Cofio hyn? Dathlu 50 mlynedd o Theatr Ieuenctid yr Urdd

Llun o griw fu'n rhan o gynhyrchiadFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau'r cyfan - y criw fu'n rhan o'r cynhyrchiad cyntaf yn 1974

  • Cyhoeddwyd

Mae'n hanner can mlynedd ers cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd - cwmni sydd wedi rhoi llwyfan i gannoedd o blant Cymru, rhai sydd bellach yn enwau cyfarwydd.

Fe'i sefydlwyd yn dilyn trafodaethau rhwng prif swyddog Yr Urdd ar y pryd, R.E. Griffith, a'r dramodydd Emyr Edwards - oedd wedi ei blesio wrth feirniadu cystadlaethau drama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhontypridd 1973.

Y cynhyrchiad cyntaf - gyda 40 o actorion a thechnegwyr - oedd Cwymp ac Adferiad Dyn gan John Bowen, cyfieithiad J.M. Edwards, yn 1974.

Wedi hynny gwelwyd cynyrchiadau blynyddol ond daeth y cwmni i ben am gyfnod yn 2019 cyn ail-sefydlu gyda nawdd Llywodraeth Cymru yn 2022.

Eleni fe deithiodd y cwmni gyda Ble Mae Trenau'n Mynd Gyda'r Nos a Chwestiynau Mawr Eraill Bywyd, gan roi profiadau i genhedlaeth arall o bobl ifanc; rhywbeth sydd wedi digwydd ers 50 mlynedd fel mae'r lluniau a'r atgofion yma yn eu profi.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Un o gynhyrchiadau cynnar y cwmni oedd Jiwdas Iscariot yn 1979 - gydag ambell i enw cyfarwydd yn y cast. Ar y chwith yn y llun mae'r actor a chyflwynydd Stifyn Parri (Annas) ac Elfed Dafis (Caiaffas), aeth yn ei flaen i fod yn gyflwynydd rhaglenni plant a'r tywydd. Roedd Siân James a Simon Fisher hefyd yn y sioe. Huw Williams oedd Jiwdas, aeth yn ei flaen i fod yn ddyn camera

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dau o sêr y dyfodol yn y sioe Brenin Arthur (1980) - Siân James (canol y drydedd res) a Martyn Geraint (rhes gefn ail o'r chwith)

Roedd Siân James mewn nifer o gynyrchiadau - y gyntaf yn 1977 yn y sioe gerdd Harri, wnaeth newid ei bywyd.

Meddai: "Anghofiai fyth y profiad o sefyll ar lwyfan Theatr Felinfach ar y noson agoriadol efo’r cast o tua 30 o bobl ifanc yn aros i’r llenni melfed trymion agor.

"Roedd y cynnwrf yn yr awyr yn weledol bron - fel gwreichion o flaen fy llygaid, a sisial a sgwrsio’r gynulleidfa fel ton o drydar adar tu ôl i’r cyrtens. A dwi’n cofio teimlo’r don o emosiwn yma yn llifo drosta i a meddyliais: 'Waw… ie... dyma be dwi isio neud am weddill fy mywyd - actio, canu, perfformio!' O’n i’n un a’r bymtheg ar y pryd ac mewn amrantiad o’n i’n gwbod i ba gyfeiriad o’n i isio mynd yn yrfaol."

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Ymarferiadau Pinocio yn Llangrannog yn 1984

Lowri Evans, aeth yn ei blaen i weithio yn y byd teledu, sy'n cofio bod yn rhan o gynhyrchiad Pinocio:

"Wna i fyth anghofio'r diwrnod ddaeth Emyr Edwards i Ysgol Glantaf i'n cyfweld ni ar gyfer Cwmni Theatr yr Urdd ar ddechrau'r wythdegau; dyna be' o'dd cyffro! Pinocio oedd y cynhyrchiad. Dwi'n cofio mai Lisa Palfrey oedd y brif ran. Ges i ran fach iawn - plismon o'n i - ond dim ots!

"Ges i fynd i Langrannog i ymarfer am bythefnos, yna taith rownd theatrau Cymru. Am brofiad!

"Taniodd y Cwmni gariad at y theatr yndda i, sydd wedi aros efo fi, a dwi'n falch o fod wedi cael gyrfa yn cyfarwyddo dramâu teledu, ac oes o fwynhau ymweld â'r theatr, diolch i'r profiadau anhygoel ges i yn actio plismon ar lwyfannau theatrau Cymru pan o'n i yn fy arddegau.

"Diolch i Emyr Edwards a'r Urdd!"

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Chicago, 1986. Yn eistedd yng nghanol yr ail res (rhwng y ddau ddyn gyda het) mae'r actor a cyfarwyddwr Daniel Evans. Fuodd o hefyd yng nghynhyrchiad Godspell yn 1991

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad Chicago - a'r cerddor a'r actores Siân James...

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

... a rhai eraill o'r cast

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dwy o gast Elfis yn 1988, aeth yn eu blaenau i wneud gyrfa yn y cyfryngau - Elen Rhys, fu'n gynhyrchydd gyda BBC Cymru ac yn gyn-gomisiynydd gydag S4C a'r cynhyrchydd teledu Nia Dafydd, fu hefyd yn gyflwynydd teledu

Mae gan Elen Rhys, oedd hefyd yn rhan o gynhyrchiad Pinocio, atgofion melys o'i rhan yn Elfis:

"Roeddwn yn y Coleg Normal yn y cyfnod hwn. Dyma gast arbennig a chymaint ohonynt erbyn hyn yn wynebau cyfarwydd byd perfformio.

"Morgan Hopkins oedd Elfis ac roeddwn yn canu deuawd gyda fo ym mhob perfformiad - 'Car fi'n dyner'.

"Deuawd llawn awyrgylch a moment ramantus yn y sioe, ond yn ystod bob perfformiad byddai Morgan yn gwneud rhywbeth i geisio gwneud i mi chwerthin a minnau yn ceisio parhau mor broffesiynol â phosib.

"Dawnsio, canu a chyfeillgarwch yn llawn ffrindiau oes. Gwych."

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Y dyn ei hun... Elfis - neu Morgan Hopkins, aeth yn ei flaen i yrfa o actio gan gynnwys Twin Town, Very Annie Mary, Doctor Who, Torchwood, Y Gwyll a Pobol y Cwm

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o griw Elfis o1988

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elfis yn sbardun i yrfaoedd nifer o actorion y dyfodol, fel Ffion Dafis, Delyth Eirwyn. Roedd Llŷr Huws Gruffydd - wnaeth actio yn Jabas ond aeth i'r byd gwleidyddol - hefyd yn y cast

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Iddon Alaw (ar y blaen), aeth i serennu yn y West End ar ôl bod yn rhan o gynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd o Les Misérables yn 2005

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cysgu'n Brysur 2014 gyda Gethin Bickerton (Trystan Morgan yn Rownd a Rownd) yn cael ei fwlio, ac ar y dde iddo yr actores Rebeccca Hayes

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Huw Owen, cyn-gyflwynydd Cyw ddaeth yn ail yn Cân i Gymru 2023 a Gethin Bickerton - yng nghynhyrchiad Cysgu'n Brysur 2014

Ffynhonnell y llun, Kevin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mimosa yn 2015 - prosiect celfyddydol ar y cyd rhwng yr Urdd, Clwyd Theatr Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Fel rhan o ddathliadau 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo i Batagonia, aeth y cynhyrchiad yr holl ffordd i Batagonia i berfformio

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad arall o Les Misérables, y tro yma yn 2015. Roedd cast o 130 yn rhan o'r cynhyrchiad gafodd ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cast cynhyrchiad Aberhenfelen yn 2019

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad 2023 oedd Deffro'r Gwanwyn

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Ble Mae Trenau'n Mynd Gyda'r Nos a Chwestiynau Mawr Eraill Bywyd - cynhyrchiad 2024

Roedd yr actores Lauren Morais yn rhan o dîm ysgrifennu cynhyrchiad eleni - ond nid dyma ei phrofiad cytaf gyda'r cwmni:

“Roedd fy nghlyweliad cyntaf i gyda'r Theatr Ieuenctid, felly roedd yn gam enfawr i mi wrth adeiladu fy hyder. Yn sicr roedd yn rhan hanfodol o fy natblygiad mewn i fy ngyrfa nawr. Ond yn fwy pwysig cefais loads o hwyl!”

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cynhyrchiad 2024 Ble Mae Trenau'n Mynd Gyda'r Nos a Chwestiynau Mawr Eraill Bywyd fynd ar daith o gwmpas Cymru a pherfformio yn Aberteifi, Dolywern, Casnewydd, Ystradgynlais, Aberffraw a Nefyn