Swydd ysgrifennydd addysg yn anodd 'gan bo' fi'n newydd'
- Cyhoeddwyd
Ar ymweliad diweddar ag ysgol gynradd yng Nghaerdydd, fe wynebodd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg gwestiwn syml gan un o’r disgyblion.
“Pa mor anodd yw eich swydd chi?” holodd y plentyn.
Roedd ymateb Lynne Neagle yn ddadlennol.
“'Na’i fod yn onest gyda chi,” meddai, “mae’n eithaf anodd achos bo' fi’n newydd."
Dydy Lynne Neagle ddim yn wyneb newydd i wleidyddiaeth Cymru – mae’n un o’r pedwar aelod o Senedd Cymru sydd wedi bod ym Mae Caerdydd ers dechrau datganoli 25 mlynedd yn ôl.
Ond dyma’i swydd gabinet gyntaf ac mae hi’n cymryd yr awenau ar addysg ar adeg heriol.
Bydd hi’n amlinellu ei gweledigaeth yn y Senedd ddydd Mawrth.
Absenoldebau ac ymddygiad
Un o’r prif heriau fydd yn ei hwynebu ydy mynd i’r afael â chynnydd mewn absenoldebau o’r ysgol ac ymddygiad gwael.
Rhwng 2018-19 a 2022-23, roedd cynnydd aruthrol yng nghanran y disgyblion ysgol uwchradd a fethodd 10% o sesiynau ysgol, gyda’r ffigwr yn dyblu i dros 40%.
Mae enghreifftiau o drais neu gamdriniaeth gorfforol tuag at staff wedi dod yn fwyfwy cyffredin hefyd ers y pandemig, yn ôl undebau.
Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT Cymru, bod sylwadau ymosodol tuag at staff yr ystafell ddosbarth mewn rhai ysgolion yn digwydd “yn ddyddiol, ac wedi dod yn rhan o’r diwylliant bron a bod”.
Mae’r undeb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal uwchgynhadledd i drafod y pwnc.
Dywedodd Ms Neagle wrth y Senedd ddydd Mercher bod Llywodraeth Cymru’n gweithio ar adnoddau i wella’r sefyllfa.
Codi safonau
Her arall amlwg fydd codi safonau ar ôl i Gymru gofnodi ei chanlyniadau gwaethaf erioed ym mhrofion Pisa.
Yn ôl y canlyniadau cyntaf ers Covid, gafodd eu cyhoeddi'r llynedd, fe gwympodd Cymru’n bellach y tu ôl i wledydd eraill y DU.
Dywedodd Dr Luke Sibieta o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid: “Heb os, mae gweinidogion addysg Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf wedi canolbwyntio ar wella canlyniadau.
“Y broblem yw dydyn ni ddim wedi gweld gwelliant, ac ry’n ni wedi gweld mwy o anghydraddoldebau hefyd.
“Felly dwi’n meddwl bod angen oedi ac ymgynghori gyda athrawon i benderfynu beth yw’r ffordd gorau i symud ymlaen – i wella safonau yn hytrach na chymryd yn ganiataol taw’r polisi nesaf fydd y peth mawr nesaf.”
Diwygiadau
Un polisi gafodd ei ddatblygu gan ragflaenydd Ms Neagle, Jeremy Miles, oedd diwygio’r flwyddyn ysgol drwy dorri’r gwyliau’r haf.
Bydd Ms Neagle yn penderfyn ai bwrw mlaen neu beidio gyda’r cynlluniau dadleuol.
Dywedodd Dr Sibieta bod y syniad yn “annhebygol o gael llawer o effaith ar anghydraddoldebau a pherfformiad” a galwodd ar i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gefnogi ysgolion sy’n ei chael hi'n anodd addasu i’r cwricwlwm newydd.
Dywedodd Ms Neagle wrth Wales Online nad oedd diwygio’r flwyddyn ysgol yn “fait accompli” ac ei bod hi’n gwrando ar yr ymatebion i ymgynghoriad y llywodraeth.
Cyllidebau
Mae llawer o fewn y sector addysg yn rhybuddio bod ysgolion yn ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Heledd Fychan, bod y sefyllfa’n argyfyngus a bod ysgolion yn colli staff ar adeg pan fod angen recriwtio mwy.
“Dwi isio gweld yr ysgrifennydd cabinet yn blaenoriaethu sicrhau bod addysgu yn broffesiwn deniadol sy’n cadw pobl o fewn y proffesiwn, a bod ni hefyd yn ariannu ein hysgolion yn ddigonol fel bod nhw’n gallu diwallu yr holl bethau o ran y diwygiadau rydan ni wedi eu gweld gan y llywodraeth yma,” meddai.
Dywedodd Ms Neagle wrth y Senedd ei bod hi’n cydnabod bod y sefyllfa’n “heriol iawn” ond bod y llywodraeth wedi “blaenoriaethu” arian i ysgolion.
Addysg Uwch
Mae addysg uwch yn her arall gyda nifer o brifysgolion Cymru wedi mynegi pryder am ei sefyllfa ariannol.
Daeth rhybudd, er enghraifft, bod 200 o swyddi yn y fantol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Byddwn i'n dweud taw dyma'r sefyllfa mwya' heriol dwi wedi ei weld mewn addysg uwch yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig," meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a chadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Paul Boyle.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y “pwysau ariannol ar sefydliadau addysg uwch”.
Mwy ar y stori hon ar Politics Wales am 10:00 ac yna ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd16 Ebrill