Noel Thomas yn cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Disgrifiad,

Roedd Noel Thomas yn emosiynol ar ôl derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd

Mae’r cyn-bostfeistr Noel Thomas a’r awdur Manon Steffan Ros ymhlith y rhai sydd yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor eleni.

Mae Noel Thomas yn cael ei wneud yn Ddoethur er anrhydedd yn y Gyfraith a ddydd Llun fe gafodd Manon Steffan Ros ei henwi'n Ddoethur er anrhydedd mewn Llenyddiaeth.

Dywed Noel Thomas ei fod yn "emosiynol iawn a'i bod hi'n "anrhydedd i'r 500" o is-bostfeistri gafodd eu heffeithio gan sgandal Horizon.

Ychwanegodd Manon Steffan Ros ei bod "wedi gwirioni" i dderbyn gradd er anrhydedd ddydd Llun, er bod "ychydig o imposter syndrome" ganddi a hithau heb fod i'r brifysgol.

Bydd 10 unigolyn yn cael eu hanrhydeddu gan y brifysgol yr wythnos hon, a hynny am eu cyfraniadau at fywyd cyhoeddus, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Manon Steffan Ros ei gradd er anrhydedd gan y brifysgol ddydd Llun

'Graddio cyn fy ŵyr'

Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys Môn, oedd un o’r postfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon.

Fe gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post, ac fe gafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.

Dywed Mr Thomas bod y radd, sy'n cydnabod ei ran yn ymgyrch y cyn-bostfeistri am gyfiawnder, yn "anrhydedd arbennig iawn".

"Dwi'n emosiynol iawn, wnes i 'rioed feddwl, o sbio o stryd Bangor ar yr adeilad yma, a bod yn bart ohono yn y diwedd. Mae'n anrhydedd mawr.”

Disgrifiad o’r llun,

"Ma'i di bod yn 18 mlynedd tywyll iawn... O'r diwedd 'da ni'n dechrau dod i'r lan," meddai Noel Thomas, gyda'i deulu ym Mangor.

Nid y cyn-bostfeistr fydd yr unig un o’i deulu i raddio eleni - mi fydd yn achub y blaen ar Arthur, ei ŵyr 21 oed, sy'n graddio mewn Cemeg ddiwedd y mis.

"Mae 'na dynnu coes wedi bod acw!"

"Dwi'n 77 oed hefo llawer o stiwdants arall sydd llawer fengach na fi a wedi gweithio'n galed am dair blynedd..... ond dwi 'di cyrraedd erbyn hyn."

"Mae'i di bod yn anrhydedd i'r teulu.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr Noel Thomas bod y radd, sy'n cydnabod ei ran yn ymgyrch y cyn-bostfeistri am gyfiawnder, yn "anrhydedd arbennig iawn".

Bydd Syr Alan Bates hefyd yn derbyn gradd er anrhydedd gan y brifysgol yn ddiweddarach yr wythnos hon.

"Mae Alan Bates yn ei haeddu yn fwy na fi, mae wedi bod fel teigr i ddweud y gwir."

"Fel hen bostman, 'da chi'n cyfarfod â rhyw hen gi brathog a dyna be ydy Alan Bates, mae wedi gafael yr abwyd a wedi cau gollwng a dyna pam 'da ni lle ydan ni rwan."

“Mae Alan Bates wedi bod yn arwr i mi,” medd Mr Thomas.

Mae’n arwyddocaol mai gradd yn y gyfraith y bydd Mr Thomas yn ei derbyn, esboniodd.

“Wedi cwffio ‘da ni yn erbyn y gyfraith – yn erbyn twrneiod o Lundain oedd yn hawlio pres mawr."

“Mae’n anrhydedd i'r 500 ohonom ni.”

"Ma'i di bod yn 18 mlynedd tywyll iawn a diolch i bobl fel Alan Bates, y cyfryngau Cymraeg, Sion Tecwyn yn enwedig, a byth ers hynny, mae wedi bod yn rhedeg i fyny a lawr y wlad a gwneud lot o ffrindiau.

"O'r diwedd 'da ni'n dechrau dod i'r lan."

'Meddwl mwy na fedra' i ddweud'

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros wedi i Llyfr Glas Nebo ennill Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Manon Steffan Ros yn nofelydd, dramodydd, sgriptwraig a cherddor gafodd ei magu yn Nyffryn Ogwen. Ddydd Llun fe dderbyniodd hi radd er anrhydedd mewn llenyddiaeth am ei chyfraniad i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Ei nofel Llyfr Glas Nebo oedd y llyfr cyntaf wedi’i gyfieithu i ennill medal Yoto Carnegie yn 2023, sy’n gwobrwyo llwyddiant eithriadol ym maes llyfrau plant.

Dywed ei bod “wedi gwirioni” â’r anrhydedd, a ddaeth fel “gymaint o sioc a syndod” iddi.

“’Dw i ddim 'di bod i'r brifysgol, mae’r byd academaidd yn gwbl estron i fi – felly dwi’n teimlo ‘chydig o imposter syndrome.”

Ychwanegodd bod yr anrhydedd yn fwy arbennig fyth oherwydd ei chysylltiad hi â Bangor.

“Cafodd y brifysgol ei sefydlu gan y chwarelwyr a ges i fy addysg ym Methesda, felly mae’r cysylltiad hanesyddol yn arwyddocaol.

“A hefyd Bangor o’dd y dre’ i fi’n tyfu fyny... ym Mangor ‘nath mam ei ymarfer dysgu.

“Mae’n meddwl mwy na fedra i dd’eud.”

Pynciau cysylltiedig