Bae Trearddur: Dod ag ymgyrch chwilio am ddyn i ben

Gareth BowenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Gareth Bowen ar goll oddi ar arfordir Môn ym Mae Trearddur nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae gwylwyr y glannau wedi dod â'u hymdrechion i ddod o hyd i ddyn gafodd ei ysgubo i'r môr oddi ar arfordir Môn i ben.

Fe aeth Gareth Bowen, 46 o Frychdyn yn Sir y Fflint, ar goll ym Mae Trearddur nos Sadwrn 29 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad toc wedi 19:00.

Roedd hofrennydd a badau achub yr RNLI yn rhan o'r chwilio dros y penwythnos.

Roedd Gwylwyr y Glannau Caergybi, Moelfre a Rhosneigr hefyd yn rhan o'r ymgyrch ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bu gwylwyr y glannau'n chwilio am Mr Bowen dros y penwythnos ond bellach mae eu hymgyrch wedi dod i ben

Fe wnaeth teulu Mr Bowen rannu neges drwy'r heddlu yn diolch i’r asiantaethau a oedd ynghlwm â’r chwilio.

Dywedodd ei fam, Lorraine: “Mae ein teulu’n hynod ddiolchgar am y chwilio a’r ymdrech a wnaed gan bawb wrth chwilio am Gareth ers nos Sadwrn.”

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y gwaith chwilio wedi dod i ben ond bod yr ymholiadau'n parhau.