Ethol Kemi Badenoch yn Arweinydd y Blaid Geidwadol

- Cyhoeddwyd
Kemi Badenoch sydd wedi ei hethol yn arweinydd nesa'r Blaid Geidwadol.
Mae Ms Badenoch yn olynu'r cyn brif weinidog, Rishi Sunak, a fydd yn camu o'i rôl wedi'r golled yn yr Etholiad Cyffredinol.
Kemi Badenoch a Robert Jenrick oedd y ddau olaf yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Derbyniodd Kemi Badenoch 53,806 o bleidleisiau, tra derbyniodd Robert Jenrick 41,388.
Fe wnaeth 72.8% o aelodau'r Blaid Geidwladol fwrw eu pleidlais.