Teithiwr wedi'i anafu ar ôl i fricsen gael ei thaflu drwy ffenest bws
- Cyhoeddwyd
Mae llygad dyst wedi disgrifio'r "sioc" o weld bricsen oedd i weld fel ei bod wedi cael ei thaflu drwy ffenest bws, gan anafu teithiwr.
Roedd Ioan Dyer yn teithio ar fws rhif 30 o Gasnewydd i Gaerdydd nos Sul, pan wnaeth bricsen chwalu'r ffenest a gorchuddio'r lle gyda gwydr.
Dywedodd Mr Dyer fod teithiwr gyda choets babi yn sefyll ger y ffenest yn gynharach, gan ychwanegu y "galle rhywun fod wedi cael eu lladd".
Dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n ymchwilio ac yn "gweithio gyda Bws Caerdydd i ddod o hyd i'r rheiny sy'n gyfrifol".
'Dal yn ffeindio darnau gwydr'
Fe ddigwyddodd y digwyddiad nos Sul wrth i'r bws deithio rhwng ardaloedd Llaneirwg a Rhymni yng Nghaerdydd, meddai Mr Dyer.
"Doedd y bws ddim yn llonydd, roedd e'n mynd full flight," meddai.
"Nes i glywed thud mawr, a gweld y fricsen 'ma yng nghanol y bws, a gwydr dros y lle i gyd.
"Roedd e dros fy nillad, dros fy ngwallt, bobman. Dwi dal yn ffeindio darnau gwydr yn fy waled i bore 'ma, oedd yn fy mag i."
Dywedodd Mr Dyer fod y fricsen wedi taro teithiwr oedd yn eistedd yr ochr arall i'r bws, gan anafu ei choes.
Ychwanegodd ei fod yntau'n eistedd tua metr yn bellach yn ôl o'r ffenest gafodd ei chwalu, a'i bod hi'n "lwcus" fod teithiwr oedd yn sefyll yno yn gynharach eisoes wedi gadael y bws.
"Os oedd oedolyn yn fan'na pan wnaeth e ddod drwy'r ffenest, bydde fe wedi eu bwrw nhw yn y pen.
"Fi ddim yn ddoctor o bell ffordd, ond bydde fe wedi 'neud niwed rhyfeddol."
Dywedodd Mr Dyer ei fod wedi gweld person yn rhedeg i ffwrdd "allan o gornel fy llygad", yn dilyn y digwyddiad.
Ychwanegodd fod y gyrrwr bws wedi dweud wrth y teithwyr am eistedd ar y llawr uchaf am weddill y siwrne i ganol Caerdydd.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r De eu bod yn "ymchwilio i adroddiadau o ddifrod troseddol i fysus yn nwyrain Caerdydd".
"Wnawn ni ddim goddef y math yma o ymddygiad troseddol a gwrth-gymdeithasol, sy'n peryglu diogelwch ein teithwyr, gyrwyr bws a defnyddwyr ffordd eraill," meddai.
"Byddwn yn gweithio gyda Bws Caerdydd i ddod o hyd i'r rheiny sy'n gyfrifol."
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda Bws Caerdydd am sylw.