Caernarfon: Yr heddlu wedi delio â 'digwyddiad gyda chi'

Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar ffordd Penrallt Uchaf fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Bu ffordd ar gau yng Nghaernarfon ddydd Sul wrth i'r heddlu ddelio gyda "digwyddiad yn ymwneud â chi" ynghanol y dref.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar ffordd Penrallt Uchaf toc wedi 11:00.

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans hefyd fynychu'r digwyddiad.

Does dim rhagor o wybodaeth hyd yma am y ci na natur y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu y bydd ganddyn nhw bresenoldeb yn yr ardal "am beth amser" tra bo'u hymchwiliad yn parhau.

Ychwanegon nhw nad oes rheswm i'r gymuned ehangach boeni.

Pynciau cysylltiedig