Ysgol yn rhoi'r 'gosb fwyaf difrifol' i ddisgyblion ar ôl ymosodiad honedig

Ysgol Uwchradd LlyswyryFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn yr ymosodiad honedig yn Ysgol Uwchradd Llyswyry bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd wedi rhoi'r "gosb fwyaf difrifol sydd ar gael" i ddisgyblion oedd yn rhan o ymosodiad honedig ar fachgen ysgol.

Cafodd fideo ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar 14 Mai yn dangos ymosodiad ar ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llyswyry, Casnewydd.

Mewn datganiad, dywedodd pennaeth yr ysgol, Julia Fitzgerald, a chadeirydd y llywodraethwyr, y Cynghorydd Mark Howells, nad ydy'r dysgwyr yn yr ysgol ar hyn o bryd.

Mae'r ysgol, medden nhw, yn "parhau i weithio gyda'r heddlu fel rhan o'u hymchwiliadau parhaus".

Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn a dau fachgen, gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'w ymholiadau barhau.

Mae pennaeth yr ysgol wedi diolch i rieni am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig