'Pwysig bod llenyddiaeth y byd ar gael drwy'r Gymraeg'

Llun o Richard CroweFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Crowe ei fod yn "teimlo ychydig bach yn rhyfygus 'mod i 'di mentro cyfieithu o'r Ddaneg" gan nad yw'n siarad yr iaith yn rhugl

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "bwysig cael mynediad at lenyddiaeth y byd drwy'r Gymraeg" meddai cyn-gyfieithydd sydd wedi trosi cyfrol o'r iaith Ddaneg i'r Gymraeg.

Mae'r cyhoeddwyr Melin Bapur yn credu o bosib mai hwn yw'r tro cyntaf i gyfrol Ddaneg gael ei chyfieithu'n uniongyrchol i'r Gymraeg.

Dywedodd y cyn-gyfieithydd a'r cyn-eiriadurwr Richard Crowe yr hoffai ddangos nad oes rhaid "troi at y Saesneg i gael blas ar drysorau a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill".

Fe gyfieithodd gyfrol o straeon byrion gan yr awdur adnabyddus Daneg, Helle Helle, yn uniongyrchol o'r Ddaneg gan nad yw hi'n bodoli'n Saesneg eto, ac mae'n bwriadu troi at nofelau Hebraeg nesaf.

Llun o Richard Crowe yn dal ei gyfieithiad Cymraeg, 'ceir ac anifeilaid'.Ffynhonnell y llun, Gwenda Sippings
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd fod 'na "bethau diwylliannol nad oedd yn cyfateb yng Nghymru nac yn Gymraeg" ond pleser oedd "cael meddwl yn greadigol"

Fe ddechreuodd Richard Crowe, sydd o Bournemouth yn wreiddiol, ddysgu Daneg ar ôl ymddeol yn 2021 ac fe aeth ati i gyfieithu'r gyfrol Ddaneg "er mwyn fy hun just fel ymarfer ieithyddol i ddechrau".

"Doedd dim bwriad gyda fi gyhoeddi o gwbl" meddai.

"O'n i'n blino ar y stwff ysgrifenedig o'dd wedi cael eu hysgrifennu'n bwrpasol i fyfyrwyr ar y cwrs ac o'n eisiau rhywbeth go iawn i ddarllen, fel rhywbeth mewn Daneg i Ddaniaid yn lle dysgwyr".

Dyna pryd daeth o hyd i'r gyfrol hon "ar hap a damwain" ac fe arweiniodd un peth at y llall.

Yn y pen draw dywedodd ei ffrindiau "man a man i ti gyhoeddi'r cyfieithiadau".

'Prosiect nesaf yw cyfieithu nofel Hebraeg'

Erbyn hyn mae'n awyddus i fwy o gyfrolau a llenyddiaeth ryngwladol gael eu canfod a'u cyfieithu i'r Gymraeg.

Mae Richard wedi astudio 20 o ieithoedd yn ffurfiol ond yn prysuro i ddweud mai "mond ambell air dwi'n cofio gyda rhai ohonyn nhw".

Ond dyw e ddim yn gwastraffu amser cyn meddwl am ei brosiect nesaf a nofel Hebraeg sydd ar ei restr.

Fe dreuliodd flwyddyn yng ngorllewin Jerwsalem yn yr 80au a threulio cryn amser yn y Brifysgol Hebraeg.

"Ar yr adeg honno, o'n i'n gallu siarad eitha' tipyn o Hebraeg ond mae 'di rhydu erbyn hyn.

"Er gwaethaf hynny dyna'r prosiect nesaf yw cyfieithu nofel o Hebraeg diweddar i'r Gymraeg."

Enw'r llyfr Hebraeg yw Hanes Khirbet Khizeh gan S. Yizhar a gyhoeddwyd ym 1949.

Llun o'r nofel HebraegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nofel Hebraeg yn "adrodd hanes gwagio pentref Palesteinaidd Arabaidd ffuglennol o'i drigolion a'u gyrru i ffwrdd gan fintai o filwyr Iddewig"

Dywedodd mai'r nod bob amser yw creu nofelau sydd ddim yn teimlo fel cyfieithiadau.

Felly gall fod yn ddefnyddiol os nad ydyn nhw'n bodoli'n Saesneg yn barod oherwydd "o'n i ddim yn cael fy nhemtio i droi at y Saesneg os o'n i ddim yn deall rhywbeth - roedd e'n ddisgyblaeth dda i mi." meddai.

Mynegodd ei fod yn "teimlo ychydig bach yn rhyfygus 'mod i 'di mentro cyfieithu o'r Ddaneg" gan nad yw'n siarad yr iaith yn rhugl ond roedd yn annog dysgwyr unrhyw iaith i fynd ati ac ysgrifennu.

"Yr her fwyaf rili ydy ynganu'r iaith a deall pobl yn siarad felly roedd ysgrifennu ychydig yn haws.

"Nes i wir mwynhau'r broses".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.