Gwahardd cyn-seren y Scarlets, Simon Easterby rhag gyrru

Fe chwaraeodd Easterby 65 o weithiau i Iwerddon yn ystod ei yrfa ryngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr y Scarlets a hyfforddwr dros dro Iwerddon, Simon Easterby, wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis am oryrru.
Fe gafodd ei ddal yn torri'r terfyn cyflymder o 70mya ar ffordd ddeuol yn Bodmin, Cernyw, ym mis Awst y llynedd.
Ddydd Llun fe wnaeth Llys Ynadon Caerdydd ystyried ei ymrwymiadau gwaith a theulu sy'n ei gwneud hi'n ofynnol iddo yrru.
Ond, fe benderfynodd y llys nad oedd hyn yn enghraifft o galedi eithriadol, ac fe gafodd yr hyfforddwr rygbi ei wahardd rhag gyrru am chwe mis.
Mi fydd rhaid i Easterby, sydd wedi chwarae mwy na 200 o weithiau i Lanelli a'r Scarlets, dalu dirwy yn ogystal â gordal.
Fe glywodd y llys y bydd rhaid iddo dalu cyfanswm o £1,345 o fewn yr wythnos nesaf.
Ym mis Chwefror, cafodd Easterby ei gysylltu â swydd wag prif hyfforddwr Cymru yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.
Cafodd ei ychwanegu yn ddiweddar at dîm hyfforddi'r Llewod wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer taith i Awstralia yn yr Haf.