'Cymru yw'r lle i fod' i ddatblygwyr gemau cyfrifiadur

- Cyhoeddwyd
Mae un o sylfaenwyr cwmni gemau cyfrifiadur wedi galw ar ddatblygwyr eraill i ddod i weithio yng Nghymru.
Fe symudodd Rocket Science i Gaerdydd yn 2023 ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw bellach yn cyflogi 28 o bobl yn y brifddinas.
Daw hyn wrth i'r farchnad gemau byd-eang wynebu heriau ariannol, gyda diswyddiadau yn y sector yn y DU yn cyrraedd 14,600 yn 2024, yn ôl gwefan Obsidian.
Dywed Tom Daniel, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont, fod cwmnïau fel ei un ef yn wynebu cyfnod o "ail-sefydlu" ac y byddent yn gweld lleoliadau fel Caerdydd yn "fuddsoddiad gwell".
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
Mae gan Rocket Science, sy'n datblygu cydrannau i'r gemau, swyddfeydd yn nhaleithiau Efrog Newydd a Texas yn yr Unol Daleithiau ac mae wedi cael cymorth gan Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru er mwyn symud i Gymru.
Mae'r cwmni wedi gweithio ar brosiectau mawr gan gynnwys y gêm boblogaidd Fall Guys, gyda'r cyhoeddwyr Epic sy'n cynhyrchu Fortnite, a chrewyr y gêm Sims, EA.
Mae Cymru Greadigol o dan Lywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu cwmnïau newydd ac i gefnogi talentau ar lawr gwlad.
Mae tua 100 o gwmnïau gemau bellach yn gweithredu ar draws y wlad - mwy na thraean o gymharu â'r sefyllfa yn 2021.
Mae Cymru Greadigol wedi bod yn ariannu cynlluniau ar gyfer cwmnïau bach, rhaglenni mentora a hyfforddiant BTEC er mwyn gallu hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr gemau.

Dywed Daniel fod y syniad o greu gêm "wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl"
Mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn astudio BTEC mewn dylunio gemau, lle maen nhw'n dysgu sut mae codio, animeiddio a marchnata gemau cyfrifiadurol.
Dywed Alexia, 16, ei bod yn gwneud y cwrs ers mis Medi 2024 a bellach eisiau astudio un ai dylunio yn y brifysgol neu ddatblygu gêm tra ei bod yn gweithio.
Roedd o'r farn y gall dirywiad y diwydiant arwain at lai o gemau yn y blynyddoedd i ddod: "Mae 'na fwlch i ddatblygwyr wneud gemau llai gan roi llwyth o gariad fewn iddyn nhw.
"I mi, un fantais fawr yw'r gallu i fod yn symudol. Dwi'n gallu gweithio o fy ngliniadur a bod unrhyw le."
'Grêt gallu cael swydd yn lleol'
Dywed ei chyd-ddisgybl, Daniel, 17: "Mae'r syniad o greu gêm wedi bod yng nghefn fy meddwl ers blynyddoedd bellach, ac mae'r cwrs yma wedi fy ngalluogi i wneud hynny.
"Bydd yn grêt gallu cael swydd yn lleol, rhyw ddydd."
Dywedodd Rich Hebblewhite, uwch ddarlithydd mewn gemau a'r cyfryngau ym Mhrifysgol Wrecsam, er gwaetha'r toriadau o fewn y diwydiant, mae 'na "dwf a hanner" wedi bod yn y pum mlynedd ddiwethaf o ran sefydlu cwmnïau bychain yn y DU.
Dywedodd hefyd fod 'na "sylfaen gadarn" o gwmnïau cymharol fechan sydd wedi mynd o nerth i nerth.
Mae'r ystadegau yn cyd-fynd â barn Mr Hebblewhite.
Fe wnaeth dadansoddiad gan RSM UK ganfod fod y nifer o gwmnïau gemau newydd yn y DU wedi cynyddu bron i chwarter (22%) yn 2023.

Credai Tom Daniel y gall y cwmnïau mawr sy'n wynebu toriadau cael eu temtio i symud i ardaloedd rhatach
Mae Tom Daniel yn credu y gall y cwmnïau mawr sy'n wynebu toriadau gael eu temtio i symud i ardaloedd rhatach.
"Mae 'na ail-sefydlu yn digwydd a bydd yn rhaid i'r cwmnïau yma ail-adeiladu," meddai.
"Lle maen nhw am ail-adeiladu nawr o gofio eu bod wedi gorfod gwneud toriadau ariannol o filoedd? Ydych chi'n meddwl y 'newn nhw'r un fath - mynd i San Francisco, mynd i LA?
"Neu ydyn nhw am edrych ar Gaerdydd, a mynd, 'gall hwn fod yn fuddsoddiad gwell i ni'."
Ychwanegodd: "Os ydych chi'n fyfyriwr ac yn gwneud y cwrs gemau, dylech chi fod yn eithaf gobeithiol. Fe ddewch chi mewn i'r ail-sefydlu ar ryw bwynt."
'Edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod'
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol mai "ond y cychwyn" yw cael cwmnïau fel Rocket Science yng Nghymru.
"Mae Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi busnesau fel Rocket Science.
"Rydym yn gweld y diwydiant yma'n tyfu ac rydym yn falch o'r hyn rydym wedi ei gyflawni hyd yma, ond mae cymaint mwy i'w wneud," meddai.
"Cymru yw'r lle i fod, dwi'n meddwl, a dwi'n edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod."