Pum munud gyda... Tess Price

  • Cyhoeddwyd

Mae Teresa Price, neu Tess i’w ffrindiau, yn frodor o Ddyffryn Aeron. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi camu i fyd comedi wrth deithio ar draws y wlad yn diddanu cynulleidfaoedd fel stand-yp.

Aeth Cymru Fyw draw i Ystrad Aeron i gael sgwrs gyda’r digrifwr ffraeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae llwyfan stand-yp yn gallu bod yn lle digyfaddawd ac unig iawn, beth wnaeth dy ysgogi di i ddechrau yn y maes yma?

Pan ro’n i’n tyfu lan ro’n i’n aelod o glwb drama Theatr Felinfach. Mae’r lle wedi bod yn gartref i berfformwyr ers blynyddoedd. Dwi hefyd wedi bod aelod o’r cwmni panto yno. Mae’r lle wedi’n helpu i rhoi’r hyder i mi berfformio o flaen cynulleidfa.

Dechreuais i 'neud ambell i araith mewn priodasau teuluol a ffrindiau. Ro’n i eisiau 'neud areithiau digri ac fe ges i got o chwys tra’n paratoi ond aethon nhw lawr yn dda.

Roedd neud stand-yp wedi bod ar fy meddwl i ers peth amser ac ro’n i eisiau rhoi cynnig arni felly es i amdani.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ar y llwyfan gyda Theatr Felinfach

Pa fath o ddeunydd sydd gen ti?

Dwi’n sôn am fy mhrofiadau personol, y newidiadau sy’n digwydd i fi wrth heneiddio.

Sai’n credu bydden i wedi gallu dweud y pethau dwi’n eu dweud ar lwyfan pan ro’n i’n ifancach. Dwi’n berson agored iawn ac mae’n bwysig cael bod yr un mor agored am argyfwng canol oed, y menopôs a llwyth o bethau eraill sy’n effeithio menywod.

Daeth un gwraig lan ata’i gyda’i gŵr ar ôl gig a dweud, ‘Mae’n beth da i’r dynion cael clywed beth mae menywod yn gorfod mynd trwyddo.’

Dwi hefyd yn siarad tipyn am fy ngŵr, Vince, er i mi addo ar y dechrau na fydden i!

Dwi’n lico’i bortreadu e fel Victor Meldrew yn enwedig pan mae’n cwyno am yr un pethau fel meysydd parcio’r archfarchnad sydd byth yn ddigon mawr neu pan mae’n edrych ar ei arddwrn er mwyn dangos bod hi’n amser mynd adref ('dyw e byth wedi gwisgo watsh).

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ar lwyfan Clwb Rygbi Crymych

Pwy sydd wedi dy ysbrydoli di?

Dwi’n ffan mawr o Sarah Millican. Dwi’n dwli gwrando arni hi.

Roedd Tadcu, Euron Tangraig, yn dipyn o berfformiwr. Roedd e’n rhan o gwmni drama Tyngwndwn. Roedd y cwmni'n arfer gwneud sioeau yn y Neuadd Goffa bob Gŵyl San Steffan ac roedd y lle’n orlawn gyda nifer yn gwylio trwy’r ffenestri tu allan.

Roedd Gret Jenkins, ffrind Mamgu, hefyd yn ddylanwad achos reodd hi’n actores arbennig ac yn hollol dd-wên tra’n chwarae rhannau digri.

Buodd Mam, Myfanwy (neu ‘Fanw’ fel mae’n cael ei hadnabod), a minnau’n rhedeg siop trin gwallt yn Felinfach am flynyddoedd. Mae Mam yn haden ac roedd y ddwy ohono’ ni’n tynnu coesau’r cwsmeriaid oedd yn dod atom ni.

Ro’n ni hefyd yn cael sawl cic nôl yn ogystal. Fe helpon nhw ni pan gollon ni Helen Nia, fy chwaer leiaf, rhai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn. Mae chwerthin yn gallu bod yn donic yn ystod cyfnodau anodd.

Ffynhonnell y llun, llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Euron Tangraig, neu Tadcu

Sut wyt ti’n teimlo cyn ac ar ôl gorffen dy set?

Ar y dechrau ro’n i’n teimlo’n weddol gyfforddus wrth sgwennu’r deunydd.

Mi fuodd Carys Eleri ac Iwan John yn help mawr gan roi’r hyder i mi fwrw ati. 'Nes i’r gig cyntaf yn agos i adre ac fe wnaeth hynny helpu.

Dwi’n cofio cymryd rhan mewn sioe yn Llanbedr Pont Steffan er mwyn codi arian ar gyfer y Sioe Frenhinol. Fy ffrind, Eleri Sion, oedd yn cyflwyno’r noswaith ac ro’n i’n nerfus tu hwnt cyn dechrau ond unwaith nes i setlo nes i joio’r profiad.

Yna nes i noson arall yn nhafarn cymunedol Y Vale yn Ystrad Aeron.

Mae’r adrenalin yn gallu bod yn rhywbeth sy’n cydio ynddot ti, mae e fel cyffur. Dwi’n methu cysgu ar ôl 'ny a dwi’n teimlo mod i yn fy seithfed ne' ond y diwrnod wedyn dwi fel clwtyn llestri.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd

Ydi’r teulu’n dod i dy weld di?

Mae Mam, a fy chwiorydd, Carys ac Eirian, yn dod ond 'dyw Vince, Dad a’r meibion ddim.

Mae’r ledîs yn joio a dwi’n gwybod bod Vince a Dad yn browd iawn.

Dyw’r bechgyn ddim eisiau dod achos bydden nhw’n gwbod ‘nelen i godi cywilydd arnyn nhw, mewn ffordd neis, er bod Sion yn 30 a Daniel yn 29!

Beth sydd gen ti ar y gweill yn y dyfodol?

Dwi wedi bod wrthi’n neud nosweithiau ‘Hi, Hi, Hi’ ers rhyw flwyddyn gyda chomedïwyr eraill, y gantores Sara Davies ('naeth ennill Cân i Gymru eleni) a’r actores Elliw Dafydd.

Mae’r noson yn gyfuniad o jôcs, canu a drama-un-dyn ac mae’n para rhwng awr a hanner i ddwy awr.

Dwi hefyd yn gwneud slot ar sioe nos Eleri Sion ar Radio Wales ble ry’n ni’n trafod deilamas y dydd. Mae hynna’n lot o sbort achos mae’r gwrandawyr yn cyfrannu ac mae sawl un yn dipyn o strab.

Mi ddes i’n fam-gu i Nellie mis Tachwedd diwethaf felly rhwng gwaith a nosweithiau stand-yp mae hi wedi bod yn brysur!

Dwi eisiau bwrw ati i sgwennu deunydd newydd ac i gynyddu hyd y deunydd. Maes o law bydden i’n lico rhoi cynnig ar neud ambell i noswaith yn Saesneg hefyd.

Ffynhonnell y llun, llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Noswaith ‘Hi Hi Hi’

Pynciau cysylltiedig