Sut laniodd pêl-droed o Iwerddon ar draeth ym Môn?

Wnaeth Celyn a'i dad, Andrew, ddarganfod y bêl ar Sul y Pasg
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth teulu o Ynys Môn ddarganfyddiad rhyfeddol ar Sul y Pasg - fe ddaethon nhw o hyd i bêl-droed tîm ieuenctid o Ddulyn. Roedd y bêl wedi teithio ar draws Môr Iwerddon.
Roedd Celyn, sy'n 12 oed, yn chwilio am froc môr ar draeth Porth y Nant yng ngogledd orllewin Môn gyda'i dad, Andrew, pan ddaethon nhw o hyd i'r bêl rhwng y creigiau.
Roedden nhw'n amau'n wreiddiol ei bod wedi ei gadael ar ôl gan ymwelwyr ond wrth edrych yn agosach fe sylweddolon nhw ei bod yn eiddo i dîm o dan 12 Finglas United, sef tîm ieuenctid yng ngogledd orllewin Dulyn.

Ar ôl chwilio ar google roedd hi'n amlwg fod yn bêl yn perthyn i dîm yn Nulyn, "oedd yn dipyn o sioc!"
Dywedodd Andrew, 47, sy'n rhedeg maes pebyll gerllaw: "Mae'r traeth ar waelod ein caeau ni ym Mhengraig a dydi o ddim y lle hawsaf i gyrraedd i fod yn onest.
"Pan welais i'r bêl mi wnes i bootio fo at Celyn, a dim ond wedyn wnes i sylwi o le'r oedd hi wedi dod... dydi o ddim y teip o le fysach chi'n disgwyl gweld unrhyw fath o bêl.
"Ar ôl chwilio ar google roedd hi'n amlwg fod y bêl yn perthyn i dîm yn Nulyn, oedd yn dipyn o sioc!
"Fyswn i'm yn hoffi meddwl pa mor hir oedd y bêl wedi bod yn y môr ... 'da ni wedi dod o hyd i raffau a phethau felly wedi'u golchi i fyny o'r blaen ond byth pêl-droed!"

Mae Celyn wrth ei fodd yn ymweld â Phorth y Nant
Mae'n ddirgel sut wnaeth y bêl ffendio'i hun ym Môr Iwerddon, ond ychwanegodd Andrew, "Mae'r bêl wedi ei batterio chydig, ond roedd yn ddigon da i ni gael kick about.
"Mae hi wedi cael dipyn o ymateb ar Facebook, dwi'n siŵr ei bod wedi difetha gormod i'r clwb allu ei defnyddio o eto ond byddai'n braf ei gweld yn dychwelyd adre' o leia'."
Cafodd tîm dan 9 Finglas lwyddiant mewn twrnament ieuenctid yn Blackpool dros y penwythnos, gyda'r clwb yn ymateb ar Facebook bod angen "ychydig o ymarfer saethu" ar y tîm o dan 12.