Dick Krzywicki: Mab i garcharor Auschwitz a chwaraeodd dros Gymru

dickFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 27 Ionawr yn nodi 80 mlynedd ers i'r Cynghreiriaid ddarganfod erchylltra Auschwitz a rhyddhau miloedd o garcharorion.

Aeth Byddin Goch Rwsia i fewn i Auschwitz, y gwersyll crynhoi rhwng dinasoedd Katowice a Kraków yng Ngwlad Pwyl, ar 27 Ionawr, 1945.

Dywed bod 1.1miliwn o bobl wedi marw yno - y mwyafrif ohonynt yn Iddewon, ond hefyd sipsiwn, hoywon, a lleiafrifoedd eraill. Mae'r cyfanswm a gafodd eu lladd yn yr Holocost o 1941 i 1945 yn oddeutu chwe miliwn.

Un o'r bobl a oroesodd yr hunllef o Auschwitz oedd Franciszek Krzywicki - gŵr ifanc o Wlad Pwyl.

Roedd Franciszek a'i wraig, Anna, yn byw yn Yr Eidal ar ôl yr Ail Ryfel Byd, wedi i'r Cynghreiriaid eu rhyddhau o ormes y Natsïaid.

Helpodd y Groes Goch y ddau i symud i Brydain yn 1946, a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Chwefror 1947, ganed eu mab Ryszard (Dick) Lech Krzywicki yn Llannerch Banna, ger Wrecsam.

Cafodd Dick yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol, gan chwarae y rhan fwyaf o'i yrfa gyda West Bromwich Albian ac Huddersfield Town. Chwaraeodd hefyd dros dîm cenedlaethol Cymru rhwng 1969 a 1971.

penley
Disgrifiad o’r llun,

Yr ysbyty Pwylaidd ger Wrecsam ble ganwyd Dick yn 1947

Esboniodd Dick Krzywicki sut yr oedd yn gymwys i chwarae dros Gymru: "Y rheswm cefais fy ngeni yng Nghymru oedd achos fod 'na ysbyty Pwylaidd yn Llannerch Banna ar y pryd, ac roedd llawer o'r merched Pwylaidd a oedd yn feichiog yn cael eu hanfon yno.

"Roedden ni'n byw mewn lle o'r enw Blackshaw Moor Camp rhwng Leek a Buxton - roedd yn wersyll lle'r oedd Pwyliaid yn byw wedi'r rhyfel."

auschwitzFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwersyll crynhoi Auschwitz yng Ngwlad Pwyl, ble 'roedd Franciszek Krzywicki (tad Dick) yn garcharwr

Doedd Franciszek (tad Dick) ddim yn Iddew, er bod y mwyafrif o'r bobl gafodd eu carcharu yn ystod yr Holocost wrth gwrs yn Iddewon.

Roedd Franciszek yn filwr ym Myddin Gwlad Pwyl, ac wedi i'r Natsïaid ymosod ar y wlad cafodd ei arestio a'i anfon i wersyll crynhoi.

"Yn ôl beth dwi'n ddeall roedd ganddo wn yn ei feddiant," meddai Dick.

"Roedd yn adeiladwr ac fe roddodd y gwn 'ma mewn wal a'i guddio, a dyna'r rheswm iddo gael ei arestio. Cafodd ei anfon i Wersyll Crynhoi Mauthausen (yn Awstria) gyntaf, ond cafodd ei yrru i Auschwitz yn ddiweddarach.

"Cafodd fy mam ei phigo o ochr y ffordd gan yr Almaenwyr pan odd hi'n 16 oed, a'i chludo i Awstria i weithio ar fferm oherwydd bod ei rhieni'n byw ar fferm yng Ngwlad Pwyl.

"Cafodd ei thynnu oddi ar y stryd a dywedon nhw 'dos i nol dy fag, ti'n dod efo ni'."

dickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dick cyn gêm i West Bromwich Albion yn 1968

'Syrpreis ffantastig' o gynrychioli Cymru

Pan oedd Dick yn blentyn roedd yr ochr Bwylaidd o'i deulu'n rhan bwysig o'i hunaniaeth, gyda'r iaith yn ganolog i'r cyfan.

"Pan o'n i'n iau o'n i'n arfer siarad Pwyleg yn rhugl oherwydd o'n i'n arfer mynd i'r eglwys, ble 'roedd 'na wersi Pwyleg yn dilyn.

"Gadewais y cartref teuluol yn 15 i fynd i West Brom, ac roedd bod i ffwrdd oddi wrth fy rhieni'n anodd.

"'Nes i briodi, ac wedyn 'nes i golli'r iaith (Pwyleg) i bob pwrpas gan nad oeddwn yn ei siarad."

Gyda West Brom y gwnaeth Dick ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf fel bachgen 19 oed yn 1966.

"Cefais syrpreis neis pan o'n i'n chwarae i West Brom," meddai Dick.

"Daeth y rheolwr draw ata i a dweud bod rheolwr Cymru, Dave Bowen, eisiau siarad â fi.

"Dywedodd Dave Bowen ei fod isio i mi chwarae i'r tîm dan-23. Odd o'n sioc llwyr ond yn syrpreis ffantastig, felly wrth gwrs dywedais mod i ar gael."

dickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeoedd Dick dros West Brom o 1964 i 1969, cyn symud i Huddersfield Town

Ond roedd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl hefyd yn ymwybodol o ddoniau Dick.

"Pan oeddwn gyda West Brom fe aethon ni i America i chwarae mewn cystadleuaeth pre-season yn erbyn tri neu bedwar tîm.

"Roedden ni'n y maes awyr yn barod i ddod yn ôl ac roedd tîm cenedlaethol Gwlad Pwyl yno.

"'Nathon nhw ddarganfod mod i yno gyda West Brom a daeth pump neu chwech ohonyn nhw draw a fy holi i, am fy nghyflog, sut brofiad oedd hi yng nghynghrair Lloegr, ac os o'n eisiau chwarae dros Gwlad Pwyl.

"Rwy'n credu 'nath Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl holi yn swyddogol yn fuan wedi hynny."

Ond roedd Dick yn benderfynol o chwarae i Gymru, ac fe enillodd ei gap cyntaf dros y tîm cyntaf ar 29 Hydref, 1969, pan gollodd Cymru 1-3 i Ddwyrain yr Almaen yng Nghaerdydd.

"Rwy'n cofio rhannau o'r gêm, ond gan mai hwn oedd y cap cyntaf o'n i jest eisiau ei gael o drosodd achos o'n i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl.

"Ond roedd yn brofiad ffantastig."

Sgorio yn erbyn Lloegr

Y flwyddyn ganlynol croesawodd Cymru bencampwyr y byd Lloegr i Barc Ninian a daeth y gêm i ben mewn gêm gyfartal 1-1 gyda Dick yn sgorio gôl Cymru.

"Dyna oedd uchafbwynt fy ngyrfa. Ymhob man dwi'n mynd, yn enwedig pan dwi ar wyliau yng Nghymru, mae 'na bobl yn eu 60au a 70au yn cofio fi am sgorio yn erbyn Lloegr," meddai.

"Gyda nhw'n bencampwyr y byd a Gordon Banks yn y gôl hefyd, roedd yn arbennig iawn."

dickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Uchafbwynt gyrfa' Dick - sgorio heibio Gordon Banks ar Barc Ninian

Ar 26 Mai 1971, chwaraeodd Dick dros Gymru wrth ochr chwaraewr arall o dras Bwylaidd.

Roedd Ray Mielczarek, sy'n enedigol o Gaernarfon, yn y tîm gyda Dick a gurodd Y Ffindir yn Helsinki, diolch i gôl gan John Toshack.

Chwaraeodd Dick a Ray gyda'i gilydd hefyd yn Huddersfield Town ar ddechrau'r 1970au.

Y cyfenw cofiadwy

Yn siarad am ei gyfenw Pwylaidd, dywed Dick: "Mae'r enw fel gimig i mi, achos does dim llawer o Krzywickis yn chwarae i Gymru!

"Lle bynnag dwi'n cwrdd â chefnogwyr pêl-droed mae yna rai sy'n cofio'r enw.

"Roeddwn i'n aros mewn gwesty unwaith ac fe ddywedodd rhywun 'ah dwi'n cofio rhywun gyda'r enw yna yn chwarae pêl-droed dros Gymru'... felly mae'n braf cael fy nghofio o hyd."

Mae Dick bellach yn byw ar gyrion Huddersfield gyda'i wraig Hazel, a briododd yn 1969.

Chwaraeodd yng nghanol cae i Huddersfield Town rhwng 1970 a 1974, cyn gorffen ei yrfa gyda dau dymor yn Lincoln City.

"Roeddwn i bob amser yn dweud ar ôl i mi orffen chwarae y byddwn yn symud yn ôl i Huddersfield gan fy mod wedi gwneud llawer o ffrindiau da yma, ac rwyf wedi bod yma ers 50 mlynedd."

dickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae dros Huddersfield Town yn erbyn Blackpool

Roedd plant Dick hefyd yn rhagori mewn chwaraeon, gyda'i ferch Tara yn ennill chwe chap pêl-droed dros Gymru, tra hefyd yn athletwr yn cynrychioli Prydain yn y 5,000m ac yn reidio ceffylau steeplechase.

Mae mab Dick, Nick, yn golffiwr proffesiynol yn ardal Halifax.

"Rydym yn deulu eitha' sporty.

"Mae'r wraig yn dweud ei bod hi hefyd, ond rwy'n dweud wrthi bo' line-dancing ddim yn cyfri'!" meddai Dick gan chwerthin.

dick a'i blantFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dick gyda'i ferch Tara, pan enillodd ei chap cyntaf dros Gymru, a'i fab Nick sy'n golffiwr proffesiynol

'Bachgen lwcus iawn'

Wrth edrych nol ar hanes ei deulu, ei fywyd a'i yrfa, dywed Dick, sy'n 77 oed, ei fod yn hynod ddiolchgar o'r cyfleoedd ddaeth i'w ffordd.

"Mae hi wedi bod yn freuddwyd," meddai Dick.

"'Nes i 'rioed feddwl y byddwn i'n chwaraewr proffesiynol, er fy mod ben ac ysgwyddau uwchben eraill tra'n chwarae pêl-droed yn yr ysgol.

"Bu bron i mi gofrestru i fod yn fecanic ar ôl gadael ysgol, ond yn sydyn iawn ges i gynnig gan sgowt lleol i fynd i West Brom.

"Weithiau dwi'n cicio fy hun ac yn meddwl pa mor lwcus dwi wedi bod. Mae 'di bod yn stori o lwyddiant ac rwy'n edrych yn ôl a meddwl mod i wedi bod yn fachgen lwcus iawn."

DickFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Llun diweddar o Dick yn mynd i weld Huddersfield Town