Diffoddwyr yn delio gyda thân mawr mewn hen ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn delio gyda thân mawr ar safle hen ysgol yn Abertawe.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod sawl criw wedi eu hanfon i'r digwyddiad yn hen Ysgol Gorseinon.
Mae lluniau'r adeilad o'r awyr yn dangos fod o leiaf un ystafell fawr wedi'i dinistrio'n llwyr gan y fflamau.
Mae trigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan fwg wedi cael eu cynghori i aros y tu fewn a chau eu ffenestri a drysau.