Llanfair PG... dros ganrif o sylw i'r pentref bach gyda'r enw mawr

Dyn gyda sgarff LlanfairpwllFfynhonnell y llun, Sam Todd/Mastercard
  • Cyhoeddwyd

Am bentref bychan, mae wedi cael ei siâr o sylw - ond does 'na ddim syndod efo enw mor hir…

Cardiau post cynnar, sylw gan gynghrair pêl-droed byd-enwog a chael ei enwi mewn cân gan un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus yr UDA - dros y degawdau mae dipyn o sôn wedi bod i Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Ac mae Llanfairpwllgwyngyllgo... Llanfair PG, ar Ynys Môn, yn y penawdau unwaith eto wedi i gwmni Mastercard ofyn i rai o'r trigolion fod yn rhan o'u hymgyrch i godi sylw at dechnoleg newydd fydd yn galluogi pobl i osgoi gorfod teipio enwau llawn wrth dalu am nwyddau.

Dyma'r diweddara' mewn nifer o esiamplau pan mae enw'r pentref wedi denu sylw.

Cerdyn Post o LanfairpwllFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Gina Miles
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post gafodd ei yrru fis Hydref 1916... a'r enw wedi ei gamsillafu

Mae'r esiamplau cyntaf yn dyddio yn ôl i'r 19eg ganrif pan gafodd yr enw hir ei fathu am y tro cyntaf.

A dyna'r union reswm dros greu enw hir i ddisgrifio lleoliad hen bentref Pwllgwyngyll ym mhlwyf Llanfair - er mwyn denu sylw, a denu'r twristiaid.

Ac fe weithiodd - fel mae'r hen luniau du a gwyn a chardiau post yma yn ei brofi.

Peintio arwydd LlanfairpwllFfynhonnell y llun, Mirrorpix/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mr a Mrs Jones yn peintio arwydd ar ben eu siop yn 1940. Mae'n debyg i'r enw hir gael ei roi i'r pentref yn 1869

Ac mae'n parhau yn wir heddiw.

Yn ôl cynghorydd Llanfairpwll Dyfed Wyn Jones, sydd i'w weld mewn fideo o ymgyrch Mastercard, mae'r enw hir yn dod â budd i'r dref.

Meddai: "Mae Llanfair yn bentref prysur drwy'r flwyddyn ac yn aml iawn oherwydd y bobl sy'n dod i weld yr enw hir ac yn aml yr arwydd sydd geno ni ar yr orsaf yma yn Llanfair.

"Ac wrth gwrs mae 'na fusnesau yn y pentref sy'n elwa o hynny. Mae siopa, caffis, llefydd bwyta sy'n elwa o'r bobl sy'n dod i weld yr enw hir a 'da ni'n hynod falch o hynny.

"Dwi'n gwybod weithiau mae'n cael ei defnyddio yn destun sbort ond 'da ni'n eitha' balch ohono fo."

Cynghorydd Llanfairpwll Dyfed Wyn Jones yn cerdded heibio gorsaf drên adnabyddus y pentrefFfynhonnell y llun, Sam Todd/Mastercard
Disgrifiad o’r llun,

Cynghorydd Llanfairpwll Dyfed Wyn Jones yn cerdded heibio gorsaf drên adnabyddus y pentref

Efallai nad ydi'r enw yn hawdd i'w ddweud, ond tydi hynny heb atal cerddorion rhag ei gynnwys mewn geiriau caneuon.

Fe wnaeth Stephen Sondheim, un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus sioeau cerdd yr ugeinfed ganrif, gynnwys enw'r pentref ar ddiwedd ei gân This Boy, o'r sioe The Mad Show.

Yr actores a'r gantores Americanaidd Linda Lavin gyda'i Golden Globe Ffynhonnell y llun, UPI/Bettmann Archive/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores a'r gantores Linda Lavin mewn gwesty yn Beverly Hills yn 1979 ar ôl ennill gwobr Golden Globe am ei rôl yn Alice - lle doedd dim rhaid iddi ynganu Llanfairpwll...

Mae'r gân yn barodi o The Girl from Ipanema… ond gyda'r bachgen yn byw yn Tacarembo la Tumba del Fuego Santa Malipas Zacatecas la Junta del Sol y Cruz.

Mae'r canwr (Linda Levin yn y perfformiad gwreiddiol yn 1966) yn cael trafferth dweud enw'r lleoliad tan i'r 'Boy' symud o Dde America er mwyn agor siop yn…. ia, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Gwrandewch ar Linda Lavin yn canu This Boy ar YouTube, dolen allanol

EP Super Furry Animals a Dafydd Iwan ac EdwardFfynhonnell y llun, Ankst/Sain
Disgrifiad o’r llun,

Clawr EP yr SFA a record Cwm Rhys y Rhosyn 2

Ac mae 'na gyfansoddwyr eraill, sy'n byw yn agosach at y pentref, hefyd wedi ei roi ar gân - Dafydd Iwan ac Edward ar eu record Cwm Rhyd y Rhosyn 2 yn A Wyddoch Chi?

Ac mae 'na gysylltiad cerddorol arall hefyd - mae'n rhan o deitl un o recordiau cynharaf y Super Furry Animals - y record fer gyda'r teitl hir Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochynygofod(inspace)EP.

Arwydd newydd LlanfairPGFfynhonnell y llun, La Liga
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd arwydd croeso newydd ei greu yn y pentref gyda logo newydd LaLiga'n cymryd lle bob llythyren 'll' yn enw'r pentref

Ar y maes chwarae hefyd, fe ddaeth yr enw a sylw o dramor. Ddwy flynedd yn ôl roedd y pentref yn y penawdau wedi i un o gynghreiriau pêl-droed enwocaf y byd gytuno i noddi crysau'r tîm lleol.

Roedd logo La Liga, prif gynghrair Sbaen sy'n cynnwys clybiau Barcelona a Real Madrid, i'w weld ar grysau tîm y pentref sy'n chwarae ym mhumed haen y gamp yng Nghymru.

Liam Dutton yn cyflwyno'r tywydd ar Channel 4Ffynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Liam Dutton yn cyflwyno'r tywydd ar Channel 4

Ydi, mae'r enw hir wedi rhoi Llanfair PG ar y map - ac yn llythrennol yn achos map tywydd Channel 4 rai blynyddoedd yn ôl.

Wrth ddarllen y tywydd fe wnaeth y darlledwr Liam Dutton, o Gaerdydd, roi enw llawn y pentref ac mae'r clip wedi ennyn cryn dipyn o ymateb ar YouTube., dolen allanol

Ond efallai mai'r prawf mwyaf o ba mor adnabyddus yw'r pentref ydi'r cwestiwn mae cymaint o bobl yn ei ofyn i Gymry Cymraeg wrth eu cyfarfod am y tro cyntaf...

Un cysur: fe allwch chi fyw ger bryn yn Seland Newydd o'r enw Taumata­whakatangihanga­koauau­o­tamatea­turi­pukaka­piki­maunga­horo­nuku­pokai­whenua­ki­tana­tahu.

Pynciau cysylltiedig