Bachgen 18 mis wedi boddi mewn llyn ger Pencader - cwest
![Plasdy Maesycrugiau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/a800/live/38416440-fbeb-11ee-97f7-e98b193ef1b8.png)
Roedd Finley wedi diflannu o olwg ei fam ym mhlasty Maesycrugiau ger Pencader yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Bu farw babi 18 mis oed drwy foddi mewn llyn ar dir ystâd ei deulu yn Sir Gaerfyrddin, clywodd cwest.
Cafodd Finley Howell Sanders, o Glydach, Abertawe, ei dynnu o'r dŵr 45 munud ar ôl i'w fam alw'r heddlu i ddweud ei fod ar goll ar 26 Mai 2021.
Roedd y bachgen wedi diflannu o olwg ei fam tra’n aros ym mhlasty Maesycrugiau ger Pencader.
Yn ddiweddarach fe wnaeth CCTV ddangos bod Finley wedi cerdded trwy gatiau'r ardd oedd ar agor ar ôl y cŵn, ac wedi cerdded tuag at ardal y pwll.
'Damwain drasig'
Mae'r tŷ Tuduraidd-Gothig mawr a adeiladwyd ar adfeilion castell Elisabethaidd yn 1903 yn adeilad rhestredig gyda saith erw o dir, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel gwesty gwely a brecwast moethus.
Clywodd y cwest yn Llanelli bod Finley wedi bod yn aros yng nghartref teulu ei fam a'i bod yn "gyffredin" iddo dreulio amser yn chwarae yn ystafell ei hen nain, Mary.
Ar y diwrnod roedd ei fam, Alexandria Lewis, wedi bod yn helpu ei frawd hynaf, Harry, gyda'i waith cartref ac aeth i orwedd i lawr gan feddwl bod Finley yn chwarae yn ystafell Mary.
Ond clywodd y cwest fod Mary yn meddwl ei fod gyda'i fam.
Pan ddeffrodd Alexandria, aeth i ystafell Mary a darganfod nad oedd yno a dechreuodd y teulu chwilio amdano ym mhobman cyn iddo gael ei ddarganfod mewn llyn.
![Neuadd y Dref, Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1985/live/b785ae80-fbe8-11ee-bbcb-57c9a3db37cb.png)
Clywodd y cwest yn neuadd y dref, Llanelli, bod marwolaeth Finley yn "sydyn ac annisgwyl" ac yn "ddamwain drasig"
Dywedodd Hayley Rogers, swyddog y crwner, bod yr heddlu wedi derbyn galwad gan fenyw ofidus am 22:00 yn dweud nad oedd hi’n gallu dod i hyd i’w mab 18 mis oed.
Ar ôl chwilio o gwmpas yr adeilad a’r tir, am 22:45, daethpwyd o hyd iddo yn ddiymateb yn y llyn.
Ychwanegodd Ms Rogers "er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys" cafodd Finley ei gyhoeddi’n farw ychydig yn ddiweddarach "yn oriau mân y bore canlynol".
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn "farwolaeth sydyn ac annisgwyl" a bod dim i awgrymu fod unrhyw un arall wedi chwarae rhan yn y farwolaeth.
Dywedodd yr uwch grwner dros dro, Paul Bennett, "nad oes unrhyw beth yn fwy trasig na marwolaeth plentyn ifanc" a bod hon yn "ddamwain drasig" oherwydd "cyfres o ddigwyddiadau nad oedd unrhyw un yn bwriadu iddynt ddigwydd".
Cofnododd bod y farwolaeth yn ddamweiniol.