'Ni ddylai Swyddfa'r Post gael erlyn pobl yn gyfreithiol'
- Cyhoeddwyd
Dylid newid y rheolau i atal Swyddfa'r Post rhag erlyn pobl ar ôl sgandal Horizon, yn ôl y cyn-bostfeistr o Ynys Môn, Noel Thomas.
Yn 2006 fe gafodd Mr Thomas ei garcharu am naw mis am gyfrifo ffug. Roedd £48,000 wedi mynd ar goll o gyfrifon Swyddfa'r Post yng Ngaerwen, ble'r oedd yn is-bostfeistr am 13 blynedd.
Ym mis Ebrill 2021 cafodd yr euogfarn yn ei erbyn ei diddymu'n swyddogol, ac mae bellach wedi derbyn iawndal yn llawn gan Swyddfa'r Post.
"Y Post sydd a'r pŵer. Dydyn nhw ddim yn gorfod mynd at y Crown Prosecution Service. Ma' nhw'n gallu cyhuddo pobl a defnyddio eu pŵer eu hunain i erlyn. Mae pob dim 'in house' os liciwch chi," meddai Mr Thomas.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post bod "yr hawl i ddwyn achos troseddol preifat ar gael i gwmnïau ac unigolion o dan ddeddf gwlad".
Mae Mr Thomas yn dweud y dylid cosbi'r rheiny oedd yn gyfrifol am gyhuddo cannoedd o is-bostfeistri ar gam rhwng 1999 a 2015 o ddwyn arian.
"Y ffordd ymlaen i mi rŵan ydy mynd a phobl i gyfraith a mynd a'u heiddo a'u pres. Ma' carchardai'r wlad yn llawn. Diwedd y gân yw'r geiniog a nhw ddylai dalu 'nol."
Roedd cyn-ohebydd newyddion BBC Cymru, Sion Tecwyn yn un o'r newyddiadurwyr cyntaf i roi sylw i sgandal Horizon, ac mae e hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â'r ymchwiliad gan yr heddlu i'r sgandal.
"Ma' rhaid gofyn cwestiynau am waith yr heddlu yn hyn i gyd, ma' nhw wedi cael blynyddoedd i edrych ar hyn," meddai.
"Mae tystiolaeth o'u blaenau a does dim math o esgus.
"Mae gweld y bobl sydd yn gyfrifol am gael eu herlyn yr un mor bwysig i'r is-bostfeistri a chael iawndal a chael eu cydnabod o fod yn ddieuog. Mae o i gyd yn rhan o'r un broses."
Mae strwythur a phwerau Swyddfa'r Post hefyd yn peri pryder i Noel Thomas.
Mae e nawr yn galw am newid y rheolau yn sgil sgandal technoleg gwybodaeth Horizon a dileu pŵer y Swyddfa bost i erlyn ar ei rhan ei hunain.
"Dyle hynny newid. Mae'r inland revenue wedi colli'r pwerau yma. Pam fod Swyddfa'r Post yn dal hefo'r pwerau yma?"
Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Prydain weithredu ar hyn ar fyrder.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd "ymgynghoriad yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd i sut mae rheoleiddio erlynwyr".
"Mae tegwch a thryloywder yn garreg sylfaen i'r system gyfiawnder ac mae'r cyhoedd yn iawn i ddisgwyl fod pob erlyniad yn cael ei ddwyn er budd y cyhoedd.
"Bydd ymgynghoriad yn cychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf," meddai'r datganiad.
"Mae fyny rŵan i ba bynnag Lywodraeth sydd mewn pŵer i newid hyn" meddai Noel Thomas.
"Nhw ddyle ddelio â hyn. Bydde hynny'n fwy teg."
'Teulu yw'r flaenoriaeth'
Ond wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd mae Noel Thomas yn dweud mai ei deulu yw'r flaenoriaeth.
"Yn 2025 fe hoffwn i gael iechyd a mwynhau hefo'r teulu a gweld eu bod nhw'n iawn. Dyna 'di'r bwriad i fi. A dal i fyw ar Ynys Môn wrth gwrs. Does 'na nunlle gwell.
"Pan gefais i fy ngharcharu, roeddwn i wedi mynd i ffwrdd, a'r teulu oedd yn gorfod wynebu'r gymdeithas.
"A rhaid cyfaddef, dwi 'di neud o fy hun, fedra i roi fy llaw i fyny, 'da chi'n barnu pobl heb wybod y wybodaeth yn iawn. Diolch i'r nefoedd mae'r wybodaeth yna bellach wedi dod."
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post fod "yr hawl i ddwyn achos troseddol preifat ar gael i gwmnïau ac unigolion o dan ddeddf gwlad".
Ychwanegodd y llefarydd mai Llywodraeth y DU sy'n berchen y Swyddfa Bost, felly mater yn y pen draw i'r llywodraeth yw unrhyw newidiadau i'r Bwrdd, a does dim sylw gan Swyddfa'r Post ar hyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024