Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro

Trefgarn
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A40 yn Nhrefgarn yn Sir Benfro brynhawn Gwener.

Fe darodd dau gar, Citroen Picasso arian ac Audi A1 du, ei gilydd am 12:40. Roedd y ddau gerbyd yn teithio o gyfeiriadau gwahanol.

Bu farw gyrrwr y Citroen yn y fan a'r lle.

Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig