r afonydd lle maen nhw'n byw.
"Mae eu hymddygiad tyllu hefyd yn creu microgynefinoedd ar gyfer rhywogaethau eraill."
Dyma'r ail flwyddyn o ailgyflwyno llygod y dŵr i Afon Ddawan, ac mae cynnydd y creaduriaid yn cael ei fonitro'n agos ar ôl eu rhyddhau.
Er ei bod hi'n ddyddiau cynnar o hyd, dywedodd Ms Chapman: "Mae digon o arwyddion eu bod nhw yma ac yn gwneud yn dda!
"Fyddai'r prosiect hwn ddim wedi bod yn bosibl heb gymorth a brwdfrydedd tirfeddianwyr lleol, sydd wedi ein galluogi i wella cynefinoedd ar gyfer llygod y dŵr, a'u rhyddhau ar eu tir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021