Dyn wedi ei gyhuddo wedi honiadau o fygwth â bwyell ym Môn

RAFFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gyhuddo wedi honiadau ei fod wedi gwneud bygythiadau â bwyell a chyllell y tu allan i brif gatiau RAF Fali, Ynys Môn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y bygythiadau honedig wedi digwydd toc wedi 12:30 ddydd Mawrth.

Fe wnaeth David Mottershead, 44 o Fodffordd, Llangefni, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o yrru neges ei fod yn bygwth marwolaeth neu niwed difrifol.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ddau achos o fod â min cyllell neu wrthrych miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd Mottershead ei gadw yn y ddalfa ac y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 28 Ebrill.