Dynes a merch 2 oed wedi eu taro gan fws yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a merch ddyflwydd oed wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu taro gan fws yn Abertawe.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Oystermouth ynghanol y ddinas - tu allan i ddigwyddiad Gwledd y Gaeaf - tua 18:30 nos Sul.
Fe gafodd y ddynes a'r plentyn eu cludo i'r ysbyty er mwyn asesu eu hanafiadau, ond y gred yw nad ydynt yn rhai sy'n bygwth eu bywyd, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y ffordd ei hailagor yn ddiweddarach nos Sul.