'Fydd hwnna efo fi am byth': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae 49 o aelodau newydd wedi cael eu hurddo i Orsedd Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd fore Gwener.

Yn eu plith oedd y cyn-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o helynt cyfrifiaduron Horizon Swyddfa'r Post.

Roedd yn ddagreuol ar y llwyfan wrth dderbyn y wisg las, ac fe gododd y gynulleidfa ar eu traed i'w gymeradwyo.

Roedd y seremoni'n cael ei chynnal yn y Pafiliwn fore Gwner oherwydd pryderon am y tywydd ym Mhontypridd.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y seremoni'n cael ei chynnal yn y Pafiliwn oherwydd pryderon am y tywydd

Mae pobl yn cael eu hanrhydeddu am "eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.

Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maen nhw'n cael eu rhannu i dri chategori:

  • Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau;

  • Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl;

  • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.

Disgrifiad,

Roedd Noel Thomas yn ddagreuol ar y llwyfan, ac fe gododd y gynulleidfa ar eu traed i'w gymeradwyo

Wedi'r seremoni dywedodd Noel Thomas wrth BBC Cymru Fyw y bu hi'n brofiad "anhygoel, i sefyll ymysg pobl mor alluog... a finna' fel ryw bostman cyffredin".

"'Nes i 'rioed feddwl fyswn i’n gwisgo’r wisg las 'ma a bod yn rhan o’r Orsedd.”

Yn trafod yr ymateb y derbyniodd yn y Pafiliwn, dywedodd: “Ddim i fi ma' hwn - ma' hwn i’r dros 500 arall sydd wedi bod trwy'r un peth.

"'Da ni wedi sticio efo’n gilydd. Mewn nerth mae egni i ddweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, ei urddo i'r wisg las

Un arall a dderbyniodd y wisg las oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Joseff Gnagbo, sy'n geisiwr lloches o'r Arfordir Ifori ac wedi bod yn diwtor Cymraeg ail iaith yng Nghaerdydd.

Roedd Theresa Mgadzah Jones, symudodd i Brydain o Zimbabwe ac ymgartrefu yng Nghaerdydd, hefyd yn cael ei hurddo.

Bu'n gweithio i'r Groes Goch yng Nghasnewydd, gan gyflwyno'r Gymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Theresa Mgadzah Jones ei hurddo am gyflwyno'r Gymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid

Mae'r darlledwr Gerallt Pennant, a chyn-brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts, hefyd wedi'u derbyn i'r Urdd Derwydd - y wisg las - yn ogystal â'r barnwyr Meleri Tudur Thomas o Gaernarfon, John Thomas o Abertawe a'r Arglwydd John David Lloyd-Jones KC, sy'n un o farnwyr y Goruchaf Lys ac yn dod yn wreiddiol o Bontypridd.

'Fydd hwnna efo fi am byth'

Dywedodd Gerallt Pennant ei bod hi'n brofiad "bythgofiadwy... gwybod bo' fi yn y cwmni dethol yma".

Bu yntau'n rhoi teyrnged i Noel Thomas, gan ddweud fod "pobl wedi gofyn 'pam wyt ti’n edrych ymlaen at gael dy dderbyn i’r Orsedd?'

"Mae pobl yn annog rhywun i enwi un neu ddau o dy gyd-aelodau newydd.

“Dwi wedi gorfod brathu’n nhafod, ond o'n i’n gwybod mai’r enw o'n i angen neu eisiau ei ddweud oedd Noel Thomas, Gaerwen.

“Dwi 'di dod i’w 'nabod o ers dwy, dair, bedair blynedd bellach… ac wrth gwrs oedd rhywun yn synhwyro bysa rhywbeth hanesyddol yn digwydd yn ystod y seremoni 'na heddiw pan gododd pawb fel un i longyfarch Noel Thomas - fydd hwnna efo fi am byth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elfed Roberts a Gerallt Pennant ymysg y rheiny a gafodd eu hurddo i wisg las

Ymhlith y bobl eraill o ardal yr Eisteddfod eleni i gael eu hurddo mae Geraint Davies o Dreherbert a fu'n gynghorydd yn y Rhondda am flynyddoedd, ac yn aelod cynta'r ardal yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Hefyd yn cael eu hurddo oedd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghwm Cynon, cyn-gyfarwyddwr arholiadau CBAC, Derek Stockley, a Delyth Badder o Bontypridd - y patholegydd pediatrig cyntaf i fedru'r Gymraeg.

Cafodd mam a merch eu derbyn eleni hefyd - yr arbenigwr bwyd Nerys Howell, a'i merch, y chwaraewr rygbi Elinor Snowsill, enillodd 76 o gapiau dros Gymru cyn ymddeol y llynedd.

Bydd Snowsill yn cael ei hadnabod yn yr Orsedd dan yr enw Maswr y Merched.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mam a merch - Nerys Howell ac Elinor Snowsill - eu derbyn fore Gwener

Dywedodd wedi'r seremoni: “Oedd e’n emosiynol. O'n i ddim yn disgwyl e i fod yn emosiynol.”

“Mae’ anrhydedd fawr ac hyd yn oed yn fwy sbesial cael neud e wrth ymyl Mam.

“Dyw e ddim yn unrhyw beth o'n i’n disgwyl i fod yn rhan o, felly mae’n sioc fawr… mae’n golygu lot."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Angharad Lee ei derbyn i'r wisg werdd

Ymhlith y bobl i dderbyn y wisg werdd am eu cyfraniad i fyd y celfyddydau mae Angharad Lee, sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r ddrama gerdd Nia Ben Aur sy'n cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod eleni.

Hefyd yn cael ei hurddo oedd un o arweinyddion Côr yr Eisteddfod, Elin Llywelyn-Williams, sy'n ddirprwy bennaeth Ysgol Llwyncelyn yn y Rhondda.

Athrawes arall a gafodd ei hurddo yw Catrin Rowlands, sy'n dysgu yn Ysgol Llanhari, ac fe wnaeth yr awdur Jane Aaron dderbyn y wisg werdd hefyd.

Roedd 'na anrhydeddau hefyd i'r haneswyr Gareth Williams a Sian Rhiannon Williams.

Dau arall a gafodd eu derbyn am eu cyfraniad i'r Gymraeg yn ardal Merthyr Tudful oedd Anne England o Aber-fan a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan.