Siarter Hillsborough 'ddim yn ddigon' i sicrhau cyfiawnder yn y dyfodol

Fe geisiodd asiantaethau feio cefnogwyr am drychineb Hillsborough yn 1989
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwr pêl-droed oedd yn Hillsborough ar adeg y drychineb yn dweud nad yw siarter newydd yn ddigon i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr trychinebau eraill.
Bydd dros 50 o gyrff cyhoeddus Cymru yn arwyddo Siarter Hillsborough ddydd Mawrth, gan ymrwymo i ddweud y gwir yn dilyn unrhyw drychineb yn y dyfodol.
Daw hyn ar ôl i deuluoedd Hillsborough orfod brwydro am ddegawdau am atebion oherwydd bod asiantaethau wedi ceisio celu diffygion wedi'r drychineb yn 1989.
Mae Dylan Llywelyn o Bwllheli - oedd yno'r diwrnod hwnnw - yn ofni y bydd rhai staff sefydliadau yn dal i osgoi bod yn gwbl onest er mwyn gwarchod eu henw da.
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017
Ar ôl clywed gan berthnasau o drychinebau Hillsborough, Aberfan, tân Grenfell a bomio Manceinion, cyrff cyhoeddus Cymru ydy'r rhai cyntaf i fabwysiadu Siarter Hillsborough.
Mae'n ymrwymo swyddogion i roi budd y cyhoedd uwchlaw enw da unrhyw sefydliad; helpu dioddefwyr a'u teuluoedd; bod yn agored, didwyll a gonest mewn unrhyw ymchwiliad; peidio ceisio amddiffyn methiannau; a bod yn atebol a pharod i gael eu herio.

Mae Dylan Llywelyn yn teimlo mai cyfraith ydy'r unig ffordd o sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn onest a didwyll ar ôl trychineb
Ar ôl i 97 o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Lerpwl gael eu gwasgu i farwolaeth ym maes pêl-droed Hillsborough yn Sheffield yn 1989, fe geisiodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a rheolwyr y stadiwm gelu methiannau a beio cefnogwyr am y drychineb.
Roedd yna fethiannau a chelu diffygion gan asiantaethau yn nhrychinebau Aberfan, tân Grenfell a bomio Manceinion hefyd.
'Dim digon o ddannedd'
Roedd Dylan Llywelyn yn Hillsborough ar 15 Ebrill 1989, ac mae'n teimlo nad yw'r siarter newydd yn mynd yn ddigon pell.
"Dwi wedi gweld ac astudio gormod ar hyn i deimlo'n optimistig bod y siarter yma'n mynd i achub cyfiawnder," meddai.
"Cam ddylsa' hyn fod, ac os mai dyma ydy ei diwedd hi, fydd pethau'n parhau'n anffodus.
"Fydd rhai pobl yn cyfaddef, yn bod yn onest, yn cynorthwyo.
"Ond fydd 'na bobl eraill yn meddwl 'na, mae'n bwysicach i fi gadw'n dawel', i guddio tystiolaeth, i feio pobl eraill.
"I mi, does gan siarter ar ei phen ei hun ddim digon o ddannedd."

Roedd y Bwrdd Glo wedi cael rhybuddion am ddiogelwch y domen lo a lithrodd a gorchuddio Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan 1966
Un sy'n fwy gobeithiol y gall y siarter weithio ydy Alun Michael - cyn-brif weinidog Cymru - a gefnogodd fabwysiadu'r ddogfen pan oedd yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
Fel newyddiadurwr ifanc, bu'n gohebu o drychineb Aberfan i'r South Wales Echo yn 1966.
Mae'n dweud iddo weld ar hyd ei yrfa y pwysau y gall swyddogion cyfreithiol a chyllidol cyrff cyhoeddus ei roi ar staff eraill yn dilyn digwyddiadau mawr.
"Dwi'n meddwl bod y siarter yn rhoi'r cyfrifoldeb ar bawb," meddai.
"Mae'n dangos bod rhaid i bawb siarad yn agored a gonest.

Mae Alun Michael yn credu y bydd cymell cyrff cyhoeddus i fod yn agored yn helpu teuluoedd
"Ac mae'n rhoi ateb i'r bobl cyllid a chyfraith os ydyn nhw'n dweud 'mae hyn yn gyfrinachol, fedrwch chi ddim trafod hyn'.
"Mae'r siarter yn dweud bod rhaid i bawb gydweithio a bod yn onest pan mae pethau'n mynd o'i le."
Diwylliant 'wedi newid'
Un o'r cyrff fydd yn arwyddo'r siarter ddydd Mawrth ydy Heddlu Gogledd Cymru.
Yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Gareth Evans, mae diwylliant cyrff cyhoeddus wedi newid ers 1989.
"Mae pethau wedi newid lot ers trychineb Hillsborough, yn enwedig yn yr heddlu," meddai.
"Y dyddiau yma 'dyn ni'n lot mwy tryloyw yn y gwaith o ddydd i ddydd, a 'dyn ni'n trio rhoi hyder i staff os ydy pethau'n mynd o chwith i fod yn hollol onest reit o'r dechrau.
"A gawn ni wedyn ddysgu o beth sydd wedi digwydd a rhoi gwasanaeth gwell yn y dyfodol."

Mae Gareth Evans o Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod y siarter yn dangos bod diwylliant wedi newid
Tra'n croesawu'r siarter, mae'r gyfreithwraig ymchwiliadau cyhoeddus, Anna Lois Senter, yn awgrymu y bydd angen i gyrff cyhoeddus feddwl sut y bydd yn gweithio yn ymarferol.
"Mae 'na ddadl i ddweud mai'r cyfan mae'r siarter yma yn ei wneud ydy ymgorffori egwyddorion moesol sy'n bodoli'n barod," meddai.

Dywed y gyfreithwraig Anna Lois Senter y gall unigolion ofni bod onest mewn ymchwiliadau
"Dwi'n meddwl mai'r broblem ydy bod corff cyhoeddus neu unigolion sy'n gweithio iddyn nhw yn naturiol yn mynd i fod yn amddiffynnol.
"Maen nhw'n poeni eu bod nhw'n mynd i golli eu swydd neu gael eu disgyblu os oes 'na ganfyddiad bod nhw wedi bod ar fai.
"Be' fyse'n gallu digwydd ydy bod cyrff cyhoeddus yn rhoi sicrwydd i'w staff na fyddan nhw'n cael eu disgyblu os ydyn nhw'n bod yn agored yn ystod ymchwiliad cyhoeddus."
Cyfraith newydd
Ddechrau'r mis fe ddaeth hi i'r amlwg bod ymchwiliad 12 mlynedd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi casglu bod plismyn wedi ceisio osgoi cael eu beio yn dilyn trychineb Hillsborough, gan roi'r bai ar y cefnogwyr.
Ond bydd neb yn cael ei erlyn am gamymddwyn gan nad oedd y gyfraith ar y pryd yn gorfodi swyddogion i fod yn ddidwyll.
Fis nesaf mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno Deddf Hillsborough, fydd yn golygu y gallai gweithwyr cyrff cyhoeddus gael eu herlyn mewn llys troseddol os nad ydyn nhw'n bod yn ddidwyll yn dilyn trychineb gyhoeddus.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno'r ddeddf cyn 15 Ebrill eleni - 36 mlynedd ers trychineb Hillsborough.