Rheolwr Caerdydd, Aaron Ramsey eisiau parhau fel chwaraewr

Fe fydd cytundeb Ramsey gyda Chaerdydd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr dros-dro Clwb Pêl-droed Caerdydd, Aaron Ramsey yn mynnu ei fod yn bwriadu parhau fel chwaraewr y tymor nesaf.
Cafodd Ramsey ei benodi'n rheolwr ar gyfer tair gêm ola'r tymor ar ôl i Omer Riza gael ei ddiswyddo ddydd Sadwrn.
Cyfartal 1-1 oedd hi yn ei gêm gyntaf wrth y llyw yn erbyn Rhydychen ddydd Llun, gyda chapten Cymru yn dweud ei fod yn "falch" o berfformiad y tîm - er bod y canlyniad yn golygu eu bod bellach driphwynt y tu ôl i'r clybiau y tu allan i'r tri isaf.
Dydi Ramsey ddim wedi chwarae ers iddo gael llawdriniaeth ar anaf i'w goes fis diwethaf, a bydd cytundeb y chwaraewr canol cae gyda'r clwb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.
'Gobeithio adfer fy ffitrwydd yn llawn'
Mewn cyfweliad wedi'r gêm brynhawn Llun, awgrymodd Ramsey nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ymestyn ei gyfnod fel rheolwr y tu hwnt i'r tymor hwn.
"Dwi'n canolbwyntio ar y tair gêm yma," meddai.
"Dwi'n dal i wella o'r llawdriniaeth ar fy nghoes, dwi'n dal i geisio cryfhau a dwi'n gobeithio adfer fy ffitrwydd yn llawn.
"Mae'r rôl yma am fod yn eithaf dwys am 10 diwrnod, ond wedyn fe alla i ymlacio a chanolbwyntio ar wella o'r anaf.
"Dydw i ddim ond yn edrych ar y ddwy gêm nesaf."
Fe fydd Caerdydd yn croesawu West Bromwich Albion ddydd Sadwrn cyn teithio i Norwich City ar benwythnos ola'r tymor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl