Yr Urdd yn galw am ddatrys tlodi plant yng Nghymru 'ar frys'

Yn ôl y bobl ifanc a greodd y neges eleni, mae yna "stigma" o amgylch tlodi plant
- Cyhoeddwyd
Mae yna "stigma" ynghylch tlodi plant yng Nghymru, yn ôl pobl ifanc sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ei 103ydd flwyddyn, mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn gwneud "galwad frys" i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgelu bod bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
Cafodd y neges eleni ei llunio gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd.
Gwyliwch Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
Roedd Sofia Earles a Eve Thomas - y ddwy yn 18 oed - yn rhan o'r trafodaethau ynghylch y thema eleni.
Yn ôl Sofia mae "100%" stigma o amgylch tlodi plant.
- Cyhoeddwyd4 awr yn ôl
"Dwi 'di tyfu lan gyda phobl o gefndiroedd completely wahanol," meddai.
"Yn tyfu lan o'n i ddim yn gallu gweld y gwahaniaeth o'r plant oedd yn stryglo, a roedd y plant mwy lwcus a ffodus just ddim yn bod yn neis."
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod siarad am bethau fel hyn, a siarad yn agored am dlodi, yn enwedig gyda phlant, yn helpu llawer."

Roedd Eve Thomas (chwith) a Sofia Earles (dde) yn rhan o greu'r neges eleni
Dywedodd Eve bod y thema yn gallu bod yn bwnc "anghyfforddus".
"Mae lot o bobl ifanc ddim yn sylweddoli faint mae e o'n cwmpas ni, ond hefyd dyw oedolion ddim eisiau sylweddoli."
Yn ôl myfyrwyr Coleg y Cymoedd, mae peidio â chael y brandiau cywir o fwyd yn enghraifft o rywbeth sy'n gallu codi "embaras" ar blant.
Tlodi plant 'ar gynnydd'
Yn ôl yr Urdd mae'r neges yn gwneud galwad frys am newid, ar ôl i ystadegau diweddar Llywodraeth y DU gadarnhau bod 31% o blant yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi.
Yn ôl Eurgain Haf o elusen Achub y Plant Cymru, mae disgwyl i'r ffigyrau gynyddu.
"Erbyn y flwyddyn 2030 mae rhagolygon yn dweud bod y ffigwr yn mynd i gynyddu i bum miliwn o blant ar draws y Deyrnas Unedig," meddai.
"Ni'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi terfyn ar y budd-dal dau blentyn.
"'Da ni'n gwybod bydd hynna yn codi miliynau o deuluoedd allan o dlodi a rhoi mwy o arian ym mhocedu rhieni."

Mae elusen Achub y Plant yn rhagweld y bydd nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yn cynyddu, medd Eurgain Haf
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i leihau lefelau tlodi plant a "rhoi'r dechrau gorau i fywyd i bob plentyn".
Yn ôl llefarydd mae tasglu yn edrych ar sut i gyflawni hynny, ond dywedodd eu bod eisoes yn cynyddu budd-daliadau gyda chwyddiant ac yn cynyddu'r cyflog byw, ymysg polisïau eraill.
Dydd Mercher cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dyfarnu £1.5m i 25 o sefydliadau sy'n gweithio gyda theuluoedd mewn tlodi ledled Cymru.

Y criw fu'n llunio neges yr Urdd eleni
Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn draddodiad sy'n bodoli ers dros ganrif, lle mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges flynyddol i weddill y byd.
Fe'i hanfonwyd gyntaf yn 1922 trwy gyfrwng Morse code.
Y neges eleni yw'r prosiect cyntaf erioed o Gymru i dderbyn Nawddogaeth Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU.
Cafodd y neges ei chreu gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd yn Nantgarw, gyda chymorth Katie Hall - prif leisydd y band Chroma.

Gobaith Katie Hall yw bydd y neges yn helpu pobl ifanc sy'n byw mewn tlodi
Dywedodd Katie: "Lot o'r amser mae pobl ifanc yn cuddio'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn tlodi. Maen nhw'n teimlo rhyw fath o shame.
"Dyna'r neges oedd yn dod o'r bobl ifanc, bod angen gwneud rhywbeth.
"Achos os y'n ni'n amharu ar gyfleoedd pobl ifanc... mae'n amharu ar eu siawns nhw o gyrraedd eu potensial."
Mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel
Mewn ymateb i'r neges eleni mae'r Urdd wedi ymrwymo i barhau i apelio at deuluoedd incwm isel.
Mae'n cynnig o aelodaeth am £1 i aelwydydd incwm is, tripiau yn eu canolfannau preswyl i bobl ifanc na fyddai fel arall yn gallu cael gwyliau haf, ac mae'n gyflogwr cyflog byw gwirioneddol.
Yn ôl Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd, mae 25% o'r aelodau bellach o deuluoedd incwm isel.
Ymhen pythefnos bydd Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam hefyd yn cynnig mynediad am ddim i aelwydydd incwm isel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023