Fy nhad, yr ysbïwr rhyfel
- Cyhoeddwyd
Mae profiadau torrwr côd o gefn gwlad a gafodd ei recriwtio yn llanc ifanc i rengoedd y gwasanaethau cudd am gael eu cloriannu mewn llyfr.
Roedd gan Elwyn Richards o Sir Benfro allu arbennig i 'sugno ieithoedd' a nawr mae ei ferch yn mynd ati i olygu llyfr am hanes a phrofiadau'r torrwr côd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y profiadau hynny yn cynnwys dehongli côd 'Enigma' yr Almaenwyr wrth i'w byddinoedd agosáu at gipio Cairo, prifddinas yr Aifft.
Wrth olrhain ei hanes ar raglen Aled Hughes Radio Cymru fe wnaeth ei ferch Gwenda Richards hefyd sôn am yr erchyllterau a'r pwysau oedd yn wynebu criw ifanc y gwasanaethau cudd wnaeth chwarae rhan mor allweddol yn y rhyfel.
Ganed Elwyn Richards yn 1922, yn un o ddeg o blant yn Abercych, ger Aberteifi.
Datblygodd ei angerdd at ieithoedd yn ifanc iawn wrth wrando ar y radio a llwyddodd i gael ysgoloriaeth i fynychu ysgol uwchradd Aberteifi.
Yno, astudiodd Ffrangeg, ond yn ei amser hamdden aeth ati hefyd i ddysgu Almaeneg ac Eidaleg yn rhugl o fewn dwy flynedd.
Ar ôl ymuno yn wirfoddol â'r Awyrlu doedd hi ddim yn hir tan i'r gwasanaethau cudd ddod i wybod am ei alluoedd.
Saethu ysbiwyr
"Oedd e yn ieithydd o'i goryn i'w sawdl. Oedd e' fel fase am sugno unrhyw iaith ac yn dysgu a dwlu ar ieithoedd.
"Yn sydyn iawn mae'r awyrlu yn sylweddoli bod 'da nhw rhywun oedd yn wir yn gallu siarad yr ieithoedd, ac oedd â'r sgiliau yma o ddadansoddi ac felly fe gafodd ei orchymyn i fynd i'r School of African and Oriental Studies lawr yn Llundain gan ddysgu sut i wneud morse code yn Japaneg a pethau fel hyn."
Dywedodd iddo sôn am y math o hyfforddiant iddo dderbyn, a beth i wneud pe bai yn cael ei ddal gan y gelyn. Y pryder wedyn oedd y gallai gael ei ystyried yn ysbïwr - a'i saethu.
"Cafodd ei drwytho ym myd cyfrin y lluoedd arfog ac arwyddo’r Official Secrets Act 1939.
"Tase nhw’n cael eu dal- saethu fel ysbiwyr - y stori cover oedd wireless operator.
"Dyna pam am flynyddoedd lawer ar ôl y rhyfel nath e' byth siarad am ei brofiadau."
'Mynd a dod i Bletchley Park'
Roedd ei brofiadau rhyfel hefyd yn cynnwys cyfnodau o weithio yng ngogledd Affrica a'r Eidal.
"Roedd negeseuon yn dod ar y gwifrau i'r ganolfan a'r rhain wedyn yn cael eu pasio i Bletchley Park - i gael eu dadgodio.
"Fy nhad wedyn oedd yn cyfieithu'r pethau yma, ddim cyfieithu Almaeneg cyffredin, ond yr Almaeneg technegol, cyfrin yma.
"'Roedd fy nhad yn mynd a dod o'i ganolfan glustfeinio i Bletchley.
"Am flynyddoedd wedi'r Rhyfel, hyd yn oed pan oeddwn i yn groten fach oedd e'n gwrthod siarad am ei brofiadau yn y rhyfel."
Anfon i'r Aifft
Wrth i fyddinoedd yr Almaen a'r Eidal fygwth cipio'r cyfan o ogledd Affrica cafodd Elwyn ei symud i Cairo.
Ei waith eto oedd dadgodio a dadansoddi.
"O nhw eisiau gwybod beth oedd morale yr Almaen a beth oedd eu tactegau nhw. Roedd y sefyllfa yn argyfyngus oherwydd roedd y cadfridog Rommel o fewn 60 milltir i Cairo."
Roedd targedau'r gwasanaethau cudd yn cynnwys uwch gadfridogion y gelyn.
Dywedodd Gwenda fod ei thad wedi cofnodi rhan o'r hanes yng ngeiriau ei hun:
"Roeddwn yn dadgodio’r hyn a oedd yn ymddangos fel neges arferol arall," ysgrifenodd Elwyn Richards.
"Fodd bynnag, datgelodd y datgod y newyddion syfrdanol bod awyren o swyddogion Eidalaidd ac Almaenig uchel iawn, gan gynnwys dau gadfridog, yn mynd i ffwrdd o Diwnis am Foggia am bedwar o'r gloch y bore.
"Amserwyd y neges am 0200 awr. felly nid oedd amser i ymgynghori â neb ond fy nghydweithiwr a oedd yn cysgu yn yr ystafell nesaf.
"Cytunodd yn gysglyd y dylwn drosglwyddo'r wybodaeth yn 'plain language' i 'Fighter Command ME (middle est).'"
Yn ddiweddarch fe ddaeth y newyddion fod yr awyren Junkers 52 wedi ei saethu lawr dros Fôr y Canoldir, meddai.
"Pan ofynnodd fy ŵyr imi y diwrnod o’r blaen a oeddwn wedi lladd unrhyw Almaenwyr, ni allwn ond ateb, 'Dim ond yn anuniongyrchol, Siôn' - er mawr siom iddo.”
Cofio aberth cenhedlaeth ifanc
Mae atgofion Elwyn hefyd yn dod i gof y poen, yr aberth a'r effaith ar genhedlaeth gyfan, medd ei ferch.
"Beth wnaeth fy nharo i oedd bod e'n dweud fod e' methu gwneud ffrindiau agos, achos yn y bore byddai yn dweud 'ta ta' wrth ffrind, bydd y ffrind yn mynd off mewn awyren neu beth bynnag ac wedyn erbyn y nos oedd e' 'di clywed bod ei ffrind e' wedi marw, felly oedd e' wedi dysgu i beidio gwneud ffrindiau. Oedd bywyd mor fregus yn y cyfnod yna."
"Chi'n meddwl am y cryts ifanc nawr sy'n 20 oed a chi'n meddwl am yr holl gyfrifoldeb, y pwysau, yr erchyllterau, byddai gwneud y gwaith o ddadansoddi a holi ond roedd hyn mewn amgylchiadau mor erchyll, mor dyngedfennol. Oedd e dan bwysau ofnadwy a 23 oed oedd e yn gadael yr RAF."
Yn 1946 cafodd Elwyn ei ryddhau o'r lluoedd arfog ac aeth yn ôl i hyfforddi fel athro. Daeth yn brifathro yn Ysgol Gymraeg Sant Ffransis yn y Barri, ac yn ddiweddarach Ysgol Gymraeg Sant Baruc. Bu farw yn 77 oed yn y flwyddyn 2000.
Mae'r gwaith o olygu nodiadau a chofiant ei thad mwy na heb wedi ei orffen.
Yn Saesneg oedd nodiadau ei thad, meddai Gwenda wrth Cymru Fyw "a dyna sut daethon ni ar draws y cofiant - 'My Secret War' oedd y teitl.
"Ar un adeg argraffu ei hun yn Saesneg oedd y bwriad cynnar er mwyn rhoi copïau i’r wyron, ond oherwydd ma' lot o bobl wedi dangos diddordeb ma' awydd ysgrifennu fe yn y ddwy iaith."
Nawr mae Gwenda a'i chwaer Carys yn bwriadau ysgrifennu’r llyfr yn Gymraeg ac mae un gwasg eisoes wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â chyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Medi
- Cyhoeddwyd6 Mehefin