'Anodd meddwl weithiau sut gall mudiadau oroesi'

Catrin Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin Bradley fod y dyfodol weithiau'n "fregus" i fudiadau fel Fferm Ofal Clynfyw

  • Cyhoeddwyd

Mae’n anodd meddwl weithiau sut gall mudiadau oroesi, yn ôl aelod o fwrdd Fferm Ofal yn Sir Benfro.

Yn ôl Catrin Bradley o fferm Clynfyw, Abercych, mae’r dyfodol weithiau’n edrych yn "fregus".

Gyda 10 o bobl yn byw mewn llety â chymorth ar y fferm a gweithgareddau dyddiol ar gael i’r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas, eu gobaith yw annog y gymuned i ddod yn gydberchnogion gan sicrhau ei dyfodol.

"Amser fi’n mynd gartre o fan hyn, ma’ gwên ar fy ngwyneb i," meddai Kevin Davies, sy’n weithiwr cymdeithasol ar y fferm.

"'Dw i ddim yma dim ond am yr arian, achos dydy social care ddim yn talu lot.

"Ond yn helpu pobl ifanc, dwi’n teimlo’n dda ar ddiwedd y dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Kevin Davies, yma gyda Tommy, sy'n mynychu'r fferm sawl gwaith yr wythnos

O dyfu llysiau i goginio bwyd, o wneud compost i greu crefftau i’r siop, mae yna lawer o sgiliau y mae modd eu dysgu yma.

Mae Gillian Howells yn treulio amser ar y fferm ddwywaith yr wythnos.

"Dwi’n absolutely hoffi fe,” meddai.

"Ma’ ffrindiau gyda fi a ma’ gwd staff ‘ma. Mae’n very, very hwylus yma a dwi’n cael digon o sbort."

Mae eraill yn cael blas ar gynhyrchu sudd afal, a’i werthu i gwsmeriaid lleol.

Dywedodd Leon, sydd hefyd yn mynychu’r fferm ddwywaith yr wythnos, ei fod yn hoffi "gweithio fel tîm".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gillian Howells ei bod yn "cael digon o sbort" yn Fferm Ofal Clynfyw

Mae Hywel ymhlith y 10 o bobl sy’n byw ar fferm Clynfyw, a hynny mewn llety â chymorth.

Wedi byw ar y fferm ers 10 mlynedd, mae’n dweud ei fod yn le da i fyw.

"Dwi’n gwneud lot o waith yma," meddai.

"Dwi’n torri’r porfa iddyn nhw, mas â’r rubbish, ma’ charcoal gyda fi man ‘co i gael helpu gyda hwnnw - mae’n gwd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leon (chwith) yn mynychu'r fferm ddwywaith yr wythnos, tra bod Hywel yn byw yno'n barhaol

Mae’r fferm Clynfyw wedi bod yng ngofal y teulu Lewis-Bowen ers yr 1750au, ac yn fferm gymunedol ers dros 30 mlynedd.

Mae’r perchnogion bellach yn barod i werthu ond maen nhw’n awyddus i drigolion yr ardal gael y cynnig cyntaf, er mwyn ceisio cadw’r fferm mewn dwylo lleol.

Er mwyn cyflawni eu gweledigaeth, mae angen i’r fferm godi £550,000, a hynny drwy gynllun cyfranddaliadau cymunedol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Fferm Clynfyw yn ceisio codi £550,000 drwy gynllun cyfranddaliadau cymunedol

"Ni wedi codi tua £60,000," meddai Catrin Bradley, aelod o fwrdd Cymdeithas Budd Cymunedol Clynfyw.

"Mae’r dyfodol weithiau yn edrych yn fregus ac mae’n anodd meddwl weithiau sut mae gweithgareddau a mudiadau fel fferm Gofal Clynfyw yn gallu goroesi rili.

"Ar hyn o bryd, ni jyst yn ffocysu ar roi’r cyfle ‘ma mas i’r gymuned; cymuned leol a dros y byd gobeithio - unrhyw un sy’n meddwl bod y gwaith mae’r fferm ofal yn 'neud yn bwysig i’r bobl sy’n byw yma, y bobl sy’n dod 'ma i’r gweithgareddau a’r gymuned ehangach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rosie Gillam fod y fferm yn "le saff i bobl trial busnes"

Wrth weithio gyda sefydliad lleol, sydd eisoes wedi prynu chwe erw o dir y fferm, bydd yna gyfle hefyd i bobl fod yn rhan o gynllun "dechrau ffermio".

Dywedodd Rosie Gillam, cyfarwyddwr Sefydliad Ffynnone: "Mae e’n anodd iawn i bobl leol gael eu dwylo ar bishyn o dir a wedyn mae’r costau i ddechrau lan, fel ffensio a phrynu’r anifeiliaid a’r machines a phethau.

"Mae hwn yn le saff i bobl trial busnes a hefyd dysgu, nid yn unig am dyfu neu edrych ar ôl anifeiliaid, ond gwneud yr ochr arall sef beth yw’r busnes a chael eu product mewn i siopau lleol."

Y nod felly yw diogelu adnodd cymunedol, gyda’r cynnig cyfranddaliadau yn cael ei ymestyn ymhellach o'r hydref hyd at ganol Ionawr.

Pynciau cysylltiedig