Derbyn iawndal Swyddfa'r Post 'ddim yn rheswm i ddathlu'

Noel ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas a'i ferch Sian y tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl y dyfarniad i ddiddymu ei euogfarn yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn is-bostfeistr o Ynys Môn yn dweud ei fod bellach wedi derbyn iawndal yn llawn gan Swyddfa'r Post yn sgil sgandal Horizon.

Rhwng 2000 a 2014 fe gafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a'u cyhuddo ar gam o ddwyn arian, fel rhan o'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain".

Dywedodd Noel Thomas o ardal Gaerwen ei fod eisoes wedi derbyn tri thaliad dros dro ers 2022, ond bod Swyddfa'r Post bellach wedi setlo'r mater yn llawn.

Er hynny, dywedodd nad yw'n amser i ddathlu.

"Dwi ddim yn ennill ar ddiwedd y dydd. Dwi ddim yn gweld hyn fel buddugoliaeth," meddai.

"Dwi 'di cael be' dwi 'di weithio amdano fo. Fe ges i fy nhrin yn wael."

Pan gyrhaeddodd y taliad olaf gan Swyddfa'r Post, roedd gan Mr Thomas deimlad ychydig yn chwerw felys.

"Dydy'r setliad ddim yn rhoi tegwch. Gewch chi ddim eich bywyd yn ôl," meddai.

"Mae wedi cymryd yr holl flynyddoedd yma i ddatrys y peth a ffeindio'r gwir."

Yn 2006 fe gafodd Mr Thomas ei garcharu am naw mis am gyfrifo ffug. Roedd £48,000 wedi mynd ar goll o'i gyfrifon.

Fe ollyngodd Swyddfa'r Post y cyhuddiad o ddwyn, ond ar gyngor cyfreithiol fe blediodd Mr Thomas yn euog i gadw cyfrifon ffug gan obeithio osgoi carchar.

Ond fe gafodd ddedfryd o naw mis o garchar a'i wneud yn fethdalwr.

Yn 2021 cafodd yr euogfarn yn ei erbyn ei diddymu'n swyddogol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Noel Thomas yn gobeithio y bydd yr arian yn gymorth i'w deulu yn y dyfodol

Mae bellach wedi derbyn taliad iawndal yn llawn gan Swyddfa'r Post fel rhan o nifer o gynlluniau iawndal sydd yn eu lle yn sgil yr helynt.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Hoffen ni ymddiheuro yn llwyr ddiamod i'r rhai sydd wedi dioddef, a'u teuluoedd.

"Mae Swyddfa'r Post erbyn hyn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i drawsnewid y sefydliad ar gyfer y dyfodol ac i gynorthwyo dioddefwyr i roi diwedd ar y mater, cyn belled â fydd hynny fyth yn bosibl."

Wrth fanylu ar y sefyllfa o ran taliadau iawndal, fe ddywedodd y llefarydd: "Mae yna 111 o geisiadau ar gyfer y Cynllun Dedfrydau wedi eu gwyrdroi, gyda 63 wedi eu setlo yn llawn a 48 o geisiadau wedi derbyn taliadau dros dro."

'Y cwffio yn parhau'

Mae Mr Thomas, 77, yn gobeithio y bydd y setliad yn ei alluogi i "sicrhau fod fy nheulu yn iawn".

Ond mae'n poeni am is-bostfeistri eraill sydd, erbyn hyn, yn ffrindiau iddo yn sgil sgandal Horizon.

"Mae'r cwffio ar ran nifer fawr o bobl eraill - nifer ohonyn nhw yn ffrindiau da i fi bellach - sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal yma, yn parhau."

Ychwanegodd ei fod yn cefnogi un o arweinwyr ymgyrch y postfeistri, Sir Alan Bates o Landudno, sydd wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU os na fydd pawb wedi derbyn iawndal erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

"Mae Syr Alan wedi sôn am hynny a faswn i yn berffaith fodlon ei gefnogi, achos dydi o ddim yn deg," meddai Mr Thomas.

Ymgyrch Syr Alan i sicrhau cyfiawnder i'r is-bostfeistri wnaeth ysbrydoli drama ITV Mr Bates vs The Post Office.

"Fe wnaeth y ddrama gael effaith enfawr ar yr ymgyrch ac mae hi 'di bod yn flwyddyn ryfeddol," meddai Mr Thomas.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Noel Thomas ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon

Syr Alan wnaeth arwain "cynghrair cyfiawnder yr is-bostfeistri", fu'n galw am iawndal ariannol i gannoedd o bobl wnaeth ddioddef yn sgil sgandal Horizon, gan ddwyn achos fel grŵp yn erbyn Swyddfa'r Post.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "cydnabod y dioddefaint sydd wedi ei deimlo, ac mae'n amhosib mesur maint y dioddefaint sydd wedi ei achosi gan Sgandal Horizon".

"Rydym yn gweithio yn ddiflino ar draws y llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd wedi eu heffeithio yn cael cyfiawnder llawn a theg.

"Fe fydd y llywodraeth hon yn parhau i wrando ar yr is-bostfeistri ac yn sicrhau bod y cynlluniau yn darparu'r hyn sydd ei angen arnynt."

Ond, mae Noel Thomas yn dal i boeni'n fawr fod y broses yn cymryd cyhyd, ac yn achosi poen i bobl.

"Dwi'n teimlo ein bod ni wedi bod yn symud o un cam i'r llall ac yna yn cael ein taflu yn ôl eto," meddai.

"Fe fyddwch chi'n gweld llygedyn o olau yn dod, ac yna fe fyddai'r drws yn cau."

Pynciau cysylltiedig