'Cafodd fy nhad loches rhag y Natsïaid yng Nghaernarfon'

Robert Borger yn fachgen bach gyda rieni Erna a Leo yn hapus eu byd yn nechrau'r 1930au
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach eleni bu Julian Borger yng Nghaernarfon i siarad am ei lyfr I Seek a Kind Person sy'n dweud hanes ei dad, Robert, a phlant eraill o Awstria a wnaeth ddianc rhag yr Holocost drwy hysbysebion papur newydd ym Mhrydain yn gofyn am help.
Cafodd Robert Borger ei achub yn 11 mlwydd oed gan gwpl "rhyfeddol" o Gaernafon meddai ei fab, Julian, sy'n uwch ohebydd rhyngwladol gyda phapur newydd y Guardian. Mae'n rhoi cip ar yr hanes sydd yn ei gyfrol i BBC Cymru Fyw:
Fe chwaraeodd Caernarfon ran hanfodol bwysig yn hanes fy nheulu, lle a roddodd achubiaeth a dechrau newydd, ond dim ond y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi dod i adnabod y dref mewn gwirionedd.
Dim ond unwaith aeth fy nhad â ni yno'n blant, er mai dyna ble roedd wedi tyfu o fachgen yn ddyn ar ôl cyrraedd fel ffoadur 11 mlwydd oed yn dianc o Awstria dan reolaeth y Natsïaid. Doedd o ddim yn un i hel meddyliau am ei orffennol, a beth bynnag, roedd y fam faeth a helpodd i'w fagu yno wedi symud i fyw i Lundain ers tro erbyn i ni gael ein geni.
Roedden ni'n ymweld â Nancy Bingley ambell benwythnos yn yr ysgol i'r deillion lle roedd hi'n brifathrawes. Roedd hi'n garedig ac yn chwilfrydig, yn wraig o argyhoeddiad cadarn, a phob amser yn gwneud yn siŵr bod cacen ar y bwrdd pan fydden ni'n cyrraedd. Ond dim ond rŵan rydw i'n sylweddoli person mor rhyfeddol oedd hi, a pha mor ddyledus ydyn ni iddi.
Hysbyseb yn y papur
Ar 3 Awst 1938, fe welodd hi a'i gŵr Reg hysbyseb bychan ar ail dudalen y Manchester Guardian. Tair llinell dan y pennawd 'Tuition' oedd yr hysbyseb ac roedd yn dweud, yn Saesneg: "Rwy'n chwilio am berson caredig a all addysgu fy machgen deallus, 11 oed, o Fienna, o deulu da."
Y bachgen dan sylw oedd fy nhad, Robert, ac roedd yr hysbyseb wedi ei gosod gan fy nhaid a fy nain, Leo ac Erna. Roedden nhw'n chwilio am hafan i'w plentyn wrth iddi fynd yn anoddach i unrhyw un oedd yn Iddew oroesi yn Fienna gyda phob wythnos oedd yn mynd heibio wedi i Hitler gyfeddiannu Awstria ym mis Mawrth y flwyddyn honno.
Roedd Leo a sawl un arall wedi cael eu gorfodi i fynd ar eu gliniau i lanhau strydoedd y ddinas tra roedd eu cymdogion yn eu gwawdio, poeri arnynt a'u cicio. Ac fel dynion Iddewig eraill, roedd perygl dyddiol iddo gael ei gludo i wersyll crynhoi Dachau. Roedd Robert ei hun wedi cael ei ymlid ar hyd y strydoedd gan Natsïaid treisgar wnaeth ei gloi mewn synagog.
Y cyfnewid
Athrawon yn Ysgol Sirol Caernarfon oedd Reg a Nancy Bingley, a doedden nhw'n gwybod dim o'r manylion hyn pan welon nhw'r hysbyseb, ond fe weithredon nhw'n ddiymdroi. Dyma nhw'n ysgrifennu i Fienna a chynnig cartref i Robert. O fewn dim roeddent wedi cael y papurau o'r Swyddfa Gartref oedd eu heisiau gan y Natsïaid i ganiatáu iddo adael.
Cyrhaeddodd y bachgen yn ôl y trefniant ddau fis yn ddiweddarach ar long a thrên o Harwich, gydag Erna. Roedd fy nain wedi cael fisa i'w hun i weithio fel morwyn, ond doedd hynny ddim yn rhoi hawl iddi fyw gyda'i mab. Yn hytrach, trosglwyddodd Robert i ofal Nancy a oedd wedi teithio i lawr i orsaf Liverpool Street i'w gasglu a mynd ag o adref i Gaernarfon.

Robert yn llanc ifanc (blaen ar y dde), gyda'i fam, Erna, (chwith) a'i rieni maeth Nancy a Reg Bingley (top) ac aelodau eraill yr aelwyd ym Mhenygarth, Caernarfon
Yn eu dyddiau cyntaf gyda'i gilydd y prif beth y sylwodd Nancy arno oedd faint o ofn oedd ar Robert. Yn eu cartref yn Y Glyn yng Nghaernarfon fe dynnodd y rhieni maeth newydd y chwiban oddi ar y tegell gan ei fod yn achosi panig i Robert; roedd yn ei atgoffa o Grysau Brown yr SA ac aelodau mudiad Ieuenctid Hitler fu'n rhedeg ar ei ôl drwy strydoedd Fienna, ac a fyddai'n mynd drwy gymdogaethau'r dref yn chwythu eu chwiban, arestio Iddewon a dwyn o'u cartrefi.
Pan ddywedodd Mr a Mrs Bingley wrth Robert y byddai'n rhaid iddo fynd i gofrestru gyda'r heddlu, llewygodd y bachgen. Yn ei brofiad o, doedd Iddewon oedd yn mynd i orsaf yr heddlu ddim fel arfer yn dychwelyd. Awgrymodd cyd-athro a ffrind i deulu'r Bingley, Powell Davies, i'r bachgen ddod am dro gydag o ar hyd Ffordd Bethel, tuag at yr ysgol. Fe aeth, yn welw a chrynedig, gan gyfaddef wrth Nans a Reg flynyddoedd wedyn ei fod yn siŵr fod Mr Davies yn bwriadu ei ladd.

Ar ôl dod i Gymru yn 11 mlwydd oed yn 1938, chafodd Robert erioed fyw'n barhaol gyda'i rieni wedi hynny
Erbyn iddo gyfarfod fy mam, roedd Robert wedi mygu'r ofnau yma a'u rhoi dan glo. Doeddwn i'n gwybod fawr ddim am lawer o fanylion bywyd fy nheulu dan y Natsïaid tan rai blynyddoedd yn ôl, ar ôl imi ddarganfod hysbyseb fy nhad yn y Manchester Guardian a mynd i dyrchu am ei orffennol.
Soniodd ffrind teuluol wrthyf am gofiant Cymraeg, Un o'r Teulu, a ysgrifennwyd gan gyfaill ysgol i 'nhad, Glennys Roberts. Ynddo, mae'n dwyn i gof beth ddywedodd y bachgen llawn braw wrthi.
"Gwrandawn ar yr Iddew ifanc yn disgrifio erchyllterau'r 'Kristallnacht' yn Vienna – hanes yr ymosodiad ar siop y teulu, y chwalu a'r lladrata," ysgrifennodd.
"Yna aeth y cwbl yn drech nag o a thorrodd allan i grio'n hidl a theimlwn innau mor annigonol yn fy myd bach, cysurus. Ar ôl sychu ei ddagrau aeth ymlaen â'r hanes. Yn boenus iawn, disgrifiodd fel y cuddiodd ef a'i rieni mewn seler dywyll am bum niwrnod hir. Yn ffodus gallodd ei dad wthio rhai gemau gwerthfawr o'r siop i'w esgidiau a thalodd y rheini yn gyfnewid am help i'w wraig a'i fab ffoi yn ddiweddarach."
Caredigrwydd
Yn eu hysbyseb, roedd fy nhaid a fy nain yn chwilio am 'berson caredig' ar gyfer eu mab, ac fe gawson nhw hyd i ddau. Roedd y Bingleys yn dap agored o garedigrwydd oedd byth yn diffodd. Fe wnaethon nhw feithrin plant lleol disglair ond difreintiedig, a mabwysiadu dau ohonyn nhw. Dan eu gofal, ffynnodd Robert yng Nghaernarfon.
Roedd Reg yn ddyn rhyfeddol oedd wedi dysgu ei hun i siarad sawl iaith. Roedd yn dioddef o salwch cronig a oedd wedi achosi i'w asgwrn cefn grymu ac wedi ymddeol o ddysgu yn gynnar oherwydd ei salwch. Ond cymerodd fy nhad dan ei adain a'i diwtora am bron i flwyddyn.

Daeth Robert Borger yn seicolegydd nodedig yn nes ymlaen yn ei fywyd; bu farw yn 1983
Erbyn iddo fynd i'r ysgol, siaradai Robert Saesneg yn rhugl ac roedd ymhell ar y blaen mewn pynciau eraill. Aeth i'r brifysgol yn 16 mlwydd oed, ac ennill ysgoloriaeth i Gaerdydd. Ar ôl anrhefn a dychryn ei blentyndod, roedd teulu'r Bingley wedi rhoi sylfaen gadarn iddo allu creu bywyd newydd.
Fis Gorffennaf 2015, fe ddes i i Gaernarfon i fynd i angladd Nancy Bingley. Roedd wedi marw naw mlynedd ynghynt, yn 101 mlwydd oed, ond roedd wedi cymryd mor hir â hynny i drefnu i'w rhoi i orffwys wrth ochr Reg, a oedd wedi aros amdani am 63 o flynyddoedd yn ei fedd ar ochr bryn uwchlaw'r Fenai.
Ymysg y galarwyr roedd pobl yn eu hwythdegau yr oedd caredigrwydd a doethineb y Bingleys wedi goleuo eu bywydau. Roedd rhai yn cofio fy nhad yn ffoadur ifanc nerfus. Hyd y gwn i, ni wynebodd wrthsemitiaeth yng Nghaernarfon. Roedd y rhan fwyaf o'i ffrindiau ysgol yn cymryd mai Sais oedd o, a fyddai dim ots ganddyn nhw beth bynnag pe bai'n Iddew.
Adeg yr angladd, dim ond dechrau magu momentwm roedd grymoedd poblyddiaeth a senoffobia sydd mor amlwg heddiw, ond roedd Nancy a Reg Bingley yn ein hatgoffa o rymoedd llawer gwell. Cymaint ag unrhyw beilot Spitfire, roedden nhw'n ymgorffori ysbryd Prydain a Chymru ar ei orau, haelioni oedd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024