Carcharu dyn am achosi marwolaeth ei ffrind mewn gwrthdrawiad

Clywodd y llys fod Pearce wedi ffoi o safle'r gwrthdrawiad gan adael ei ffrind yn y car
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed wedi cael ei garcharu am dros bedair blynedd am achosi marwolaeth ei ffrind mewn gwrthdrawiad.
Fe wnaeth Joshua Pearce, 29 o Gwmbrân, gyfaddef ei fod wedi achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal tra'i fod o dan ddylanwad cyffuriau mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd ar Cocker Avenue yng Nghwmbrân am tua 22:50 nos Sul, 23 Ebrill 2023.
Cafodd ffrind Pearce oedd yn eistedd yn sêt flaen y car, Sam Bevan, 26 oed o Bont-y-pŵl, ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ond bu farw o'i anafiadau yn ddiweddarach.
Dywedodd y sarsiant Shane Draper o Heddlu Gwent fod gweithredoedd Pearce yn "dangos peryglon gwirioneddol gyrru anghyfrifol".
"Wedi'r gwrthdrawiad fe wnaeth Pearce ffoi o'r safle, gan adael ei ffrind yn y car gydag anafiadau difrifol," meddai.
"Doedd y diffynnydd ddim mewn cyflwr addas i ddreifio o ganlyniad i gymryd canabis."
Cafodd Pearce ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis o dan glo ac mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am dros naw mlynedd.