Tynnu cloeon cariad o bont yn Llanrwst dros bryder diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae dwsinau o gloeon oedd wedi eu gosod ar bont yn Sir Conwy wedi cael eu tynnu oddi yno gan y cyngor yn sgil pryderon am ddiogelwch.
Roedd y cloeon clap - neu padlocks - yn cael eu gosod ar Bont Gower yn Llanrwst gan gariadon, oedd yn aml yn ysgrifennu eu henwau neu neges fach ar yr eitem.
Mae'r cloeon bellach wedi eu tynnu oddi yno gan yr awdurdod lleol, gyda rhai trigolion lleol yn flin fod hynny wedi ei wneud "heb unrhyw rybudd".
Dywedodd Cyngor Sir Conwy fod rhai cloeon wedi cael eu tynnu gan eu bod yn achosi rhwd ar y mannau lle'r oedden nhw wedi eu gosod.
Mae'r cloeon hyn yn cael eu defnyddio fel arwydd o gariad, ac mae cyplau yn aml yn eu gosod mewn mannau rhamantus, fel pontydd, ac yn taflu'r goriad.
Y gred yw mai'r nofel Eidaleg 'Ho Voglia di Te' gan Federico Moccia - gafodd ei gyhoeddi yn 2006 - sydd wedi ysbrydoli'r arfer.
Bu'n rhaid tynnu cloeon tebyg o'r Pont Des Arts ym Mharis yn sgil amcangyfrif fod yr eitemau wedi ychwanegu tua 45 tunnell at bwysau'r strwythur.
Mae cynghorau eraill o amgylch y Deyrnas Unedig hefyd wedi tynnu cloeon o bontydd gwahanol.
Dywedodd un o drigolion y dref mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Hoffwn gael ein clo ni yn ôl gan ei fod yn bwysig iawn i ni, ac mae'n siomedig na chafodd hyn ei ystyried cyn i'r cloeon gael eu tynnu heb unrhyw rybudd."
Dywedodd person lleol arall: "Mae'n siomedig iawn. Fe wnes i a fy mhartner ddyweddïo ar y bont y llynedd ac fe wnaethon ni osod clo hyfryd yno."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Conwy: "Ry'n ni'n deall bod gosod y cloeon hyn yn cael ei ystyried yn weithred ramantus, ond mae'n gallu achosi niwed.
"Yn anffodus, mae sawl esiampl o wahanol rannau o'r byd lle mae cloeon o'r fath wedi effeithio ar ddiogelwch a gwydnwch pontydd a strwythurau eraill."